gan Nel Roberts, Ysgol Dyffryn Ogwen
I ba raddau mae ffasiwn a’r cyfryngau yn cyfrannu at ddiwylliant deiet ac anhwylderau bwyta?
Gyda mwy a mwy o bobl ifanc y dyddiau hyn yn dioddef anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl penderfynais ymchwilio i ba raddau mae ffasiwn a’r cyfryngau yn cyfrannu at ddiwylliant diet ac anhwylderau bwyta?
Nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni teledu, cylchgronau, y diwydiant modelu ayyb yn cael effaith andwyol ar ein cymdeithas heddiw yn enwedig ymysg y to ifanc.
Heb os nac oni bai dyma bwnc difrifol a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth.
Yn ogystal, mae’r pwnc wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn dilyn y pandemig, gan arwain at fwy o ymchwil a phobl yn siarad yn fwy agored am y testun, gan achosi i gwmnïau a chorfforaethau geisio gwneud newidiadau er gwell.
Fy marn bersonol am y testun hwn yw, er gwaethaf ymdrechion y cwmnïau i newid, nid yw’n ddigon ac felly mae angen gweithredu cyn gynted â phosibl gan mai’r gwir yw bod y broblem yn parhau i waethygu. Yn ogystal â siarad o brofiad trydydd person a’r effaith gyffredinol mae’r diwydiant yn ei gael ar ein cymdeithas, gallaf hefyd siarad o brofiad personol gan fod hwn yn bwnc llosg sy’n effeithio’n bersonol arnaf i fel person ifanc.
Y gwir creulon yw mai nad problem newydd mo hon, ond yn sicr dros y degawdau diwethaf mae wedi gwaethygu. Boed yn ferched ifanc yn methu cael hyd i’w maint nhw mewn siop ddillad neu’n fodelau byd enwog, mae’n bwnc perthnasol ac mae angen codi ymwybyddiaeth amdano.
Un peth rydw i wedi dod o hyd iddo wrth wneud y gwaith ymchwil ar y testun hwn yw tystiolaeth fod gwahanol agweddau o’r diwydiant ffasiwn yn cyfrannu at y diwylliant diet.
Yn ôl yn erthygl ‘Causes of eating problems – Mind’; dengys yr holl ffactorau sy’n medru cyfrannu at anhwylderau bwyta, gan ddweud fod y rhan fwyaf o arbenigwyr yn meddwl y caiff anhwylder bwyta ei hachosi gan gyfuniad o ffactorau, yn hytrach na un peth.
Dywed mai rhai o’r nodweddion cyffredin mewn pobl sy’n dioddef ag anhwylder bwyta yw dyhead am berffeithrwydd, diffyg hunan hyder, bod yn anfodlon, yn feirniadol o’ch hun ac yn orgystadleuol ac ymddygiadau obsesiynol cymhellol.
Dysgwn fod profiadau bywyd anodd fel camdriniaeth gorfforol, emosiynol neu rywiol, problemau teulu difrifol, marwolaeth rhywun sy’n agos atoch neu bwysau yn yr ysgol neu’r gwaith yn medru bod yn gysylltiedig â phroblemau bwyta. Dywed hefyd fod newidiadau mawr yn eich bywyd fel newid ysgol, dechrau swydd newydd, archwilio eich rhywioldeb neu adael eich cartref a symud i rywle newydd i gyd yn medru cyfrannu at y datblygiad o anhwylder bwyta.
Cawn wybod bod profiadau teuluol yn medru achosi neu waethygu problemau bwyta, yn enwedig yn ystod plentyndod. Rhai enghreifftiau yw rhieni arbennig o lym, gyda disgwyliadau uchel ohonoch neu fyw mewn cartref lle nad oeddech yn teimlo’n ddiogel na’n sefydlog. Gall aelod arall o’ch cartref yn mynd ar ddiet, yn dioddef o orfwyta neu â phroblem bwyta hefyd effeithio arnoch chi yn ei dro. Mae pwysau cymdeithasol o ganlyniad i gael ein hamgylchynu gan ffilmiau, cylchgronau, cyfryngau cymdeithasol a hysbysebion yn ffactor sy’n aml yn cyfrannu ac yn helpu i sefydlu problem bwyta.
Ar ben hynny, dysgwn fod problemau iechyd corfforol a meddyliol eraill, gan gynnwys iselder, gorbryder, anhwylder deubegynol, anhwylder dysmorffia’r corff neu glefyd siwgr yn medru eich gwneud yn fwy tebygol i ddatblygu anhwylder bwyta. Gall hyn fod oherwydd eich bod yn teimlo rheolaeth dros eich corff wrth gyfyngu’ch hun i reolau’r anhwylder. Mynega’r erthygl fod gwaith ymchwil yn profi fod ffactorau biolegol a genetig yn effeithio ar eich siawns o ddatblygu problem bwyta, gan ddweud fod nifer rhai cemegau yn wahanol mewn pobl sydd ag anhwylder bwyta. Mae serotonin yn yr ymennydd yn effeithio ar eich hwyliau yn ogystal â’ch archwaeth bwyd, a gwelwyd fod gan bobl sydd â phroblem bwyta ormod neu ddim digon ohono. Gall rhai fod yn fwy sensitif i’r hormonau sy’n rheoli ein chwant bwyd a theimlo’n llawn, a all eu harwain at orfwyta neu ddim bwyta digon.
Un o’r llyfrau cyntaf oedd yn trafod y broblem hon oedd llyfr gan Hilde Bruch yn 1973 o’r enw ‘Anhwylderau Bwyta: Gordewdra, Anorecsia Nervosa, a’r Person Tu Mewn’ sef y gwaith mawr cyntaf ar broblemau bwyta ond roedd wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol yn unig ac nid oedd ar gael i’r cyhoedd.
Yna, yn 1978, rhoddodd Bruch ei gwaith arloesol i ni, ‘The Golden Cage’, sy’n parhau i ddarparu dealltwriaeth gymhellol, angerddol ac empathetig o natur anhwylderau bwyta, ac o’r diwedd, dechreuodd y cyhoedd, er gwell neu waeth, gael eu haddysgu. Gyda’r llyfr a’r ffilm deledu ‘The Best Little Girl in the World’, daeth Steven Levenkron a’r wybodaeth am anorecsia i’r cartref arferol.
Ers hynny, dechreuodd gylchgronau redeg erthyglau ar anhwylderau bwyta, ac maent wedi parhau i geisio dangos i’r cyhoedd fod y bobl yr oeddem yn meddwl oedd gan bopeth; harddwch, llwyddiant, pŵer a rheolaeth, yn brin o rywbeth arall. Arweiniodd hyn at nifer o enwogion yn cyfaddef eu bod yn brwydro problemau bwyta. Cwestiwn poblogaidd yn y cyfnod oedd; A oedd anhwylderau bwyta wir yn rhywbeth cyffredin neu a oedd wedi bod yno’r holl amser, ond yn cuddio?
Ar ddiwedd y 19eg ganrif, cyrff cnawdol oedd yn ffasiynol, ond erbyn y 90au, roedd y stereoteip yr esthetig anorecsig wedi teyrnasu am dros 20 mlynedd. “Mae edrychiad Twiggy yn bendant drosodd” meddai Dr Katherine Halmi, gyda beth oedd yn arfer cael ei ystyried i fod yn ‘dew’, nawr yn medru bod yn ‘heini’, neu o leiaf mewn darluniau marchnata o ferched.
Dywed fod merched a fagwyd yn y cyfnod cynt a darlun hunllefus yn eu pen o fod yn ordew, gyda’r ofn yn ysgogi deietio ‘yo-yo’, bwlimia ac anorecsia, anhwylderau sydd a’r potensial i fod yn llawer mwy peryglus nag ychydig o bwysau ychwanegol. Amcangyfrifodd Dr. Jean Rubel fod dros hanner merched rhwng 10 a 30 yn dioddef o anhwylder bwyta yn y 90au.
Hoffwn ystyried y cwestiwn a yw anhwylderau bwyta modern yn medru bod yn fwy peryglus na’r stereoteip sy’n bodoli eisoes ym meddyliau’r mwyafrif o’n cymdeithas? Ystyriaf hyn oherwydd bod nifer o bobl sy’n dioddef o anhwylderau bwyta heddiw yn cael eu hanwybyddu nid yn unig gan ein cymdeithas, ond gan y sgwrs iechyd meddwl yn gyfan gwbl.
Dysgaf mai’r rheswm dros hyn yw am fod y broblem ddim yn weladwy, dydy’r rhai sy’n dioddef ddim bob amser yn amlwg o dan bwysau nac yn arddangos yr un symptomau ac arwyddion o arferion bwyta sy’n achosi pryder.
Yn ôl ABC (Anorexia & Bulimia Care), mae 1.6miliwn o bobl yn y DU yn dioddef o anhwylder bwyta, gan fynegi fod ar gyfartaledd, y mwyafrif o achosion yn dechrau ym mlynyddoedd yr arddegau hwyr. Yn ogystal, tra bod y stereoteip niweidiol yn awgrymu’n gryf mai problem i ferched yn unig yw anhwylderau bwyta, mae 25% o bobl y DU sydd yn dioddef, yn wrywod.
Barn llawer o gynllunwyr yw ei fod yn ddrytach i gynhyrchu dillad addas i bobl o faint mwy, ond efallai mai’r gwir yw bod y cynllunwyr yn methu allan ar elw mawr all gael ei wneud yn y maes hwn gan fod dros 80% o ferched ‘plus-size’ a gafodd eu holi yn dweud y byddent yn gwario mwy ar ddillad os oedd mwy o ddewisiadau yn eu meintiau nhw. Yn ogystal, dywed 90% ohonynt y byddent yn prynu mwy o ddillad petai dewisiadau mwy ffasiynol ar gael iddynt.
Dysgais fod rhai pobl o fewn y diwydiant wedi ymateb i feirniadaeth dros bwysau modelau drwy ddweud fod beth gaiff ei weld ar y rhedfa ddim i fod yn adlewyrchiad o fywyd go iawn, gyda chynllunwyr yn dewis modelau gwneith wisgo’r dillad yn y modd y cafon nhw’u dychmygu.
Credaf fod hyn yn wir i raddau, gan fod rhai o’r casgliadau gaiff eu harddangos yn annhebygol iawn o gael eu gwisgo ar y strydoedd yn eu cyfanrwydd, ond yn achos casgliadau ‘ready to wear’, dyna’n union yw eu pwrpas, ac mae’n ei gwneud yn anodd iawn i’r mwyafrif o bobl i ddychmygu gwisgo’r dillad yna pan mae’r holl gyrff sy’n modelu’r dillad yn gwbl wahanol i’w cyrff nhw.
Dyma, o bosibl, sy’n achosi i bobl ddatblygu arferion anhwylus, gan mai’r unig ffordd gallwch edrych yn dda mewn dilledyn yw os ydych yn hynod denau.
Felly beth am effaith y cyfryngau ar y pwnc? Does dim amheuaeth bod y cyfryngau yn caniatáu i bobl gyflwyno’u hunain mewn ffordd sydd ddim yn wir i bwy ydynt, ac yn achosi i bobl gymharu’u hun efo rhywbeth na fydden nhw byth yn medru ei gyflawni, a bod yn rhaid i ni atgoffa’n hunain yn gyson nad yw beth rydym yn ei weld yn wir.
Rywbeth brawychus iawn yn ddiweddar yw bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, anhwylderau bwyta’n enwedig, wedi bod yn ail ystyried eu gwellhad, gan gredu ei fod yn ffasiynol ac yn cŵl i fod yn dioddef.
Gyda nifer o gwmnïau wedi penderfynu wedi penderfynu peidio defnyddio modelau dan-bwysau yn eu sioeau yn ddiweddar gwelwyd hefyd ddeddfwriaeth Ffrengig sy’n dweud na ddylai unrhyw fodel fod yn llai na maint DU 6, a dylai bob un gael tystysgrif feddygol yn profi eu bod yn ddigon iach i weithio; mae deddfau tebyg yn bodoli’n barod yn yr Eidal, Sbaen ac Israel.
Tra bod hyn yn gam yn y cyfeiriad cywir, y gwir yw nad yw pwysau yn broblem fawr yn y gwledydd hyn beth bynnag, felly byddai’r ddeddf yn llawer mwy effeithiol ar ochr arall môr yr Iwerydd.
Felly i gloi wrth ymchwilio i’r cwestiwn ‘I ba raddau mae ffasiwn a’r cyfryngau yn cyfrannu at ddiwylliant deiet ac anhwylderau bwyta?’, dysgais fod nifer o ffactorau yn achosi anhwylderau bwyta, gan gynnwys profiadau bywyd anodd, dyhead am berffeithrwydd ac ymddygiadau obsesiynol cymhellol.
Hefyd, darganfydais tra bod anhwylderau bwyta wedi bodoli i ryw raddau erioed, mae sut y maent yn cyflwyno’u hunain wedi newid dros y blynyddoedd.
Yn ogystal, cefais ddealltwriaeth fanylach o’r diffyg mewn opsiynau dillad sydd ar gael i bobl o faint mwy, a sut mai barn llawer o fewn y diwydiant ffasiwn yw bod dillad yn gwerthu orau os yw’r modelau yn hynod o denau.
Does dim amheuaeth felly yn fy meddwl bod angen i fwy newid er budd pobl ifanc y dyfodol.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.