gan Heledd Gwyndaf
Mae’r cwestiwn yn aml cyn bwysiced a’r ateb ac yn gallu bod cyn ddadlennol hefyd.
Yr amser hwn y llynedd ro’n i yn cyflwyno tystiolaeth gerbron pwyllgor yn ein Senedd am ddatganoli darlledu.
Ac roedd y cwestiynau gerbron yn cynnwys rhai mor elfennol a di-fflach â: ‘Pa agweddau ar ddarlledu y dylid eu datganoli i Gymru, os o gwbwl?’ a ‘Sut y gallai datganoli darlledu fod o fudd i Gymru ac i gynulleidfaoedd Cymru?’.
Mae gen i ofn bod y cwestiynau hyn yn perthyn i fileniwm arall, mae’r gymdeithas sifil yn bell ar y blaen.
Mae Cyngor Cyfathrebu wedi’i sefydlu, symudiad sifil ydyw wedi’i sefydlu gan y bobl, sydd yn edrych ar y math o reoliadau sydd eu hangen ym maes cyfathrebu er mwyn gwireddu y math o Gymru yr ydyn ni eisiau ei weld.
Mae’r actor Michael Sheen yn diddori yn yr ymgyrch ac wrthi yn comisiynu gwaith ymchwil sydd yn edrych ar gyfleon ym maes newyddiaduriaeth ymchwiliadol, ac mae’r NUJ (Undeb y Newyddiadurwyr) hyd yn oed wedi cyhoeddi rhestr o anghenion rheoleiddio i Gymru, sydd yn cynnwys codi treth ffawdelw ar y cewri technegol (fel mae y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol hefyd yn galw amdano).
Mae gwaith aruthrol i’w wneud. Mae’r hyn yr ydym yn ei ddeisyfu fel cenedl, yn fras, yn go glir a chytunedig – ac mae hyn yn cynnwys gwirionedd, democratiaeth, amrywiaeth a lluosogrwydd.
Ond mae’r modelau sydd eu hangen arnom i wireddu hyn yn mynd i orfod bod yn destun nifer fawr o drafodaethau. Ond nid problem na rhwystr mo hyn, ddim o gwbwl.
I’r gwrthwyneb, y mwyaf yr ydyn ni yn edrych ar a thrafod y modelau a’r posibiliadau ym maes darlledu, yr amlycaf y daw hi bod y posibiliadau yn ddiddiwedd ac mae’r dyfodol yn gyffrous.
Ond un peth sydd yn hollol amlwg ac yn ddi-gwestiwn – i wireddu ein nod, dydy peidio datganoli darlledu ddim yn opsiwn.
Mae’r Senedd wrthi yn trafod hen gwestiwn amherthnasol – h.y. a yw datganoli darlledu yn beth da i’w wneud – (er dyw San Steffan heb ofyn y cwestiwn hwnnw hyd yn oed), tra bod y gweddill ohonom wedi hen symud ymlaen i wneud y gwaith caib a rhaw a thrafod y pethau diddorol, pwysig.
Oherwydd bod y Senedd yn holi y cwestiwn anghywir, dydy hynny ddim yn golygu na ddylai y gweddill ohonom fod yn gofyn, ac yn ateb, y cwestiynau sy’n perthyn i’n hoes ni.
Yn wir, oherwydd diffyg gweledigaeth ein gwleidyddion, mae hi hyd yn oed yn bwysicach i’r gweddill ohonom fod yn gofyn y cwestiynau cywir ac mynd i’r afael â’r atebion.
Credwch chi fi, mae e yn waith hynod ddiddorol a chyffrous i fod ynghlwm ag ef.
Prif lun gan
Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer garejis. Neu gallwch danysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol drwy ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.