gan Esyllt Sears
Mewn cyfnod pan mai dynion a bechgyn oedd prif gymeriadau rhaglenni poblogaidd ar drothwy’r 90au (C’mon Midffild, Jabas, Rhew Poeth), roedd Delyth Haf yn Tydi Bywyd yn Boen yn agoriad llygad i ferch naw oed fel fi ar y pryd; cymeriad o deenager moody, self-obsessed, yn cwmpo mewn cariad bob whip stitch… basically, y person nes i dyfu i fod yn fy arddegau.
Daeth y newyddion trist rai wythnosau’n ôl fod Mirain Llwyd Owen, a bortreadodd Delyth Haf mor berffaith yn y cyfresi hyn, ac yna yn Tydi Coleg yn Grêt, wedi marw.
Mae’n rhyfedd fel y gall marwolaeth rhywun dy’ch chi erioed wedi cwrdd â nhw, na hyd yn oed meddwl amdanyn nhw ers rhai blynyddoedd, gael cymaint o effaith arno chi.
Yn hynny o beth, peidiwch byth a diystyru pwysigrwydd cymeriadau teledu cryf, cyfrwng Cymraeg, i ddylanwadu’n bositif ar blant a phobl ifanc.
Cyn y Nadolig, digwyddodd rhywbeth pwysig iawn yn ein tŷ ni, dechreuodd cyfres Chwilengoch a Cath Ddu yn y Gymraeg. Roedd llygaid fy mhlant fel soseri wrth weld rhaglen y mae nhw wedi ei mwynhau yn y Saesneg yn cael ei darlledu yn eu hiaith gyntaf.
Fe wnawn nhw gofio hynny. Fel wi’n cofio Y Smyrffs, Foltron ac Inspector Gaget…
Ac i ddod yn ôl at farwolaeth gynamserol Mirain, dwi wir yn gobeithio bod ei theulu a’i ffrindiau yn gwybod cymaint o bleser roddodd hi, a’r dylanwad a gafodd hi ar y ferch naw mlwydd oed yma a channoedd o ferched eraill.
Fydden i ddim wedi bod yn gymaint o sialens i mam a dad hebddi.
Prif lun gan S4C
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.