gan Osian Jones
Nid yw Cymru ar Werth
Ers yr haf mae grymoedd newydd gan gynghorau lleol i fynd i’r afael â phroblem ail dai a thai gwyliau. Diolch i bobl sydd wedi dod i ralïau ac ateb ymgynghoriadau rydyn ni wedi ennill y mesurau yma felly byddwn ni’n defnyddio rali Nid yw Cymru ar Werth yn Llanrwst ddydd Sadwrn yma, Rhagfyr 17, i bwyso ar gynghorau i ddefnyddio’r grymoedd newydd yma yn llawn.
Wrth gwrs, dim ond rhan o’r broblem yw ail dai a thai gwyliau. Mae tai yn cael eu trin fel ased i wneud elw, yn lle fel cartref, sy’n golygu bod prisiau tai lawer yn uwch na chyflogau lleol. Gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio prynu tŷ mae’n rhaid i bobl leol adael eu cymuned leol. Mae pobl ifanc yn enwedig dan anfantais a dyna fydd neges Mari Jones, merch ifanc leol, sydd yn siarad yn y rali.
Ond dydy hon ddim yn broblem newydd, mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu am Ddeddf Eiddo ers yr 80’au. Mae’r sefyllfa yn sicr wedi gwaethygu dros y blynyddoedd, ac wedi dod y fwy amlwg yn ddiweddar. Er hynny, dydy’n cynghorau na’r Llywodraeth ddim yn gwneud digon, nac yn gweithredu’n ddigon sydyn.
Mae ymateb y Llywodraeth hyd yn hyn wedi canolbwyntio ar ail dai, ac mae wedi bod yn araf i roi cyfarwyddid i gynghorau ar ddefnyddio’r grymoedd newydd.Felly byddwn ni hefyd yn pwyso yn y rali am Ddeddf Eiddo gyflawn – ac yn pwyso ar gynghorau i ymuno â’r alwad honno.
Rydyn ni wedi diweddaru ein cynigion ar gyfer Deddf Eiddo a fyddai’n rheoleiddio’r farchnad tai gan greu marchnad leol; yn blaenoriaethu ac yn buddsoddi mewn cymunedau ac yn golygu bod tai yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i’w rhedeg.
Ymgyrchu llawr gwlad sydd wedi golygu bod y Llywodraeth wedi gweithredu ar ein galwadau felly bydd yr ymgyrch yn parhau.
Dewch i faes parcio Glasdir, Llanrwst, erbyn 2pm ddydd Sadwrn yma i glywed mwy,a chadwch lygad ar wefan Cymdeithas yr Iaith a thudalen facebook Nid yw Cymru ar Werth.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.