Stori dda… neu’r gwirionedd – a ddaeth Cristnogaeth i Gymru yn yr ail ganrif? – Mel Hopkins

Barn

gan Mel Hopkins

A oedd ein cyndeidiau ymysg y cyntaf ar ynysoedd Prydain i dderbyn y ffydd? Un o straeon mwyaf diddorol hanes Cymru yw’r posibilrwydd i Gristnogaeth gyrraedd Cymru mor gynnar â’r ail ganrif. Ailadroddir yr hanes yn nifer o lawysgrifau yr Oesoedd Canol. 

Mae stori chwedlonol yn honni i frenin y Brythoniaid; Lucius yn Lladin, Lleurwg neu Lleufer Mawr yn y Gymraeg, anfon llythyr yn nwylo dau neges-ydd sef Medwy ac Elfan at y Pab Elidir (Eleutherius) yn 179 OC. Mae’r brenin yn ymbil ar i’r Pab weddïo am iddo ddod yn Gristion a Medwy ac Elfan yn dychwelyd ac yn bedyddio Lleufer. Yna danfonwyd dau genhadwr i Brydain, sef Ffagan a Dyfrig, i bregethu i’r Brythoniaid. 

Brenin Lleurwg – ffenest dwyreiniol Cadeirlan Efrog. Llun gan Andrew Rabbot

Os ydy hynny yn wir, mae’n awgrymu i Gristnogaeth gyrraedd Prydain yn yr ail ganrif, dros ganrif cyn  merthyrdod Amphibalus, Esgob Llandaf; a Julius ac Aaron yng Nghaerllion tua 300 OC yng nghyfnod erledigaethau Diocletian. Mae yna gofnod hefyd bod tri esgob a dau gwmnïwr o Brydain wedi mynychu Cyngor Arles yn 314 OC. Un ohonynt oedd Adelfius o Gaerleon. Mae cenhadaeth Sant Awstin i Loegr ym 597 OC wedi dylanwadu’n fawr ar hanes Cristnogaeth ym Mhrydain ond mae sail i gredu bod elfennau o wirionedd yn stori Lleurwg. 

Mae amryw o ffynonellau yn cofnodi’r un hanes am Lleurwg dros y canrifoedd. Ymddangosa’r cyfeiriad cynharaf at y stori mewn copi o’r 9fed ganrif o destun o’r 6ed ganrif sef y Catalogus Felicanus. Cofnododd Beda yn ei gampwaith Hanes Eglwysig Pobl Lloegr fod y brenin Brythoneg, Lucius (Lleurwg Mawr) wedi ysgrifennu at y Pab Eleutherius ym 179 OC i gofyn iddo weddïo drosto i ddod yn Gristion. 

Ffynhonnell Beda ar gyfer y stori hon oedd y Liber Pontificalis, llyfr y  Pabau, a ymddangosodd ychydig ar ôl y Catalogus Felicanus. Yn y Liber Pontificalis dywedir i’r Pab dderbyn llythyr gan Lucius, Brenin Prydain, a ddymunai ddod yn Gristion trwy ei orchymyn. 

Mae yna ystod o ffynonellau Cymreig am Lleurwg megis Historia Brittonum Nennius o tua 796 OC, mae disgrifiad o genhadaeth y  Pab  a fedyddiodd ‘Lucius, y brenin Brythoneg, gyda holl fân frenhinoedd yr holl bobl Brythoneg’. Yn Llyfr Llandaf enwir y negesydd- ion a’r cenhadon: Dyfan, Ffagan, Medwy, ac Elfan.  

Mae Rice Rees yn nodi bod Lleurwg yn ymddangos yn Nhrioedd Ynys Prydain, sy’n nodi ei fod wedi sefydlu eglwys yn Llandaf, y gyntaf ym Mhrydain. Mae’r trioedd yn ei enwi yn Lleurwg ap Coel ap Cyllin a hefyd fel Lleurwg Mawr. 

Mae’r epithed yn bwysig gan ei fod yn dystiolaeth o’i enwogrwydd, efallai fel pennaeth llwyth y Siluriaid. Mae Sieffre o Fynwy, William o Falmesbury a Gerallt Gymro hefyd yn cyfeirio at stori Lleurwg. 

Achoswyd dryswch am gysylltiad Lleurwg gyda Chymru gan astudiaeth Adolf Von Harnack ym 1904, honnodd fod gwall ysgrifenyddol yn y Liber Pontificalis a bod y gair ‘Britannio’ Prydain wedi ei ysgrifennu yn lle ‘Britio’ sef amddiffynfa yn Edessa, gan awgrymu nad oedd gwreiddiau Cymreig i’r chwedl. 

Caerllion. LLun gan Cadw

O ganlyniad i’r astudiaeth anwybyddwyd natur Gymraeg Lleurwg. Yn ei waith manwl am y brenin mae’r archeolegydd David Knight yn gwrthod y cyswllt gydag Edessa gan ddangos i’r amddiffynfa gael ei hadeiladu ymhell ar ôl cyfnod y Pab Eleutherius. Dadleua Knight hefyd fod y dyfyniad gwreiddiol yn y Liber Pontificalus yn gywir  gan fod y gwaith o dan ofal llym Flavius Cassiodorus ac na fyddai byth wedi caniatáu unrhyw wall ysgrifenyddol o gwbl wrth gopïo testunau yn ei ysgrifdy. 

Mae stori Lleurwg yn bwysig iawn yn hanes Cymru; fe’i defnyddiwyd i gyflawni nifer o ddibenion gwleidyddol ac eglwysig.

Yn y seithfed ganrif, pan gollodd yr eglwys Geltaidd diroedd i  Mercia o amgylch Henffordd a Hafren, gallai’r eglwys Geltaidd dynnu sylw at dreftadaeth lawer hŷn na’r un Sacsonaidd a honni awdurdod dros esgobion Rhufeinig Henffordd. 

Mae Beda yn adrodd stori adnabyddus am esgobion Cymru yn ymgynghori â Meudwy doeth. Dywedodd wrthynt pe bai Awstin yn codi o’i gadair i’w cyfarch fe fyddai’n eu parchu a dylent wrando arno; pe bai’n parhau i eistedd ni ddylid gwrando arno. Parhaodd yr hollt ysbrydol tan synod Whitby yn 664. Mewn anghydfod tua 1125 rhwng esgobaethau Llandaf, Henffordd a Thŷ Ddewi dros ffiniau tir Llandaf cynhyrchwyd llyfr y De Primo Statu Landauensis Ecclesiae gan eglwys Llandaf. Dyma’r tro cyntaf mae enw Elfan a Meudwy yn ymddangos mewn dogfen. Ysgrifennodd offeiriaid Tŷ Ddewi tua’r un flwyddyn at y Pab Honorius II gan ddatgan bod tri  archesgob ym Mhrydain  yng nghyfnod Lleurwg. 

Pab Elidir – Pope Eleuterus gan Artaud de Montor (1772–1849)

Defnyddiodd Richard Davies stori Lleurwg yn ei ragair i Destament Newydd Cymraeg 1567. Dadleuodd fod yr hen ffydd Gatholig wedi’i gorfodi ar y Cymry a bod gwir Gristnogaeth wedi dod drwy Joseff o Arimathea ac mai Lleurwg ap Coel sefydlodd Cristnogaeth yn ôl y gyfraith ym Mhrydain ym 180 OC. Dadleuodd y dylai’r Cymry fod yn falch bod eu cyndeidiau ymysg y cyntaf ar ynysoedd Prydain i dderbyn y ffydd. Hawliodd merthyron Catholig y cyfnod Lleurwg i’w hunain hefyd. 

Rhestrodd John Sugar, Merthyr  Catholig, y seintiau Eleutherius, Damianus (Dyfrig) a Fugatius (Ffagan) feltystiolaeth o wreiddiau cynnar Catholigiaeth ym Mhrydain. 

Beth am y cenhadon Dyfan, Ffagan, Medwy, ac Elfan? Pa dystiolaeth, os o gwbl, sydd ar ôl heddiw? 

Nododd y  Monmouthshire Merlin ym 1858  bod pedair eglwys wedi eu henwi ar ôl y seintiau yn Ne Ddwyrain Cymru. Mae Sant Ffagan wrth gwrs yn bentref ar gyrion y brif ddinas. Honnir y bu Ffagan yn byw ger Rhydlafar sydd hefyd yn y brifddinas. Fe’i rhestrir fel ail esgob Llandaf. Cofnodwyd un o’i hoff wirebau yn Englynion Y Clyweid: 

A glywaist ti chwedl Ffagan, Gwedi dangaws ei ddatgan? Lle taw Duw, nid doeth yngan.’ 

Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod cysegriadau lleol i’r saint hyn mewn ardal gymharol fach yn ne ddwyrain Cymru. Enwir Michaelston y Fedw, neu Llanfedwy cynt, ger St Ffagan ar ôl Medwy. Roedd yna Drefedwy ger Notais, pentref a gollwyd  i’r môr yn 1904 yn ôl y Cardiff Times. Mae Llan Lleurwg sydd nawr wedi ei enwi yn Llaneirwg (St Mellons) yn ardal yng Nghaerdydd.  

Eglwys Merthyr Dyfan. LLun gan John Lord

Yn rhestr esgobion Llandaf enwir Dyfan fel esgob cyntaf yr eglwys. Yn achau Saint Hanes Prydain cysylltodd Iolo Morgannwg Dyfan gyda’r Merthyr Dyfan ger y Bari ond mae rhai yn diystyru’r cyfeiriad hwn heddiw oherwydd bod Iolo wedi ffugio rhai dogfennau. Enwir Elfan fel ail esgob Llundain ac enwir Llanelfan ar ei ôl. Pregethodd i’r derwyddon am y ffydd newydd. Mae’r awdur Terry Breverton yn nodi bod yna eglwys St Elfan yn Aberdâr.

Mae traddodiad yn cofnodi teyrnasiad Saint Lleurwg am 77 mlynedd, rhwng 124 a 201. Claddwyd ef gyntaf yn Eglwys y Santes Fair de Lode yng Nghaerloyw. Rhywbryd yn ddiweddarach symudwyd ei greiriau i Eglwys Sant Pedr-ar-Cornhill, ac, yn ddiweddarach eto, yn ôl i  Gaerloyw. 

Mae yna gliwiau  awgrymog bod stori Lleurwg yn cynnwys gronyn o wirionedd. 

Mae’n arwyddocaol bod y merthyron cynnar tua 300 OC ac esgob yng Nghyngor Arles o Gaerllion, sy’n dangos bod presenoldeb rhyw fath o drefniant Cristnogol yn yr ardal hon. Yn yr union ranbarth daearyddol lle byddai Lleurwg – fel mân frenin y Silures – yn ddylanwad awdurdodol. 

Mae’r dystiolaeth am enwau llefydd yn dynodi atgof o’r seintiau cynnar ac mae’r teitl Lleufer Mawr yn dangos ei fod yn ffigwr enwog, parchus. 

Mae’r rhain yn ddangosyddion bod Cristnogaeth gynnar wedi sefydlu clofan yn ne ddwyrain Cymru cyn y 4edd ganrif. 

Mae rhai haneswyr yn derbyn y gall y stori fod yn atgof o dröedigaeth is-frenin o Brydain. 

Os felly, dangosir bod Cristnogaeth yng Nghymru yn llawer hŷn na’r hyn a feddyliwyd gyntaf. 

Yn yr hen Galendr Cymreig, mae Sant  Lucius y Brenin yn cael ei goffáu ddwywaith: ar Fai 28ain, diwrnod ei Fedydd, ac ar Ragfyr 3ydd, diwrnod ei farwolaeth. 

Efallai ei bod yn bryd coffau Lleurwg unwaith eto. 

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau