gan Gari Wyn Jones
Er gwaetha’r cyfnod cythryblus yma rydym yn byw ynddo, credwch neu beidio ‘dwi’n teimlo’n fwy positif nag erioed am ddyfodol entrepreneuriaeth busnesau bach yng Nghymru.
Wrth fwrw golwg nôl ar fy ngyrfa fusnes fy hun mi alla i ddweud mai’r ddau gyfnod mwyaf llwyddiannus yn hanes twf ein busnes ni oedd ail hanner 1983 a diwedd 2008. Dyma ddau gyfnod oedd yn dilyn misoedd o ddirywiad a dirwasgiad economaidd. Cyfnod pan ddaru ni fentro prynu stoc pan oedd y prisiau’n cwympo ac wedyn elwa ac esblygu fel yr oedd pethau’n gwella.
Gwaetha’r modd mae llu o gwmnïau mawr yn mynd i chwythu’u plwc dros y misoedd nesaf, ac yn wyneb Brexit hefyd bydd llawer o gwmnïau Ewropeaidd yn troi cefn ar Brydain. Mi fydd yna fylchau i’w llenwi a chyfleon newydd sbon mewn meysydd ffres yn ogystal â thraddodiadol. Mae ‘e fasnach’ am ddod yn bwysicach nag erioed.
Felly be ydw i’n ei awgrymu? “Hawdd iawn i chdi a dy sort bregethu a chditha yn un o genhedlaeth y ‘gravy train’” fe’ch clywaf yn dweud. Wel taswn i’n 25 oed dwi’n credu mai mynd lawr lôn wahanol faswn i. Mae’r byd yn newid ac mae dylanwad ‘bancio gwyrdd’ am ddod yn amlycach. Bydd amodau benthyca arian gan fanciau yn newid yn syfrdanol o fewn y blynyddoedd nesaf ac mi fydd raid i fusnesau brofi i’r banc eu bod yn cadw at reolau carbon-sero a chynaladwyedd. Yn sgil hyn fe ddaw cyfleon ffres ac arloesol. Bydd trefniadau gweithio di-swyddfa yn creu modelau busnes newydd.

Tra bydd siopau’r stryd fawr yn dal i gau bydd cwmnïau a chyflenwyr ar lein yn ffynnu. Ond sut mae bod ar y blaen? Mae un peth yn sicr; bydd y cyswllt personol yn parhau yn allweddol, felly mae angen i bob safle we greu steil ‘un i un’ – cynnal sgwrs gyda chwsmeriaid. Digon tebyg i’r llinellau ‘chat’ neu ‘conversations’ sydd gan rai busnesau a chwmnïau eisoes. Dyna’r ffordd i ennill ymddiriedaeth a ffyddlondeb cwsmer.
Yn 2021 felly ‘addasu’ ydi’r gair allweddol. Boed hynny mewn amaeth, manwerthu, arlwyo, gwasanaethu neu be’ bynnag. Golyga hyn fod cynghori mentergarwyr a busnesau am ddod yn fusnes mawr ynddo’i hun. Mae cyrff annibynnol fel Menter a Busnes eisoes yn sefyll ar eu traed ariannol eu hunain i raddau helaeth. Mae’n debygol y bydd mwy a mwy o fusnesau newydd yn cynnig gwasanaeth cynghori busnes, a hynny ar gyfer pob mathau o fusnesau arbenigol newydd a thraddodiadol. Busnesau sy’n deall ‘analytics’ y ‘teclynnau chwilio’ (search engines) yn ogystal â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i’w llawnder.
Bydd busnesau sy’n ymwneud â bwyd mor broffidiol ag erioed. Yn ddiweddar ar fy rhaglen ar Radio Cymru cefais sgwrs gyda’r Athro Emeritius Rheinallt Jones o Brifysgol Emory yn Atlanta. Mae’n arloesi ym maes ‘gut biomes’- h.y lles ac iechyd eich coluddyn a’ch perfedd. Sgwrs oedd wir yn agoriad llygad – does dim dwywaith y bydd pobol yn chwilio mwyfwy am y bwydydd hynny sy’n llesol i’ch perfedd! A ninnau’n wlad amaethyddol mae angen inni fod ar y blaen yn y maes yma. Mae ymgyrchwyr bwyd yn dweud y dylid anelu i dyfu digon o lysiau yng Nghymru erbyn 2030 i ddiwallu tri chwarter argymhelliad dyddiol y boblogaeth. Yn ôl Cynghrair Polisi bwyd Cymru gellir cyflawni hyn mewn modd cynaliadwy trwy gynnig mwy o gymorth ariannol i fentrau garddwriaeth bychain.
Un agwedd wahanol ar fywyd gwaith ym 2021 fydd esblygiad gweithio o gartref. Dyma ran o’r broses o ail-raddnodi (re-calibrating) byd busnes. Bydd pwysau ar gyflogwyr i roi rhesymau eglur dros dynnu y gweithlu ‘nol i’w swyddfeydd. Mae cyfran helaeth o fusnesau a sefydliadau eisoes wedi creu patrymau gwaith newydd er mwyn addasu i’r drefn newydd yma.
Bydd y duedd i’r cyfeiriad yma yn cynnig pob math o gyfleon busnes newydd. I gydbwyso hyn wrth gwrs bydd yn rhaid ystyried lles a iechyd meddwl y gweithlu, tydy gweithio o adre yn unig ddim yn llesol ac mae’r elfen gymdeithasol a rhwydweithio wyneb yn wyneb mewn swyddfa yn parhau yn bwysig. Mi fues i’n chwilio y we am y syniadau busnes a allai fod yn berthnasol inni yng Nghymru. Dyma fy neg uchaf i o ran dewis, ond nid mewn unrhyw drefn blaenoriaeth:
- Ymgynghori ac addysgu ar y we: gall hyn ddigwydd mewn agweddau o ddatblygiadau o bob math gan gynnwys addysg disgyblion a myfyrwyr.
- Gwasanaethau cludo (courier): gall hyn olygu cludo nwyddau o bob math – o’r byd meddygol i’r busnes bwydydd.
- Busnesau glanhau a hylendid: Yn wyneb yr hyn sy’ wedi digwydd ym 2020 bydd hyn yn i bwysicach nag erioed i unigolion hunangyflogedig.
- Gwasanaethau gofal cartref/cynnig danfon, darparu prydau bwyd, cymorth cartref, storio nwyddau ac eiddo.
- Gwasanaethau cyfieithu a thrawsysgrifio digidol.
- Hybu marchnata digidol (boed ar safleoedd we neu ar gyfryngau cymdeithasol).
- Tryciau/faniau gwerthu bwyd symudol. Gyda dirywiad bwytai a thafarndai mae’r diwydiant yma eisoes yn cryfhau yn America.
- Gofal gerddi ac allotments. Bydd yr ardd yn dod yn rhan bwysicach nag erioed o fywyd y mwyafrif ohonom.
- Agweddau newydd ar brynu a gwerthu tai ac eiddo. Mae’r farchnad dai yn fwy cymhleth nag erioed ar sawl ystyr, ac mae angen pob math o arbenigedd a sgiliau i fynd i’r afael â’r pwyslais ar gynaladwyedd a charbon-sero.
- Gofal anifeiliaid anwes a chŵn. Gyda mwy yn cadw cŵn dros y blynyddoedd diwethaf mae yna sawl agwedd o gynnal a chadw yn cynnig posibiliadau.
Ac, yn wir unrhyw agwedd ar fywyd lle mae gennych wir gariad a diddordeb ynddo. Mae person busnes llwyddiannus yn ymhél â’r pethau mae wrth ei fodd yn eu gwneud. Bydd y ddwy flynedd nesaf yn cynnig cyfleon di-ri. Gadewch inni fynd amdanyn nhw yn hytrach na gadael i lif oddi allan feddiannu ein byd busnes.
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Prif lun gan geralt
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.