Cerddoriaeth gyda Sôn am Sîn

Barn

Y Sôn…

Flwyddyn yn ôl roedd y golofn yma’n llawn cynnwrf am beth oedd i ddod, yn edrych ymlaen at yr holl albyms, gigs a gwyliau oedd o’n blaenau. 

Mae’r cynnwrf ychydig yn wahanol eleni, ond rydym yn dal yn gyffrous. 

Mae’n hartistiaid gwych a thalentog yn parhau i gyfansoddi a recordio, yn parhau i’n swyno gyda’u doniau. Mae cerddorion ac hyrwyddwyr yn darganfod ffyrdd gynyddol greadigol a chofiadwy o ddod â digwyddiadau i’n cartrefi, fel y gwelwyd gan Gigs Tŷ Nain a Stafell Fyw yn ddiweddar. Mae’r sin yn ffynnu er gwaethaf pob dim.  

Mae’n wych felly bod cyfle unwaith eto i ddathlu hynny gyda Dydd Miwsig Cymru. Na, fyddwn ni ddim yn cael heidio i’n hoff gigfannau i ddathlu eleni, ond fel wnaethon ni hefo Independent Venues Week fis diwethaf, gallwn fwynhau a dathlu, edmygu a chanmol mewn ffordd wahanol. Ymlaen! 

 

Prosiect newydd Sywel Nyw…  ac addo ambell syrpreis i ddod!

Mae’r cynhyrchydd cerddoriaeth Sywel Nyw wedi cyhoeddi prosiect newydd ar gyfer 2021. 

Dros y flwyddyn nesaf mi fydd y cerddor Lewys Wyn, sydd fwyaf adnabyddus fel prif leisydd Yr Eira, yn cyd-weithio hefo artist gwahanol i ryddhau sengl newydd bob mis.

Cafodd y cyntaf o’r rheini, Crio Tu Mewn, ei ryddhau ddiwedd mis Ionawr. Mark Roberts o’r bandiau MR, Catatonia a’r Cyrff oedd gwestai cyntaf Sywel Nyw, a’r gân yn adlewyrchu’r themâu i ni weld yn ngherddoriaeth diweddar MR ond mae cynhyrchiad modern, anthemig Sywel Nyw yn rhoi naws gwahanol iddo, mae’n sicr o apelio at gynulleidfa eang. 

Mae Lewys yn cadw enwau cyfranwyr eraill y prosiect dan ei het am rwan ond wedi addo y bydd digon o amrywiaeth ac ambell syrpreis ymysg cyfranwyr y deuddeg mis nesaf! 

 

 

Gwobrau’r Selar… ond yn wahanol

Er na fydd cannoedd o ffans cerddoriaeth Cymru yn heidio i Aberystwyth y mis yma, bydd gwobrau blynyddol cylchgrawn Y Selar yn parhau.

Mae’r gwobrau wedi dod yn dipyn o uchafbwynt i’r calendr cerddorol dros y blynyddoedd diwethaf ac yn fesur da o’r hyn sydd yn boblogaidd ymysg pobl ifanc Cymru. 

Yn lle noson wobrwyo mi fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru rhwng yr 8fed a’r 12fed o Chwefror. 

Fel arfer, roedd panel o arbenigwyr yn llunio rhestrau hir y gwobrau, cyn i’r cyhoedd bleidleisio dros yr enillwyr. Dros y blynyddoedd diwethaf mae Yws Gwynedd, Pasta Hull, Alys Williams a Tudur Owen wedi cipio sawl gwobr. 

Gwilym oedd enillwyr mawr y ddwy flynedd diwethaf gan fynd adref hefo 3 gwobr llynedd a 5 gwobr yn seremoni 2019. 

Bydd yn ddiddorol gweld pwy sydd wedi plesio gwrandawyr dros y flwyddyn diwethaf!

 

PUMP SY’N PLESIO

Bob mis byddwn ni’n dewis pump cân yr ydym ni wrth ein boddau gyda nhw. Ewch i wrando!

Cliciwch yma i fynd i wefan Sôn am Sîn

 

Mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â nifer o garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau