gan Gruffydd Meredith
Mae yna angen amlwg am newid radical iawn i sefyllfa bresennol tai a thir Cymru. Mae hwn yn faes yr ydw i, fel nifer o bobol, wedi bod yn ymchwilio a deisebu Llywodraeth Cymru ynglŷn â fo ers blynyddoedd.
Gan drio peidio pregethu i’r cadwedig, dyma awgrymiadau gennyf ar gyfer deddf Tai a Thir cenedlaethol i Gymru y credaf y dyle Senedd Cymru ei chreu cyn gyflymed â phosib – deddf genedlaethol ar gyfer Cymru oll boed hynny yn ardaloedd Cymraeg neu di-Gymraeg eu hiaith, trefol, dinesig neu gefn gwlad.
Ar hyn o bryd er enghraifft, nid yw’r mwyafrif llethol o dai newydd sydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru yn rhoi unrhyw flaenoriaeth i ddinasyddion Cymru. Mae angen gwyrdroi y sefyllfa goloneiddiol yma gan sgrapio’r holl gynlluniau datblygu lleol presennol a dechrau o’r dechrau.
Felly dyma’r prif awgrymiadau gennyf:
1. Dylai Cymru ddilyn esiampl ynys Guernsey (a nifer fawr o wledydd eraill) trwy rannu holl dai Cymru i ddwy garfan – 90% i garfan marchnad blaenoriaeth leol/genedlaethol i bobol Cymru, a’r 10% arall i garfan marchnad agored i unrhyw un arall.
Byddai hyn yn golygu fod 90% o dai Cymru, boed y rheiny yn dai newydd sydd yn cael eu hadeiladu neu yn ail dai/tai haf sydd ar gael i’w prynu, yn rhoi blaenoriaeth i’r farchnad leol/cenedlaethol ar gyfer dinasyddion/preswylwyr parhaol Cymru, a byddai’r 10% arall o dai, boed yn dai newydd neu yn ail dai/tai haf, yn dai marchnad agored ac ar gael i unrhyw un ar sail y cyntaf i’r felin.
Gellid diffinio dinasyddion/preswylwyr parhaol Cymru fel pobl sydd naill ai wedi eu geni yng Nghymru ac sydd ag o leiaf un rhiant a anwyd yng Nghymru neu bobol sydd wedi byw yng Nghymru am o leiaf deng mlynedd.
2. Gan weithio ochr yn ochr â chynghorau a grwpiau cymunedol ar lawr gwlad mi fyddai angen i’r awdurdodau sir ar draws Cymru benderfynu faint o’r 90% o dai marchnad leol/cenedlaethol fydde ar gael i drigolion lleol o fewn y sir a faint fyddai ar gael i drigolion o weddill Cymru – er enghraifft 70% ar gyfer trigolion lleol, 20% ar gyfer pobl o weddill Cymru. Mewn ardaloedd trefol a dinesig Cymru lle mae pobl yn symud i mewn ac allan yn fwy rheolaidd, gellid gosod y raddfa yma ar 45% / 45% neu 20% yn lleol a 70% yn genedlaethol er enghraifft.
Byddai unrhyw dai newydd a adeiladwyd ac sy’n rhan o’r ffigwr o 90% o’r farchnad leol/genedlaethol wedyn yn cadw’r cymal blaenoriaeth perchnogaeth leol/cenedl- aethol yma am byth ac os y byddent yn cael eu gwerthu eto yn y dyfodol.
O ran y 10% arall o dai fyddai ar gael ar y farchnad agored, mi fyddai angen i’r awdurdod sir benderfynu bob blwyddyn sut i ymrannu y 10% o’r farchnad agored yma rhwng tai newydd i gael eu hadeiladu a’r ail dai/tai haf fydd ar gael i unrhyw un eu prynu o fewn y sir, yn dibynnu ar y sefyllfa.
Er enghraifft, mewn un flwyddyn, gellid clustnodi 2% ar gyfer tai newydd i’w hadeiladu ar gyfer farchnad agored, a 8% ar gyfer ail gartrefi/tai haf sydd yn cael eu gwerthu ar y farchnad agored ac a fydde ar gael i unrhyw un eu prynu.
Mewn blwyddyn arall, fel awgrym, gellid rhannu’r ffigwr yma yn 5% / 5%. Os yw’r cap o 10% wedi’i fodloni ar gyfer y flwyddyn honno, byddai angen i bob gwerthwr tŷ (gan gynnwys perchnogion ail dai/tai haf) unai werthu i ddinasyddion Cymru neu aros tan ddechrau’r flwyddyn werthu nesaf i fod yn rhan o’r cwota 10% marchnad agored, ac yna gwerthu i bwy bynnag y maent eisiau.
Enghraifft o wlad arall sydd â pholisi tebyg yw’r Swistir. Yno ni all mwy na 20% o unrhyw dai mewn unrhyw gymuned fod wedi eu perchnogi gan bobol o du allan i’r Swistir. O ran y math yma o bolisi yn rhyngwladol, credir bod gan oddeutu 40% o wledydd y byd gyfyngiadau o ryw fath ar ganiatáu preswylwyr tramor i fod yn berchen ar eiddo.
3. Dyle’r prisiau tai newydd ar gyfer pobol leol yn arbennig, gyfateb i gyflogau lleol cyfartalog yr awdurdod sir hwnnw. Dylai ‘tai fforddiadwy’ olygu hynny yn llythrennol.
4. Yn debyg i fodel Seland Newydd, dim ond dinasyddion Cymru ddylai allu prynu y rhan helaethaf o dir fferm a thir gwyllt Cymru, gyda phobl nad ydynt yn ddinasyddion Cymru yn dal i allu prynu safleoedd tir brown/ diwydiannol ar gyfer datblygu ayb a hefyd rhentu neu brydlesu tir yng Nghymru pe dymunent.
5. Bydd angen rhoi stop ar y nifer o wefannau ar-lein sydd yn gwerthu tai a thir Cymru dros y byd heb unrhyw reolaeth, a chreu rheoliadau trwy’r ddeddf mai dim ond arwerthwyr a broceriaid tai swyddogol o Gymru sy’n cael hysbysebu a gwerthu tai a thir Cymru (gan gynnwys ail gartrefi a thai haf), fel rhan o’r ddeddf blaenoriaeth genedlaethol yma.
Dyma’r prif bwyntiau sydd angen gweithredu arnynt yn fuan a chadarn yn fy marn i. Pwyntiau eraill pwysig a pherthnasol hefyd yw:
6. Dod â’r holl dai cymdeithasol yn ogystal â’r Parciau Cenedlaethol dan reolaeth yr awdurdodau sir a’u gwneud yn atebol i’r awdurdodau democrataidd hynny.
7. Caniatáu i ffermwyr adeiladu o leiaf tri chartref ar eu tir ar gyfer tair cenhedlaeth o’r teulu ffermio, gan helpu i gryfhau yr economi wledig a’i gwneud yn wirioneddol gynaliadwy.
8. Annog y cymdeithasau adeiladu a’r rhai sy’n cynnig morgeisi yng Nghymru i weithredu cynllun blaendal o 5% ar gyfer prynwyr tro cyntaf Cymru, ac i Lywodraeth Cymru hefyd gynnig cronfa benthyciad blaendal llog isel flynyddol i’r un prynwyr tro cyntaf yn yr un modd.
9. Rhoi blaenoriaeth i’r nifer fawr o adeiladau gwag neu adfeiliedig yng Nghymru i gael eu hadnewyddu at ddefnydd pobol leol yn arbennig.
I weld y ddogfen lawn, sydd yn mynd i fwy o fanylder am yr holl bwyntiau yma, neu i drafod ymhellach, mae croeso i chi gysylltu trwy tarwdu@hotmail.com
Be bynnag a ddaw, mae angen gwneud rhywbeth cenedlaethol ar raddfa radical. A hynny yn gyflym.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.