Mis arall llawn bwrlwm… ac edrych ‘mlaen i’r her o  gerdded miliwn o gamau! – Meirwen LLoyd, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr 

Barn

gan Meirwen Lloyd, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr 

Roedd Mawrth eleni yn brysur dros ben i Ferched y Wawr. Dosbarthwyd rhifyn 211 o gylchgrawn Y Wawr ar draws Cymru mewn ffordd wahanol am nad oedd hi’n bosib dosbarthu yn y ffordd arferol. Diolch i bawb wnaeth gynorthwyo er mwyn i bob aelod ei dderbyn yn ddiogel. 

Dyma’r llun a gefais gan Grace Birt yn ddiweddar o genhinen a blannwyd yn ninas Abertawe yn ystod dathliadau eu cangen yn hanner cant oed. Fy mwriad oedd picio yno i’w gweld yn 2020, gohiriwyd hynny nes 2021 ond oherwydd y firws nid oedd yn bosib mynd eleni chwaith. Fe ddaw amser i grwydro eto. Bydd y genhinen yn atgoffa pawb yn yr ardal am flynyddoedd i ddod fod Merched y Wawr yn weithgar yn hybu’r iaith a Chymreictod. 

Ym mis Mawrth eleni roedd sawl dyddiad o bwys. 

Ar ddiwrnod ein Nawddsant cafwyd sawl digwyddiad rhithiol o de prynhawn Gorllewin Morgannwg i goginio Bara Brith yn y de-ddwyrain. 

Gyda’r nos bu Wendy o ‘Blodau Blodwen’ yn gwneud trefniadau blodau gyda’r genhinen. Nid yw’r genhinen yn flodyn hawdd ei roi mewn  trefniant ond cafwyd syniadau gwych ganddi i’r rhai ohonom sydd yn ymddiddori yn y grefft. 

Bore coffi a sgwrs gawsom yn ein cangen ni yma yn Llanrug ar fore Mercher y trydydd, ar Zoom am y tro cyntaf, roedd pawb wedi mwynhau’r profiad ac yn eiddgar eto i gyfarfod ym mis Ebrill. Gwahoddiad gan gangen Dolgellau gefais ar y nos Fercher, i sgwrsio am  fy mhrofiadau yn ystod fy llywyddiaeth. Diolch iddynt am y croeso ac i Llinos, ffrind ers dyddiau ysgol uwchradd am ei chyflwyniad. 

Prynhawn hwyliog yng nghwmni Bethan Gwanas gawsom ar Ddiwrnod y Llyfr, holwyd y llenor sydd wedi cyhoeddi dros ddeugain o lyfrau gan ein darpar Is-lywydd Geunor Roberts.

Cennin pedr a blannwyd yn ninas Abertawe yn ystod dathliadau eu cangen yn hanner cant oed. Llun gan Grace Birt

Y ddwy o Feirionydd yn gartrefol braf yn trafod sawl pwnc, o ddysgu i wirfoddoli. Mae Bethan wedi cyhoeddi ei gwaith gyda sawl gwasg yma yng Nghymru ac mae ar hyn o bryd yn paratoi at gyhoeddi un arall. 

I’r hen Ddyfed sef Ceredigion, Penfro a Chaerfyrddin ar nos Iau’r pedwerydd a’r rhanbarthau wedi uno dan arweiniad Jane a Hazel ein Swyddogion Datblygu. Ein gŵr gwadd oedd Adam Jones, neu Adam yr Ardd, a rannodd ei atgofion o gwmni ei Daid a thrigolion ei fro pan oedd yn blentyn. Dyma wnaeth ei ysgogi ac sydd hyd heddiw yn rhoi pleser pur iddo wrth     fyseddu’r pridd a phlannu cynnyrch yng ngardd ei gartref. 

Torri cwys newydd wnaeth y mudiad  eleni gyda’n Swyddogion Datblygu yn trefnu digwyddiad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar yr 8fed o Fawrth. Dyma’r tro cyntaf i’r mudiad  gynnal digwyddiad cenedlaethol, ac yn sicr, yn dilyn ei lwyddiant nid hwn fydd yr olaf. 

Bydd sawl cangen neu glwb am ymweld â Sara Huws yr Hanesydd o Aberystwyth yn yr Amgueddfa i Ferched yn Llundain yn 2022 yn dilyn ei sgwrs a bydd aelodau cangen Merched y Wawr Llundain yn falch o’ch croesawu. Dwi’n siŵr y bydd rhai ohonoch yn cofio Sara yn cyflwyno ‘Waliau’n siarad’ gydag Aled Huws, cyfres y gwnaeth sawl un ei mwynhau ar S4C.  

Yn dilyn sgwrs am ei nofel gyntaf ‘tu ôl i’r awyr’ cafwyd awr onest a difyr yng nghwmni Megan Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle awdures ifanc dalentog. 

Darllenodd sawl aelod y llyfr gan ei brynu neu ei fenthyg o lyfrgell leol. Bethan Richards, Ysgubwr Simdde o Dremeirchion, Dyffryn Clwyd, yn wreiddiol ond sydd erbyn hyn wedi setlo hefo’i theulu ym Mhencader, ger Caerfyrddin, wnaeth gloi’r dydd. Cafwyd gwybodaeth ymarferol er mwyn diogelu ein cartrefi gan yr unig ferch yn y swydd sydd yn gallu siarad y Gymraeg. Diwrnod gwerth chweil, pleser oedd bod yn eu cwmni a diolch iddynt. 

Mae Sul y Mamau a Sul y Blodau yn gallu bod yn brofiadau caled o gofio anwyliaid i sawl un ond teimlaf eu bod yn waeth eleni oherwydd y pandemig sydd wedi treiddio ein cymunedau a thu hwnt. 

Parhau mae ein Sadwrn crefft am ddeg y bore. Gwneud anifail o lyfr oedd y dasg gydag Anne Howells ar y trydydd ar ddeg ac yna ar ddiwrnod swyddogol cyntaf y Gwanwyn yng nghwmni Eirlys Savage – creu Tiwlip o ddefnydd. 

Ar brynhawn Iau olaf y mis cawsom gyfle i wrando ar sgwrs ddiddorol iawn am ‘Gasgliadau Merched’ gan Lona a Morfudd o’r Llyfrgell Genedlaethol. Rydym wedi cyd-weithio gyda’r llyfrgell sawl tro.  

Ebrill, ia diwrnod y ffŵl, ond nid ffyliaid ydi aelodau Merched y Wawr, cafodd ein Swyddogion Datblygu syniad o greu sialens camau. 

Rydym am geisio cerdded miliwn o gamau er mwyn ‘Curo’r Corona’n Camu’. Bydd hyn yn llesol i’n hiechyd corfforol a meddyliol. Rwyf yn ffyddiog y byddwn eto yn torri record gan gamu yn hyderus, pawb yn gwneud ei ran a phob cam yn cyfri.  

Er y newid yn y canllawiau gan y Llywodraeth, cadwch yn ddiogel. 

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau