Y Sôn…
Dydd Miwsig Cymru a Gwobrau Selar go wahanol fuodd hi fis diwethaf, ond roedd digon o bleser i’w gael o ddathlu’r gorau o gerddoriaeth Cymru.
A pharhau fydd dathliadau go wahanol fis yma hefyd, wrth i ni edrych ymlaen at ymdrech unigryw rhai o wyliau gorau Cymru i ddod at ei gilydd i greu Gŵyl 2021, byddwn ni’n siŵr o fod yn sownd i’n cyfrifiaduron ar gyfer hynny!
Mae cerddorion Cymru yn parhau i ryddhau tiwns gwych hefyd, mae senglau syfrdanol yn ein cyrraedd yn wythnosol, ac ambell i albym allan erbyn hyn hefyd, edrychwn ymlaen at drin a thrafod rhain! Da chisho tiwns? We got tiwns!
Buddugwyr Gwobrau’r Selar
Fis diwethaf cyhoeddwyd enillwyr gwobrau blynyddol cylchgrawn Y Selar.
Er ein bod wedi arfer heidio i Aberystwyth ar gyfer gig boncyrs i ddathlu cerddoriaeth y flwyddyn a fu, roedd yn braf cael canmol a thrafod yr enillwyr (a’r rhai ddaru fethu allan!) wrth i’r gwobrau gael eu cyflwyno ar raglenni Radio Cymru fis diwethaf. Y cyhoedd sydd yn dewis eu ffefrynnau i’w gwobrwyo. Dyma be blesiodd yn 2020.
Seren y Sin: Mared Williams
Gwaith Celf (Noddir gan Y Lolfa): Cofi 19
Band neu Artist Newydd (Noddir gan Gorwelion): Malan
Artist Unigol Gorau: Mared
Cân Orau (Noddir gan PRS for Music): ‘Hel Sibrydion’ – Lewys
Gwobr 2020 (Noddir gan Heno): Eädyth
Record Fer: Dim ond Dieithryn – Lisa Pedrick
Cyfraniad Arbennig (Noddir gan Brifysgol y Drindod Dewi-Sant): Gwenno
Fideo Gorau (Noddir gan S4C): ‘Dos yn Dy Flaen’ – Bwncath
Band Gorau: Bwncath
Record Hir Orau (noddir gan Rownd a Rownd): Bwncath – Bwncath
Sengl newydd Adwaith a Massimo Silverio – ‘Cydweithio i greu synau ‘hyfryd o dywyll ac emosiynol’
Mae Adwaith wedi bod yn cydweithio hefo’r artist Massimo Silverio o’r Eidal ar eu sengl diweddaraf, Nijo (Yn Y Sŵn).
Mae Massimo Silverio yn creu cerddoriaeth mewn Firulian, iaith gynhenid Friuli yn Ngogledd Yr Eidal.
Daeth y cerddorion at ei gilydd fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng Yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl SUNS Ewrop, Gŵyl yn Friuli sydd yn dathlu’r celfyddydau mewn ieithoedd lleiafrifol.
Ymysg yr artistiaid Cymraeg sydd wedi perfformio yng Ngŵyl SUNS yn y gorffennol mae Gruff Rhys, Yr Ods, Sybs ac Adwaith eu hunain.
Mae dwy fersiwn o’r gân wedi’u recordio, fersiwn Cymraeg a fersiwn dwyieithog mewn Cymraeg a Friulian, ac mae Adwaith a Massimo Silverio yn perfformio ar y ddwy fersiwn.
Mae teitl y sengl, ‘Nijo’, yn air hynafol o’r iaith Friulian, sy’n golygu ‘Unman’ neu ‘Nunlle’, ac mae’r gân yn sôn am deimladau, geiriau ac ieithoedd sy’n cyrraedd ‘Nijo’ yn y pendraw.
Dywedodd Libertino, label Adwaith: “Chwarae yn SUNS Europe yn Udine, Friuli yn 2017 oedd cychwyn cysylltiad dwfn Adwaith gyda’r ŵyl ysbrydoledig yma, ei chymuned artistig a’r ethos sy’n rhan greiddiol o SUNS.
“Pan awgrymodd yr Eisteddfod a SUNS bod cyfle i’r band gydweithio ar gân gyda Massimo Silverio roedden nhw’n awyddus iawn i dderbyn y cynnig. Mae Yn Y Sŵn (Nijo)/ Nijo (Yn Y Sŵn) yn gân hyfryd o dywyll ac emosiynol gyffrous. Gan adeiladu ar gordiau dyrys Massimo, cello melancolaidd a barddoniaeth hyfryd, mae Adwaith yn plethu rhythmau a synau sy’n wahanol i’r hyn maen nhw wedi’i greu o’r blaen.
Esgorodd y cywaith creadigol yma ar greu dwy fersiwn, un yn y Gymraeg, gyda Hollie ar ei mwyaf bregus, yn eiriol a lleisiol, a fersiwn dwyieithog. Mae’r fersiwn yma’n daith drwy wahanol dreftadaeth, diwylliannau ac ieithoedd, ond yn rhannu’r un nod ac yn cyrraedd calonnau’i gilydd mewn ffordd sy’n unigryw i gerddoriaeth.”
Gweler y diweddaraf ar wefan Sôn am Sîn drwy glicio ar ei logo islaw:
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco, prif siopau Sainsbury’s a nifer fawr o siopau papur newydd y stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.