Lleisiau Newydd: Poblogrwydd y peiriannau llaeth – gan Mared Ela Williams, Ysgol Glan Clwyd

Barn

gan Mared Ela Williams, Ysgol Glan Clwyd

Cynaliadwyedd, ffresni… a phris teg i ffermwyr am eu cynnyrch

Ers y pandemig, mae’r farchnad ar gyfer prynu llaeth drwy beiriant gwerthu llaeth ar ffermydd wedi cynyddu wrth i fusnesau orfod addasu i oroesi’r newidiadau yn yr economi ac ar brisiau llaeth.Mae cynnydd aruthrol wedi bod mewn peiriannau gwerthu llaeth wrth i fwy o ddefnyddwyr siopa’n lleol o ganlyniad i’r pandemig.

Mae tua 300 o beiriannau gwerthu llaeth ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n cynnwys Iwerddon ac Ynysoedd y Sianel, wedi dod i’r golwg wrth i’r ffermwyr feddwl ar ffurf newydd o werthu eu cynnyrch. Mae’r twf ym mhoblogrwydd y peiriannau yn adlewyrchu’r diddordeb cynyddol ymhlith cwsmeriaid am bwysigrwydd cynaliadwyedd a ffresni llaeth, ynghyd a’r angen i gefnogi ffermwyr llaeth drwy sicrhau eu bod yn cael pris teg am eu cynnyrch.

Un o’r rhesymau mae cwsmeriaid yn ffafrio’r defnydd o beiriannau llaeth sy’n lleol yw’r ffaith fod modd ailddefnyddio’r poteli llaeth gwydr y hytrach na phrynu poteli llaeth plastig yn rheolaidd. Mae hyn yn lleihau nifer o wastraff plastig a fyddai fel arfer yn cael ei ddosbarthu i’r amgylchedd.

Ffactor arall yw’r ffaith fod cwsmeriaid eisiau cefnogi busnesau lleol. Yn aml, busnesu annibynnol sydd yn dioddef fwyaf, ac felly mae pobl yn gwneud yr ymdrech i gefnogi eu gwerthwyr lleol lle gallant.

Ar wahân i’r manteision i’r fferm ac i’r amgylchedd, mae prynu llaeth o beiriant gwerthu ar fferm yn brofiad mwy dymunol ar y cyfan. Mae’n beth hyfryd i’w wneud ar ddiwrnod heulog, ac mae gwir deimlad o foddhad o wybod eich bod yn helpu ffermwr i ennill mwy o arian ar gyfer ei waith. Wrth i fwy o ddiddordeb godi mewn sut y gallwn siopa’n lleol a lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd, mi fydd peiriannau gwerthu llaeth yn sicr yn dod yn fwy poblogaidd.

Cyn bo hir, efallai bydd gan ffermydd ledled y wlad beiriannau gwerthu wrth eu giatiau neu ar eu buarth, wrth i bobl giwio am beint arall o’r llaeth mwyaf ffres y gall arian ei brynu. Yn ogystal, braf yw cael gweld plant ifanc yn cael eu haddysgu o ble daw llaeth drwy ymweld â’r peiriannau a phasio’r gwartheg a gynhyrchodd yr union laeth hwnnw yn y caeau cyfagos.

Yn fy ardal enedigol yn Nyffryn Clwyd, mae fferm Llwyn Banc wedi ymuno â’r tuedd ac wedi adeiladu safle ar gyfer gwerthu eu llaeth. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad gydag un o berchnogion a sylfaenydd Llwyn Banc sef Rhys Hughes. Cafodd Rhys Hughes ei fagu yn Llwyn Banc a bellach wedi ailgychwyn menter roedd y fferm unwaith yn adnabyddus amdani , sef ei rownd llaeth yn y 70au ar 80au. Oni bai am yr ychwanegiad modern sef yr ysgytlaeth, mae ei fwriad yn parhau fel yr oedd 40 mlynedd yn ôl, i ddarparu llaeth i’r gymuned.

 

O ble daeth y syniad i ddechrau’r busnes?

Ers gadael coleg Llysfasi, dwi wastad wedi bod eisiau dechrau busnes fy hun. Yn y flwyddyn 2018 mi wnes i benderfynu dechrau gwerthu coed ‘dolig i gael blas ar redeg busnes. Ar ôl dwy flynedd lwyddiannus o werthu coed ‘dolig, fe wnaethom fel teulu yn Llwyn Banc benderfynu gwerthu llaeth yn syth i’r cwsmer yn lle gwerthu i’r archfarchnadoedd mawr. Dim dyma’r tro cyntaf i’n teulu ni werthu llaeth i’r gymuned leol. Yn y 60au ac yr 80au, roedd gan Taid a Nain (Eddie a Megan Llwyn Banc) rownd laeth o gwmpas y trefi a phentrefi lleol. Rydym wedi mynd yn ôl mewn amser i werthu yn lleol!

 

Sut aethoch ati i sefydlu’r busnes?

Yn gyntaf roedd rhaid cael syniad o sut fath o beiriant oedd angen i siwtio ein syniadau ni felly gwnaethom gysylltu gyda ‘Daisy Vending’, sef cwmni creu/adeiladu ac fe gynghorwyd ni ar beth oedd angen ei wneud i helpu ni gyda’r camau cyntaf. Yna, roedd llawer o waith tu ôl i’r llenni i gael popeth yn barod i agor, megis adeiladu ystafell ‘pasteuriser’, adeiladu ystafell storfa a llawer iawn o waith papur.

 

Ar ôl bron i flwyddyn ers sefydlu’r fenter, sut mae’r fenter yn llwyddo?

Mae’r 12 mis cyntaf ers i ni ddechrau’r fenter wedi bod yn llwyddiannus iawn, rydym fel teulu mor ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi ni dros y flwyddyn. Doeddwn i ddim yn disgwyl yr ymateb a gawsom!

 

Pam, yn eich barn chi, dylai pobl fod yn prynu llaeth yn lleol?

Yn dilyn Covid, mae pobl wedi sylweddoli fod prynu yn lleol yn hynod o bwysig, a’u bod yn hoffi gwybod o ble mae cynnych yn dod. Yn ogystal, mae pobl wedi sylwi’r effaith mae plastig yn ei gael ar y byd, ac wrth i ni yn gynnig poteli gwydr, mae modd eu hailddefnyddio ac mae hyn yn ffactor bwysig yn fy marn i.

 

Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol?

Y peth da am laeth yw, bod yna gymaint o elfennau gallwn ei gynhyrchu fel menyn, iogwrt, hufen, hufen ia a llawer mwy. Mae gennym gyhoeddiad cyffrous iawn yn y flwyddyn newydd. Felly cadwch lygad am y newyddion mawr!!

 

Mae’r Cymro yn cyhoeddi cyfres o ddarnau barn a newyddiaduraeth newydd dan y teitl Lleisiau Newydd. Rydym yn awyddus iawn i gyhoeddi gwaith unigolion o bob rhan o gymdeithas. Os hoffech gymryd rhan ac ysgrifennu rhywbeth ar ein cyfer cysylltwch â: barrie.jonescymro@gmail.com

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau