Lansio menter newydd i annog mwy o fwyd o Gymru ar blatiau y sector cyhoeddus yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio menter newydd i annog mwy o wariant lleol ar fwyd gan y GIG, ysgolion a llywodraeth leol yng Nghymru i helpu i gefnogi cynhyrchwyr o Gymru, creu mwy o swyddi a hybu ffyniant mewn cymunedau lleol, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
Mae adnodd caffael bwyd ar-lein newydd, ‘Prynu Bwyd Addas at y Dyfodol’ yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i gefnogi economïau lleol bob dydd Cymru.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod yr Economi Sylfaenol yn gyfrifol am bedwar o bob deg swydd, a £1 ymhob tri sy’n cael ei wario yng Nghymru.
Mae bwyd yn sector Economi Sylfaenol hanfodol sydd wedi wynebu – ac sy’n dal i wynebu – nifer o heriau yn dilyn Brexit, pandemig Covid ac yn fwy diweddar, y rhyfel yn Wcráin a biliau ynni a thanwydd cynyddol.
Mae gan gaffael y sector cyhoeddus rôl bwysig o ran helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn ac ail-leoleiddio’r cadwyni bwyd, a sicrhau cymaint o hunangynhaliaeth a gwydnwch â phosibl.
Mae’r canllawiau cyfreithiol newydd yn yr adnodd ar-lein yn egluro’r hyn y gellir ei gynnwys mewn tendrau bwyd, tra’n parhau i gydymffurfio â rheolau caffael, i sicrhau’r cyfleoedd mwyaf posibl i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol.
Mae caffael bwyd y sector cyhoeddus yng Nghymru werth tua £84.7m y flwyddyn, gyda Llywodraeth Leol a GIG Cymru gyda’i gilydd yn gyfrifol am fwy nag 80% o hynny.
Y sector cyhoeddus yn prynu gan gwmnïau o Gymru yw 58% o’r gwariant cyffredinol, ac mae bwyd o Gymru yn gyfrifol am 23%.
Mae’r ymrwymiad Darparu Prydau Ysgol am Ddim Sylfaenol, gan sicrhau y bydd pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024, yn gyfle gwirioneddol am newid sylweddol mewn polisi ac ymarfer i drawsnewid y system fwyd a mynd i’r afael â’r datgysylltiadau sydd ynddo. Bydd gweithio ar y cyd, rhannu data ac adeiladu perthynas gref, foesegol rhwng yr holl chwaraewyr ledled y system fwyd yn allweddol.
Yn ddiweddar aeth y Gweinidog ar ymweliad â Gower View Foods ym Mharc Bwyd Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl cael eu hadnabod fel y prif gwmni pecynnu menyn annibynnol y DU, gan bacio menyn ar gyfer y rhan fwyaf o frandiau mwyaf blaenllaw’r DU ac Ewrop. Bu’r Gweinidog hefyd yn cyfarfod â Ferrari Coffee, Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r cynhyrchwyr yn edrych ymlaen at y canllaw newydd fydd yn annog mwy o fwyd a diod o Gymru i gael eu defnyddio yn y sector cyhoeddus.
Meddai Jon Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Gower View Foods:
“Mae Gower View Foods yn cynhyrchu cynnyrch Cymreig sydd wedi ennill gwobrau wedi gan gyflenwi ystod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Mae’n dda gweld lansiad y canllaw i gaffael cyhoeddus er mwyn helpu i gynyddu nifer y cwmnïau bwyd a diod o Gymru sy’n cyflenwi’r sector cyhoeddus.”
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae yna gyfle gwych i roi mwy o fwyd o Gymru ar blatiau cyhoeddus yng Nghymru a chefnogi ein cynhyrchwyr lleol.
“Mae adeiladu’r gallu a’r sgiliau angenrheidiol i ymgorffori amcanion Economi Sylfaenol ar draws sector cyhoeddus Cymru yn hollbwysig. Drwy wneud hyn, gallwn wneud y mwyaf o gyfleoedd i gyflenwyr o Gymru a meithrin cadwyni cyflenwi gwydn a hynod fedrus. Gallwn helpu i ddatblygu’r busnesau hyn, i ddenu a chadw talent newydd ac ailgylchu’r bunt Gymreig yn ein cymunedau.
“Mae’r adnodd caffael bwyd ar-lein yn rhan o’r pecyn a’r gefnogaeth angenrheidiol i randdeiliaid ac ymarferwyr y sector cyhoeddus a fydd yn helpu i newid meddylfryd i ganolbwyntio ar greu gwerth drwy ein gweithgarwch caffael, yn hytrach nag arbedion arian parod fel y gellir cyflawni’r buddion ehangach a’r nodau lles hynny.”
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Yng Nghymru rydym yn cynhyrchu bwyd a diod ardderchog, ac rwy’n falch o weld y fenter newydd hon fydd yn helpu’r sector cyhoeddus i brynu’n lleol. Mae hyn yn dda i’n cynhyrchwyr bwyd ac i’r economi leol. Bydd yn gyfle gwych i gynhyrchwyr ac i annog mwy o’r sector cyhoeddus i brynu cynnyrch sy’n agosach at adref.”
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.