gan David Meredith
Cyffro geni HTV – menter newydd a fyddai’n chwalu’r hen drefn
Yn 1968 ymddeolodd David Meredith o’i swydd yn y Bwrdd Croeso i Gymru i geisio am swydd Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus yn y cwmni teledu annibynnol newydd i Gymru, sef Teledu Harlech. Bu’n llwyddiannus yn ei gais ac ymunodd â’r cwmni yng Nghaerdydd ddechrau 1969. Yma mae’n olrhain hanes y cyfnod stormus a chyffrous.
Yn ddiamau un o’r digwyddiadau mwyaf ysgytwol a welodd Cymru ym maes teledu oedd pan gollodd TWW (Television Wales and the West) y cytundeb i ddarlledu, a phan gipiwyd yr hawl i ddarparu’r gwasanaeth teledu annibynnol gan Deledu Harlech, cwmni newydd sbon danlli. TWW oedd y cwmni teledu annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Derby oedd yn gwasanaethu Cymru a Gorllewin Lloegr ers 1958. Digwyddodd hyn oll yn 1968.
Roedd Consortiwm Harlech, yr enw cyntaf cyn newid i Teledu Harlech ac yn nes ymlaen i HTV Cymru a HTV West, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Harlech, David Ormsby Gore. Yn gyn Lysgennad Gwledydd Prydain yn Unol Daleithiau’r America, roedd yn gydweithiwr a chyfaill agos i John F. Kennedy. Roedd David Harlech hefyd yn gyn-Aelod Seneddol, yn ŵr gwâr, cadarn ei farn ac yn arweinydd naturiol.
Perchnogai yr Arglwydd Harlech ddwy stad – stad Y Glyn (Glyn Cywarch) ger Talsarnau/Harlech yn Sir Feirionnydd a Stad Brogyntyn ger Croesoswallt ac ardal Llansilin. Roedd ei dad yn gyn Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, a gallai’r teulu hawlio gyda balchder gysylltiad teuluol gyda’r enwog Ellis Wynne o’r Las Ynys, awdur ‘Gweledigaethau y Bardd Cwsg’. Yn wir roedd fferm y Las Ynys yn rhan bwysig o Stad y Glyn ac yn parhau felly hyd heddiw.
Gweithred lawn dychymyg a phellgyrhaeddol oedd gweithred tri gŵr doeth o’r consortiwm a osododd y cwmni newydd ar ei draed, sef Alun Talfan Davies, Wynford Vaughan Thomas a Martin Cadbury, yn mynd i weld yr Arglwydd Harlech ar ei stad i’w wahodd i fod yn gadeirydd y cwmni arfaethedig, y cwmni a ddaeth yn Deledu Harlech.
Derbyniodd David Harlech y gwahoddiad, cam hollbwysig ar lwybr llwyddiant y fenter newydd fyddai yn chwalu yr hen drefn.
Yn ôl pob golwg yr oedd gafael cwmni TWW ar y cytundeb i wasanaethu Cymru a Gorllewin Lloegr yn sicr a chadarn, wedi’r cwbl bu’r cwmni yn darlledu am flynyddoedd gan ddechrau yn 1958, ond roedd y consortiwm newydd a’i her a’i sialens yn ormod, gyda’i bwyslais fod llais yr unigolyn yn bwysig ac i’w ddiogelu, fod diwylliant brodorol i’w fawrygu a’i fod yn greiddiol.
Ac yna, unigolion y consortiwm oedd yn groesdoriad o Gymru’r cyfnod: y Fonesig Amy Parry Williams o Aberystwyth yn lladmerydd ‘y pethe’; John Aeron Thomas o Abertawe, gŵr busnes oedd ar dân dros y celfyddydau, cadeirydd Gŵyl Gelfyddydol Abertawe yn ei dro – un o Ddyffryn Aeron oedd ei Daid. Eric Thomas, cyhoeddwr o fri a chadeirydd cwmni Papurau Newydd Gogledd Cymru – cyhoeddwr papur newydd Y Cymro a pherchnogion Hughes a’i Fab; Alun R. Edwards, sefydlydd y Cyngor Llyfrau, llyfrgellydd disglair, dyn ar dân os bu un erioed, ymladdwr dros lên, dros gyhoeddi, dros y fasnach lyfrau, dros yr iaith – un a welodd bosibiliadau fideo ymhell cyn llawer iawn yn y diwydiant cyfathrebu.
Yr Athro Emeritws Alun Llywelyn Williams, bardd, llenor a chyn ddarlledwr i’r BBC a Chyfarwyddwr Adran Allanol Prifysgol Cymru, Bangor; Wynford Vaughan Thomas, darlledwr disglair, un o sêr y BBC, dyn oedd yn byrlymu o syniadau creadigol ym maes darlledu, boed radio neu deledu, bardd melys a mab y cyfansoddwr adnabyddus David Vaughan Thomas; Alun Talfan Davies, cadeirydd cyntaf y cwmni newydd yng Nghymru, a ddaeth maes o law yn Syr Alun Talfan – gŵr gyda lliaws o ddiddordebau, roedd yn hynod weithgar gyda Chronfa Goffa Aberfan, yr Ysgolion Meithrin, Banc Cymru, Prifysgol Cymru – doedd dim pall ar lif ei syniadau a’i sêl dros y cwmni newydd (olynwyd ef fel cadeirydd gan Idwal Symonds, Cymro cadarn a dyn busnes llwyddiannus).
John Morgan o Dreboeth ger Abertawe, darlledwr o fri a fu’n ymgynghorydd hynod o werthfawr i Deledu Harlech – un o benseiri y consortiwm; Aled Vaughan, Pennaeth Rhaglenni Cymru, un o ddewis ddynion Huw Wheldon pan yn y BBC, dyn yn deall ei gynulleidfa, un a fedrai gyflwyno’r Gymru wledig i drigolion dinesig.
Yn goron ar y rhain, ddim yn bwysicach ond yn wahanol ac yn enwau rhyngwladol; y seren Richard Burton o Bontrhydyfen a’r Swistir (a oedd, ynghyd a’i wraig Elizabeth Taylor, wedi buddsoddi dros £70,000 yn y cwmni – arian mawr yn y cyfnod); Stanley Baker o Ferndale yn y Rhondda, seren arall yn y byd actio, a’r cawr o fyd yr opera, Syr Geraint Evans o Gilfynydd ger Pontypridd a ymddeolodd i fyw i Aberaeron – un o Aberaeron oedd ei daid. Y cewri yma a gysylltaf â’r Bwrdd Cymreig pan yr ymunais a’r cwmni ar ddechrau 1969. Maes o law, ymunodd aelodau eraill.
Daeth yr unigolion yma at ei gilydd i wasanaethu Cymru ym maes teledu, i hybu creadigrwydd, i ymestyn dysg a dawn, i danio dychymyg, i greu adloniant, y gorau. Os nad oedd rhain yn mynd i wneud ‘impact’, i wneud gwahaniaeth, yna ni fyddai neb. Bu’n anodd iawn i gyfarwyddwyr TWW gystadlu a’r Cymry blaenllaw yma, yn arbennig o gofio geiriau neb llai na Wyn Roberts, pennaeth rhaglenni TWW, pan y dywedodd: “Estroniaid oedd mwyafrif o gyfarwyddwyr y cwmni (TWW)”.
Rhaid peidio anghofio bod y cais am y cytundeb o ran trefn ac ariannu yn dibynnu ar Orllewin Lloegr a Chymru. Roedd cyfarwyddwyr Gorllewin Lloegr hefyd yn grŵp pwerus o bobl, yn eu plith fasnachwyr llwyddiannus fel George McWatters (Harvey’s Bristol Cream), Walter Hawkins, cadeirydd y Bristol United Press, a John James, perchennog siopau gwerthu setiau teledu. Mae stori am John James pan yr heriwyd ef gan swyddog o’r Awdurdod Darlledu i ddangos o ble y deuai’r arian i ariannu’r cais – ymateb John James oedd fflachio siec am filiwn o bunnoedd o flaen y swyddog yn y fan a’r lle.
Prif weithredwr y cwmni oedd dyn o’r enw A J Gorard a ddaeth i Gymru o Deledu Anglia. Ei waith ef oedd cadw trefn a chadw’r cwch i hwylio.
Yn ôl trefn y cyfnod, y rheolyddion llywodraethol i ddechrau (1968) oedd yr Awdurdod Teledu Annibynnol a ddaeth wedi hynny yn Awdurdod Darlledu Annibynnol. Yr oedd y cytundebau ym maes teledu annibynnol ym Mhrydain yn cael eu hail-ystyried, eu pwyso a’u mesur bob deng mlynedd. Gweithredai’r Awdurdod yng Nghymru drwy ei swyddfa yng Nghaerdydd ac oddi yno y gweithredai eu swyddog, Lyn Evans a’i olynydd Eirion Lewis.
Fel y soniais, bu TWW yn darlledu am gyfnod maith. O edrych yn ôl, trefn od a dweud y lleiaf oedd trefn rheoli y cwmni yng Nghymru.
Yn ei lyfr ‘Troi’r Drol’, ei gyfrol hunangofiannol, dywed Dr Huw T. Edwards, prif weinidog answyddogol Cymru yn ei gyfnod, un o’r Cymry Cymraeg amlwg ar y cyd â Syr Ifan ab Owen Edwards, oedd yn gyfarwyddwyr TWW, fel a ganlyn am drefniadaeth y cwmni yng Nghymru: “Bydd yr Is-bwyllgor Cymreig yn cyfarfod fel bo’r angen o leiaf unwaith y mis, i drafod a thrin argymhellion i’r Bwrdd yn Llundain”. Wedi dyfodiad Teledu Harlech i rym, ysgubodd y cwmni y drefn imperialaidd yma o’r neilltu – Is-bwyllgor Cymreig? – anghredadwy!
Sefydlodd Harlech Fwrdd Cymreig – ni fyddai neb mwyach yn mynd i Lundain i roi argymhellion i’r Bwrdd. Hefyd rhoddwyd ‘stop’ ar y drefn anesboniadwy fod ‘trefn’ y rhaglenni yn dod o Lundain i Gaerdydd yn ddyddiol.
Byddai pencadlys y cwmni yng Nghaerdydd, ym Mhontcanna, ac yna maes o law, yng Nghroes Cwrlwys yn yr un ddinas.
Swyddfa fasnachol ym maes hysbysebion yn unig fyddai yn Llundain. Wedi ennill y cytundeb i ddarlledu a’r trefniadau gweinyddol mewn trefn, y Canolfannau Darlledu yng Nghaerdydd a Bryste (ar gyfer Gorllewin Lloegr) yn barod, un elfen waelodol, hanfodol amlwg, oedd sicrhau staff digonol a chymwys i weithredu’r gwasanaeth.
Fel rhan o’r cytundeb rhwng yr Awdurdod Teledu annibynnol a Theledu Harlech, roedd y cwmni i gynnig cyflogaeth i hyn â hyn o staff TWW.
Y pryd hynny yr etifeddodd Harlech doreth o unigolion dawnus, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, unigolion oedd i wneud cyfraniad pellach ardderchog i deledu yng Nghymru, enwau sy’n parhau ar dafod leferydd gwylwyr ledled Cymru, enwau sydd wedi eu cerfio ar lech calon y genedl; cyflwynwyr, newyddiadurwyr, ymchwilwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, technegwyr a chynllunwyr ac ysgrifenyddesau, gŵyr a gwragedd gyfrannodd yn anferthol i ddiwydiant teledu Cymru am ddegawdau.
O feddwl am lwyddiant Harlech yn ennill y cytundeb i ddarlledu, credaf fod y cyfuniad o gynnig trefniadaeth cwmnïol newydd a gwahanol, syniadau rhaglenni beiddgar a ffilosoffi oedd yn gydnaws â mŵd creadigol iachus y chwedegau a’r addewid llachar oedd wrth gefn cais Harlech, yr hyn oedd gan unigolion unigryw a thalentog y tu ôl i’r fenter newydd i’w gynnig – byddai hyn oll wedi bod yn ddigon i liwio barn yr awdurdod o’u plaid.
Does dim cwestiwn fod colli’r cytundeb i ddarlledu wedi bod yn sioc i gyfarwyddwyr TWW. Penderfynodd y cwmni beidio darlledu hyd ddiwedd ei cyfnod penodedig.
Nid oedd cytundeb Teledu Harlech yn weithredol eto ond gweithiodd y cwmni gyda’r Awdurdod i lenwi’r bwlch ac fe ddatryswyd y broblem, gyda Harlech yn dechrau darlledu go iawn ar Fawrth y 4ydd, 1968.
Digwyddodd hyn oll yn niwedd y chwedegau ond ‘roedd y saithdegau a’r wythdegau yn gwahodd. O fewn rhai blynyddoedd byddai y cytundeb i ddarlledu i Gymru a Gorllewin Lloegr yn cael ei hysbysebu drachefn a chystadleuydd i Deledu Harlech yn herio’r drefn.
Byddai prinder gofod stiwdio yn gorfodi penderfyniad ynglŷn â symud o ganol Caerdydd i gyrion y ddinas.
Roedd dyfodiad S4C ar y gorwel agos a thrychineb deuluol a chwmnïol i ddod i sigo y dewraf. Hefyd o’n blaenau roedd cysgod bygythiol Margaret Thatcher. Margaret Thatcher, fyddai’n creu llanast na welwyd ei debyg!
Bu HTV wrthi am flynyddoedd yn ceisio ehangu y Ganolfan Deledu ym Mhontcanna, Caerdydd, ond heb lwyddiant. Ar un pwynt ‘roedd goleuni ac ehangu i un cyfeiriad yn bosibl cyn darganfod fod y tir dan sylw yn perthyn i’r Goron. ‘Roedd ymladd Adran Gynllunio Cyngor Caerdydd yn ddigon drwg, ond ymladd y Goron? Mater arall oedd hynny!
Penderfynwyd derbyn nad oedd ehangu ym Mhontcanna yn bosibl ac felly gwnaed penderfyniad i adael Pontcanna oedd wedi bod yn lloches i deledu annibynnol ers 1958, a chael tir ar gyrion y ddinas yng Nghroes Cwrlwys, lle ‘roedd digon o le i sefydlu Canolfan Deledu gyfoes gyda’r offer technegol diweddaraf – canolfan gymwys i wasanaethu cenedl.
Yn 1982 gosodwyd carreg sylfaen urddasol gan gadeirydd Teledu Harlech, yr Arglwydd Harlech, carreg o chwarel lechi Aberllefenni wedi ei llythrennu gan lythrennwr llechi gorau Cymru, Ieuan Rees o Landybie. ‘Roedd y Ganolfan newydd wedi ei bedyddio megis. Tair stiwdio helaeth a seiliau wedi eu gosod i nifer ychwanegol pe byddai angen hynny.
Cost yr holl gynllun uchelgeisiol, mewn termau bras, oedd deg miliwn i godi’r adeilad a phum miliwn i brynu’r offer technegol, cynllun mentrus. Pan oedd popeth yn barod roedd gyrru i mewn i’r Ganolfan newydd drwy’r pyrth allanol, gyda’r ceidwaid diogelwch ar wasanaeth, ac wedi parcio’r car, cerdded at brif fynedfa’r Ganolfan, yn brofiad swreal, yn arbennig felly ar ôl treulio dros ddegawd yn yr hen ganolfan ym Mhontcanna, lle ‘roedd cath y stiwdio yn eich croesawu wrth y drws! Am y tro cyntaf ‘roedd gennyf swyddfa fel ‘stafell mewn palas ym mlaen yr adeilad fel y gallwn weld pwy oedd yn dod i’r Ganolfan ac y gallwn bicio i’r dderbynfa i’w croesawu.
Yn Nghroes Cwrlwys bu gweithlu wrthi’n ddyddiol yn cynhyrchu rhaglenni Cymraeg a Saesneg; rhaglenni newyddion, adloniant (e.e. gyda’r mawrion Tom Jones a Shirley Bassey neu Elinor Jones gyda Anthony Hopkins), dramâu, rhaglenni dogfen (amrywiaeth y greadigaeth), coginio, pensaernïaeth, crefydd, astudiaethau natur, cerddor- iaeth, opera (e.e. gyda Syr Geraint Evans), comedi, gwleid- yddiaeth, cefn gwlad (Dai Jones), materion cyfoes, chwaraeon a rhaglenni plant – pob pwnc dan haul ac adrannau o unigolion dyfeisgar yn meddwl am syniadau newydd a dulliau newydd o gyflwyno.
Rheolwr a chyfarwyddwr rhaglenni HTV Cymru yn y cyfnod yma oedd y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd profiadol Huw Davies. Byddai unrhyw wlad yn y byd wedi bod yn falch o gael y fath wasanaeth teledu gwych, o gael gwasanaeth cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr, cyflwynwyr a chyfranwyr mor alluog. Roedd y slogan, ‘HTV – y gorau yn gyson i Gymru’, mor briodol a pherthnasol.
O sôn am un adran yn unig, roedd rhaglenni plant yn sialens arbennig. Creodd HTV Cymru adran plant dan reolaeth Peter Elias Jones, adran a wnaeth gyfraniad aruthrol yn y maes pwysig yma, gyda’r rhaglen Miri Mawr yn arwain y ffordd mewn adloniant i blant a chyfle i gynhyrchu deunydd cyhoeddusrwydd deniadol fyddai’n ysbrydoli plant a’u denu i wylio, heb sôn am gynhyrchu llyfrau yn llawn amrywiaeth llachar megis Llyfr 3 HTV, gyda Dafydd Parry yn olygydd.
Byddai aelodau’r Adran yn cael yr hyfrydwch o gyfarfod plant mewn Eisteddfod a gŵyl, a chael cyfle i gyflwyno sêr fel yr arth Caleb a bortreadwyd mor wych gan yr actor Dafydd Hywel.
Ie, 1982, y flwyddyn fawr pan oedd darnau y jigso yn dod at ei gilydd, S4C yn dechrau darlledu a rhoi lle gwir deilwng i’r iaith a chyfleusterau diweddaraf HTV Cymru yn cael eu datblygu i gyfarfod y galw am raglenni i gyflawni gofynion y sianel newydd.
Mewn cyhoeddiad yn 1982 dywedodd yr Arglwydd Harlech ar ran HTV Cymru: “Rydym wedi bod yn awyddus erioed i wneud cyfraniad pwysig i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg. Mae’r ffordd yn glir erbyn hyn i HTV gyfrannu’n sylweddol er cyfoethogi gwasanaeth rhaglenni S4C fel y rhagwelwyd yn y ddeddf darlledu. Bydd datblygu’r cyfleusterau newydd a’r cynnydd mewn staff ar gyfer hyn yn cael ei gyflymu ar unwaith.”
Hefyd yn 1982 cyhoeddodd S4C “fod Syr Goronwy Daniel (Cadeirydd Awdurdod S4C) yn falch pan gafodd arwyddo’r cytundeb” rhwng S4C a HTV brynhawn Iau 27 Mai. Cymerodd Syr Goronwy ran flaenllaw yn y trafodaethau maith ynglŷn â’r cytundeb.
“Gyda arwyddo’r cytundeb hwn”, meddai Syr Goronwy, “mae’r holl gynseiliau wedi eu gosod. Rwy’n rhagweld mai Haf 1982 fydd un o’r hafau prysuraf yn hanes y genedl.”
Ac felly gwelwyd holl amrywiaeth y rhaglenni Cymraeg a gynhyrchid gan HTV, yn ôl y cytundeb, yn cael eu darlledu ar S4C – rhaglenni oedd yn gyfraniad gwerthfawr i’r gwasanaeth newydd, gwerthfawr ac anhepgorol.
Dros amser datblygodd S4C bolisi o ddatblygu’r sector gynhyrchu rhaglenni annibynnol fel ffynhonnell rhaglenni i’r sianel a llaciwyd y berthynas rhwng HTV â’r sianel.
Canlyniad hyn fu gwanhau teyrnasiad yr iaith Gymraeg yn rhydweli teledu masnachol yng Nghymru, cryfhau mewn un sector a gwanhau mewn sector arall.
Cofiaf fod Alun Edwards yn galw yn gyson o fewn HTV am gadw rhai rhaglenni Cymraeg ar HTV a pheidio trosglwyddo’r Gymraeg yn gyfangwbl i S4C. Ond doedd dim troi’n ôl, sianel arbennig i’r iaith Gymraeg oedd hi i fod, a dyna ni.
Dros y blynyddoedd wynebodd HTV gystadleuwyr a geisiodd am y cytundeb i ddarlledu i Gymru a Gorllewin Lloegr, pan yr hysbysebwyd y cytundebau hynny bob deng mlynedd gan yr Awdurdod Darlledu. Ni fu yr un ohonynt yn llwyddiannus. Bu newid yn amodau’r cytundeb i HTV o dro i dro, ond ni chollwyd y cytundeb.
Y mwyaf afreal o’r ceisiadau cytundebol hyn oedd cais dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Emlyn Hooson, un o frenhinoedd y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru. Cynhaliodd yr Awdurdod Darlledu nifer o gyfarfodydd cyhoeddus i glywed barn y cyhoedd a’r cystadleuydd. ‘Roedd y cyfarfod terfynol yng Nghymru i’w gynnal yn Neuadd Reardon Smith yng Nghaerdydd a byddai cadeirydd yr Awdurdod Darlledu, y Fonesig Plowden, yn bresennol yn ogystal â nifer o swyddogion yr Awdurdod. Doedd dim mwy pwerus na hyn – y Fonesig Plowden, y bos ei hun, yn gwrando ar gais llafar.
Ni chymerodd HTV ddim yn ganiataol. Roedd tîm HTV i gyd yno – aelodau’r Bwrdd Cymreig, cynrychiolaeth o HTV West, swyddogion y cwmni, oll dan arweiniad yr Arglwydd Harlech.
Daeth penderfyniad yr Awdurdod ynglŷn â’r cytundeb i law ar ddiwedd y flwyddyn. ‘Roedd HTV wedi ennill y cytundeb am gyfnod o ddeng mlynedd arall.
Yn ddiamau bu’r wythdegau yn gyfnod dramatig iawn i gwmni HTV.
Yn 1985, dair blynedd wedi arwyddo’r cytundeb darpariaeth rhaglenni gyda S4C, lladdwyd yr Arglwydd Harlech mewn damwain car ger Pont Montford rhwng yr Amwythig a Chroesoswallt.
Roedd ar yr A5 ar ei ffordd adre o Lundain ym mis Ionawr, yn nyfnder gaeaf, pan sglefriodd ei Audi ar draws y ffordd. Yn sydyn, daeth car drwy’r glaw mân a tharo’r Audi, gan ladd y Cadeirydd – sioc a cholled ddychrynllyd i’w deulu a digwyddiad pellgyrhaeddol i’r cwmni ac i’r holl gyfundrefnau yr oedd yr Arglwydd Harlech ynglŷn â nhw.
Yn naturiol yr oedd y digwyddiad yn sioc ac yn dristwch alaethus i gwmni HTV. Cynhaliwyd gwasanaeth angladdol i’r Cadeirydd yn eglwys fechan Llanfihangel y Traethau ger Talsarnau a daeth Ted Kennedy, brawd John F. Kennedy, a Jackie Onassis i’r angladd.
Yn y man cynhaliwyd gwasanaeth er cof am yr Arglwydd Harlech yn Abaty Westminster a daeth cynulleidfa anrhydeddus i’w goffau. Yn ogystal, cyhoeddodd Cymdeithas Gelfyddydau Prydain ac America ysgoloriaeth er cof amdano, a daeth Llysgennad America i achlysur cyhoeddi’r ysgoloriaeth honno.
Er nad oedd hi’n bosibl llenwi’r bwlch a adawyd wedi marw’r Cadeirydd, ‘roedd yn rhaid i fywyd a rhediad cwmni HTV fynd yn ei flaen, ac fe benodwyd olynydd i’r Arglwydd Harlech gydag apwyntio gŵr profiadol tu hwnt yn y maes masnachol, sef Syr Melvyn Rosser.
Yn Gymro Cymraeg naturiol, gwnaeth Syr Melvyn lawer iawn i leddfu’r boen a llenwi’r bwlch wedi ymadawiad Cadeirydd gwreiddiol HTV. Trist o briodol yw geiriau un o gyndeidiau yr Arglwydd Harlech, sef Ellis Wynne o’r Las Ynys pan y canodd:
Gadel tir a gadel tai,
Byr yw’r rhwysg i ddyn barhau.
Gadel pleser, mwynder mêl,
A gadel uchel achau.
Y melltith mwyaf a wynebodd y maes teledu annibynnol ym Mhrydain oedd pan ddaeth Margaret Thatcher i rym. Chwalodd y gyfundrefn yn rhacs. Caniatawyd i gwmnïau brynu ei gilydd. Roedd dogma gwleidyddol ar waith a’r pysgod mawr yn llyncu’r pysgod llai. Gwelodd Thatcher hefyd gyfle i chwalu grym yr undebau llafur oedd yn rymus yn y diwydiant teledu.
Canlyniad hyn oll oedd i HTV gael ei brynu gan ‘United News and Media’ ac yna gan Carlton, cyn i gwmni Granada lyncu’r mwyafrif o’r cwmnïau a chreu logo ITV yn faner dros y cwbl. O ran HTV, golygodd hyn oll chwalu cwmni o rhwng 200 a 300 o bobol, cau canolfan deledu ddeinamig a safai ar aceri lawer o dir Sir Forgannwg ger prifddinas Cymru a chau swyddfeydd y cwmni yn yr Wyddgrug a Bangor – swyddfeydd oedd yn cyfrannu i’r economi leol ag yn rhoi gwaith i weithwyr teledu yn eu bröydd.
Maes o law chwalwyd Canolfan Deledu HTV yng Nghroes Cwrlwys ac adeiladwyd stad o dai ar y lleoliad. Dim ond y garreg sylfaen a osodwyd gan yr Arglwydd Harlech sydd ar ôl ac mae’n ddiogel yn ôl ym Meirionnydd o ble y daeth yn y lle cyntaf!
Ond er chwalu’r Ganolfan Deledu, erys y cof am HTV a’i gyfraniad i deledu yng Nghymru, a nawdd sylweddol a chefnogaeth y cwmni i fyrdd o achosion da ac i’r celfyddydau led led y wlad – ni â’n angof! Fodd bynnag, da yw gweld adlais o’r hen gwmni yn arferiad ITV heddiw o ddefnyddio Cymru/Wales fel rhan o’i logo.
Wrth edrych yn ôl, a minnau bellach yn 80 oed, byddaf yn ddiolchgar tra byddwyf i’m hen gyflogwr Alun R. Edwards, un o aelodau gwreiddiol consortiwm Harlech, gŵr a fu’n bennaeth arnaf yn Llyfrgell y Dref yn Aberystwyth a minnau yn ddwy ar bymtheg oed. Yn 1968 cododd y ffôn a gofyn i mi a fyddwn yn caniatáu i’m enw fynd gerbron am swydd yn y cwmni newydd, Teledu Harlech. ‘Rwyf mor falch fy mod wedi cytuno.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.