Lleisiau Newydd: Coginio, hobi neu iachawdwr? – gan Bethan Thomas, Ysgol Glan Clwyd

Barn

gan Bethan Thomas – Blwyddyn 12, Ysgol Glan Clwyd

Creu rhywbeth blasus… a rhyddhau’r endorffiniau!

Ers COVID, mae pwysigrwydd ein lles a’n iechyd meddwl wedi cael ei amlygu yn fwy nag erioed.

Mae’r cydbwysedd rhwng gwaith a lles yn hanfodol, ond hyd yn oed pan mae gennym ni’r amser i ymlacio, mae weithiau’n amhosib bod yn gynhyrchiol oherwydd ein meddyliau ein hun.

Wyddoch chi fod coginio yn gallu cael effaith gadarnhaol iawn ar eich lles a’ch iechyd meddwl? 

Manteision

Mewn holiadur gan y brand pobi Dr Oetker, dywedodd dau draean bod pobi fel arfer yn gwella eu hwyliau, tra bod 61% yn dweud bod rhannu eu bwyd hefo ffrindiau neu deulu yn eu gwneud nhw yn hapus. Gall pobi gael effaith therapiwtig, myfyriol ar bobl ac mae wedi cael ei brofi y gall esmwytho gorbryder ac iselder. Gall gweithgaredd ailadroddus fel cogino dawelu ar eich meddwl oherwydd mae’n cymryd eich sylw. Rydych chi’n canolbwyntio ar greu rhywbeth prydferth a blasus yn lle eich pryderon. 

 

Mae’r broses o greu yn sbarduno eich synhwyrau sydd yn cynyddu’r rhyddhad o endorffinau, yn gwneud i chi deimlo’n hapusach ac yn fwy heddychlon.

Mae unrhyw fath o goginio neu ddarpariaeth bwyd yn y diwedd am roi maeth i ein hunain ac i eraill ac i gynyddu’r budd yma, gallwch chi dynnu eich sylw at y cynhwysion iachus sydd yn mynd i’ch prydau oherwydd mae deiet iach, cytbwys hefyd yn gallu bod yn fuddiol i’ch iechyd meddwl a chorfforol.

Mae seicolegwyr wedi darganfod cysylltiad cryf rhwng mynegiant creadigol a lles cyffredinol. Cafodd astudiaeth ei gynnal ym Mhrifysgol Otago yn Seland Newydd a darganfuwyd bod gweithgareddau creadigol eraill, er enghraifft celf a chrefft, yn gallu arwain at fywyd hapusach, mwy egnïol ac i feddwl bydd un o bob pedwar person yn profi problem iechyd meddwl rhywbryd yn eu bywydau, dyma ffordd iach a theuluol i gadw’n brysur.

Perthnasau ag eraill

Budd arall all ddod o goginio yw gallu rhannu eich prydau hefo eraill. Tra bod y broses ei hun yn gallu cyfrannu at eich llesiant, y weithred o roi yw’r rhan orau i lawer o bobl.

Dywedodd dros hanner o’r bobl a wnaeth arolwg i’r brand pobi Dr Oetker eu bod nhw yn coginio i’w teulu, a 49% yn dweud eu bod yn coginio i’w cariad. Mae’r teimlad o rannu rhywbeth maethlon hefo eraill yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddwl ac ein cysylltiadau cymdeithasol. Un o’r pethau gorau am goginio yw eich bod chi yn gallu rhoi neu rannu eich prydau a gwneud eraill yn hapus, sy’n rhoi gwen ar eich wyneb chithau. 

Mae coginio i bobl yn gallu gwneud i chi deimlo fel eich bod chi wedi gwneud rhywbeth da a gall hefyd wella eich cysylltiad hefo eraill. Mae cynnig bwyd, yn enwedig bwyd cartref, i rywun yr un mor gysurus i’r person sy’n derbyn â’r person sy’n rhoi. Mae’n dangos eich bod chi yn gofalu amdanyn nhw oherwydd rydych chi wedi cymryd yr amser i greu rhywbeth iddyn nhw.

Cymunedau

Gall hobi fel pobi hefyd greu cymuned gefnogol iawn. Yn ystod y cyfnod clo cafodd tudalen Facebook ei sefydlu gan Ferched y Wawr er mwyn rhannu ryseitiau a phrydau bwyd. Dechreuodd yn grŵp bach ond erbyn heddiw mae gan y grŵp dros 18 mil o aelodau sydd dal yn dangos eu gwaith yn ddyddiol. Yn sicr, mae teimlad o gymuned deuluol bositif yno. 

Felly, beth am fynd ati i goginio? Fel dywedodd  ddywedodd Mary Berry unwaith, “If you’re feeling a bit down, a bit of kneading helps.”

Mae’r Cymro yn cyhoeddi cyfres o ddarnau barn a newyddiaduraeth newydd dan y teitl Lleisiau Newydd. Rydym yn awyddus iawn i gyhoeddi gwaith unigolion o bob rhan o gymdeithas. Os hoffech gymryd rhan ac ysgrifennu rhywbeth ar ein cyfer cysylltwch â: barrie.jonescymro@gmail.com

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau