gan Aled Gwyn Jôb
Dros y misoedd diwethaf, un o ddatblygiadau rhyfeddaf y cyfnod anghyffredin iawn yma yn ein hanes fu’r broses o fabwysiadu ieithwedd y carchar ar gyfer y gymdeithas gyfan.
Term yn gysylltiedig gyda charchar, a chosb benodol o fewn carchar i gosbi a thorri ysbryd unigolion ydi ‘lockdown’ (Y Clo) ond eto dyma gosb sydd wedi ei osod ar bawb ohonom am fisoedd lawer erbyn hyn.
Polisi a lansiwyd i ddechrau mewn gwlad gomiwnyddol, Tseina, a’i gyflwyno wedyn ar hyd a lled y byd, bron dros nos, fel y prif ddull ar gyfer ymateb i ledaeniad coronavirus.
A ninnau’n parhau dan glo wrth i mi lunio’r erthygl hon mae’n ddiddorol nodi bod yr holl sefydliad gwleidyddol-gyfryngol-diwylliannol yng Nghymru wedi derbyn y gwarchae corfforol a meddyliol hwn yn ddigwestiwn.
Eithriadau prin iawn yw’r unigolion hynny sydd wedi lleisio unrhyw wrthwynebiad i’r Clo – sy’n destun pryder gwirioneddol o ran dyfodol pliwraliaeth a rhyddid barn yng Nghymru.
Mae’r Clo wedi taflu goleuni diddorol iawn ar natur tueddiadau gwleidyddol yng Nghymru hefyd. Yn gyffredinol, mae cenedlaetholwyr yma wedi gweld amlygrwydd newydd Llywodraeth Cymru oherwydd y clo a’r cyfle i ddilyn trywydd Cymreig neilltuol yn ddatblygiad i’w groesawu’n fawr.
Gellid mentro dweud mai’r rhai sydd wedi bod fwya brwd dros y Clo yma yw’r rheini sy’n gogwyddo i’r chwith. Ac heb os, mae yna rai elfennau daionus yn y symudiad hwn, sy’n rhoi pwys ar gadw pawb yn ddiogel a’r teimlad fod pawb yn yr un twll felly bod angen i bawb gyd-dynnu a chydweithio i’n cael ni allan ohono.
Ond mae yna elfennau problemus. Gwelir ryw ymhyfrydu yn y ffaith bod llywodraeth o’r diwedd yn gallu rheoli symudiadau’n unigolion a gweithredoedd cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Mae’r ymhyfrydu hwn wedyn yn symud yn ei dro tuag at gyhuddo a chywilyddio pobol sydd wedi mynegi amheuon am y rheoli llethol hyn ar ein bywydau ni.
Ond, mae yna eironi creulon iawn ynghlwm wrth y rhuo rhinweddol gan y rhai sydd mor daer o blaid y Clo.
Sef y ffaith mai cynulleidfa naturiol y chwith yw’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan Y Clo dros y misoedd diwethaf: y tlawd, cymunedau dirwasgedig, yr unig a’r rhai bregus eu meddwl, plant a phobol ifanc.
Dyma’r bobol sy’n gwegian fwyaf oherwydd y Clo, a dyma’r union rai a fydd yn ei chael hi’n anodd, os nad yn amhosib, ailafael ym mhethau’n iawn wedi i hyn ddod i ben.
Ond er gwaetha hyn oll, mae eu hamddiffynwyr traddodiadol wedi bod yn gwbwl fud am eu hamgylchiadau a’u trafferthion. A’u hawydd am reolaeth a chydymffurfiad yn ymddangos yn drech na sefyll dros fuddion eu pobol eu hunain ar lawr gwlad.
Y tu hwnt i unrhyw ogwydd gwleidyddol benodol, mae Llywodraeth Cymru ei hun ar fai am y sefyllfa bresennol hefyd. Am nad ydynt wedi cynnal unrhyw asesiad ardrawiad cymdeithasol wrth gyflwyno’r mesurau clo yma.
Er fod y gwleidydd a’r ymgyrchwr Neil Mcevoy, fel llais un yn llefain yn yr anialwch, yn galw am asesiad ardrawiad mae Llafur Cymru wedi gwrthod comisiynu y fath adroddiad.
Ac efallai y gellid gweld pam, o ystyried canlyniadau’r unig asesiad ardrawiad sydd wedi’i gynnal trwy Brydain gyfan hyd yma.
Roedd canlyniadau’r astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Bryste ychydig cyn y Nadolig yn gwbwl frawychus.
Yn ôl yr Athro Philip Thomas, awdur yr asesiad, byddai 560,000 o bobol yn marw’n gyn-amserol ym Mhrydain oherwydd effeithiau economaidd a chymdeithasol y Clo.
Mae mwy a mwy fel petaent yn deffro i beryglon difrifol cadw cymdeithas gyfan dan glo, a phrotestiadau cynyddol i’w gweld ar gyfandir Ewrop yn eu herbyn bellach.
Pwy a ŵyr, efallai y bydd peth o’r ysbryd hwn yn glanio yng Nghymru gyda hyn!
Aled Gwyn Job yw perchennog A Way With Words (Ar Y Gair): asiantaeth ysgrifennu ar-lein, sydd wedi ei leoli ar y Maes yng Nghaernarfon. Mae’r busnes yn darparu gwasanaethau ysgrifenedig o bob math yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gallwch gysylltu gydag Aled ar aled@awaywithwords.cymru
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.