Yn y byd busnes…Y ddyletswydd rŵan i hybu entrepreneuriaeth – Gari Wyn Jones   

Barn

gan Gari Wyn Jones               

Fel y byddwn yn codi ein pennau allan o gymylau’r pandemig, does yna ddim dwywaith amdani, bydd patrymau busnes ac economi Cymru yn newid yn eitha’ syfrdanol. 

Bydd cyfleon newydd yn agor o fewn y byd technolegol a digidol ac mi fydd yna amrywiaeth eang o fusnesau arloesol yn dod i’r amlwg. 

Wrth edrych ar hanes dirwasgiad ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, dengys tystiolaeth yn gyson bod ffyniant a datblygiad yn dilyn cyfnodau llwm. Ond pa ardaloedd a pha grwpiau o bobol fydd yn gallu manteisio ar hynny? A fyddwn ni yng Nghymru yn manteisio ac yn camu mewn i’r bylchau hyn neu a fydd yna fewnlifiad arall o entrepreneuriaid o dros y ffin yn achub y blaen arnom?

Dros y degawdau diweddar rydan ni wedi bod yn barod iawn i gwyno am effaith mewnlifiad, ond ar yr un pryd llawer yn rhy amharod i gynnig troedle gadarn i fusnesau Cymreig newydd. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae angen i ni greu tirlun sy’n ffafriol i hyrwyddo a meithrin entrepreneuriaeth Gymreig. 

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi bod 650 miliwn o bunnoedd ychwanegol i gael ei ddyrannu o Ebrill 1af fel rhan o fformiwla Barnett. Bydd  cronfa arall o 2 biliwn o bunnoedd yn cael ei rhannu ar draws y bwrdd i fynd i’r afael ag argyfyngau o fewn y byd busnes yn sgil y pandemig. 

Yng ngogledd Cymru (ble mae cadarnleoedd y Gymraeg) mae cynllun pwysig yn y broses o gael ei lansio, sef Cynllun Twf Gogledd Cymru (North Wales Growth Deal). Mae tîm rheoli y prosiect eisoes wedi’i sefydlu o dan arweiniad Alwen Williams, eu prif weithredwr, ac mae oddeutu dwsin o swyddi gweithredol wrthi’n cael eu penodi. 

Mae’r cynllun yn gyfrifol am wario buddsoddiad o 240 miliwn dros gyfnod o 15 mlynedd a fydd yn arwain at fuddsoddiad o dros un biliwn o fewn economi y gogledd. Y gobaith yw y daw 4200 o swyddi yn ei sgil. Mae’r cynllun yn anelu’n benodol at greu swyddi mewn meysydd yn ymwneud â’r byd digidol, trafnidiaeth ac egni, bydd swyddi yn y sector egni yn anelu at greu amgylchfyd di-garbon.

Mae’r cynllun busnes sydd i weithredu hyn i gyd eisoes yn ei le (dros 200 tudalen) ac mae i gael ei weithredu ar y cyd o dan ofal cynrychiolwyr o bob Cyngor Sir, y ddwy Brifysgol a’r Colegau Addysg Bellach. Felly ar y wyneb mae hyn oll yn argoeli i fod yn gynllun eithaf positif.

Ond y cwestiwn sy’n fy mhoeni i ydi hwn; Be yn union ydan ni am ei wneud i hyrwyddo a chreu entrepreneuriaid newydd i ddyrchafu gwerth a phwysigrwydd llwyddo mewn busnes drwy ddefnyddio’r Gymraeg?

Mae gan ein Prifysgolion, ein Cynghorau Sir a’r cyfryngau torfol rôl a dyletswydd syml i chwarae yn hyn o beth. 

Tra bod cyrsiau Busnes ein Prifysgolion a Cholegau yn pwyso ar theori a syniadaeth yn hytrach na’r broses ymarferol o ysbrydoli’r awydd i greu busnes fyddwn ni ddim ond yn llwyddo i greu mwy o fiwrocratiaid o fewn y sector gyhoeddus. 

Diddorol a dweud y lleiaf oedd sylwi mai ymgynghorwyr Llundeinig oedd wedi’u dewis yn ddiweddar gan Brifysgol Bangor i chwilio am bennaeth newydd i’r ysgol fusnes. Tybed faint o ymwybyddiaeth a phwyslais a roddwyd ganddyn nhw ar entrepreneuriaeth Gymreig wrth ‘benhela’ am bennaeth newydd? Tybed yn wir a fydd y sawl a benodwyd yn llawn ddeall anghenion byd busnes yma yng Ngogledd Cymru? Tybed a fydd y person yma yn mynd ati i ddysgu’r Gymraeg ac yn gweld fod yr iaith yn allweddol i lwyddiant busnes? 

Mae gan ein cyfryngau torfol hefyd gyfrifoldeb. Mae’r flaenoriaeth a’r pwyslais ar ddyrchafu’r byd perfformio a byd llenyddiaeth a barddoniaeth yn debygol iawn o arwain ein hieuenctid i gredu bod byd busnes yn yrfa llai lliwgar a deniadol. Yn sgil hynny fe all yr iaith ddod yn drysor personol yr elît dosbarth canol ac felly yn estron o fewn bywyd dyddiol byd busnes. 

Wrth gymeryd cipolwg ar restrau enwau llywodraethwyr a rheolwyr ein cynghorau sirol a’n colegau ac ar bileri ein sianeli teledu a radio mae’n taro rhywun mai prin ydi’r rhai sydd wedi cael profiad o redeg busnes. 

Tra pery 30% o’n gweithlu i fod yn weithwyr sy’n atebol i arian llywodraeth waeth inni heb â breuddwydio am annibyniaeth. Mae’r angen i gywiro y balans ac i ysbrydoli mwy i ymuno â rhengoedd y sector breifat yn amlwg. Heb greu economi fydd yn gallu cynnig incwm a threthi ar gyfer troi olwynion y llywodraeth mi fydd rhaid inni barhau i fyw ar friwsion y peiriant Prydeinig. Y cam cyntaf i newid hyn ydi trwy ddyrchafu y gwerth rydan ni’n osod ar entrepreneuriaeth. Os na wnawn ni hynny bydd yr iaith yn perthyn yn egsgliwsif i’r sector gyhoeddus, y trydydd sector a’r byd dethol eisteddfodol a chyfryngol. 

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau