gan Gari Wyn Jones
Ystrydeb erbyn hyn ydi pregeth ‘Prynwch yn Lleol’, ond gwaetha’r modd tydi’r pregethwyr dal heb daro deuddeg wrth geisio lledaenu eu neges yn llwyddiannus.
Bron iawn y gellid dweud mai ‘ffad’ ar y cyfryngau cymdeithasol neu fantra brigâd y ‘good life dosbarth canol’ ydi’r fath osodiad. Felly sut mae argyhoeddi pobol Cymru o bwysigrwydd arddel y weledigaeth hon mewn ffyrdd ymarferol?
Sut mewn gwirionedd fedrwn ni achub ein cymunedau a’n trefi gwledig ac atal ein harian rhag llifo lawr coridorau yr M4 a’r A55? Mae gwleidyddion byth a hefyd yn galw am sefydlu ‘ymgynghoriad’ neu ‘weithgor’ i ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â chynnal a chryfhau economi ein trefi bach a’n cymunedau gwledig, ond be yn union ydi’r strategaeth adeiladol?
Be’ yn union allwch chi a finnau ei wneud i osod y meini yn y wal? A gwneud hynny cyn inni golli y pethau bychain hynny sy’ mor bwysig inni, sef y pethau hynny rydym wedi’u cymryd yn ganiataol. Pethau y byddwn yn hiraethu ar eu holau yn fuan iawn os gadawn ni iddyn nhw fynd i ddifancoll.
Mae ystadegau swyddogol Cymdeithas y Masnachwyr a Mân-werthwyr yn dangos mai dim ond tua £15 o bob £100 fyddwn ni’n ei wario mewn siop gadwyn neu siop fawr sydd yn dod yn ôl i’r economi leol. Ond o bod £100 fyddwn ni’n ei wario gyda masnachwyr annibynnol, preifat, bychan mae £45 yn debygol o gael ei fuddsoddi’n y gymuned leol.
Felly ystyriwch yr effaith y gall hynny ei gael ar eich cymuned leol chi. Dyma awgrymu rhestr fer o resymau pam ei bod hi’n fuddiol inni gyd wario yn ein cymunedau ein hunain. Cofiwn hefyd fod yr egwyddorion yma’n berthnasol i gynnal cymunedau lleol o fewn ardaloedd dinesig fel Caerdydd ac Abertawe.
Drwy gefnogi busnesau lleol rydan ni’n cynnal swyddi o bob math, yn weinyddwyr, tafarnwyr, mân-werthwyr a masnachwyr, yn weithwyr amaethyddol, peirianwyr etc. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Mewn sefyllfa o argyfwng neu angen brys gall defnyddio adnoddau lleol gynnig achubiaeth. Nid oes raid ichi boeni am ansawdd yr hyn fyddwch chi yn brynu nac os fydd o yn eich cyrraedd mewn da bryd. Cewch ei astudio a’i bwyso a mesur yn y fan a’r lle wrth ei brynu. Os ydi’r pris yn eich poeni dywedwch hynny wrth y gwerthwr. Rhowch gyfle iddo fatshio y pris! Yn amlach na pheidio mi ffeindiwch bod hynny yn bosib!
Ar ochr gymdeithasol ein bywyd mae prynu’n lleol mewn siopau ym Mhwllheli neu Aberteifi, Llangefni neu Flaenau Ffestiniog yn golygu ein bod yn gallu cael sgwrs bersonol gyda wynebau cyfarwydd. Wedi profiadau 2020 gall hyn fod yn llesol i’n hiechyd meddyliol ac mae cyfle i drafod a gwella sefyllfa y gymdeithas rydan ni’n byw ynddi.
Mae cefnogi busnesau eich hardal yn aml yn golygu y byddwch yn hybu digwyddiadau cymdeithasol a champau, sef digwyddiadau sy’n cael eu noddi’n ariannol gan fusnesau bychain drwy Gymru. Mae’r digwyddiadau hynny yn allweddol i gynnal papurau bro, clybiau rygbi, eisteddfodau, clybiau athletau a hyd yn oed cyhoeddi llyfrau.
Mae cefnogi busnesau lleol yn hybu positifrwydd. Rydan ni’n fwy tebygol o ymddiried mewn pobol leol a chreu cymuned fwy annibynnol a chryf. Mae cymuned o’r fath yn fwy gwydn a hunangynhaliol. Yn ddiweddar mae cangen Plaid Cymru Caernarfon wedi sefydlu tudalen Facebook ac mae yn agos i ddeugain o fusnesau lleol wedi ymuno i werthu eu hunain ac i gefnogi ei gilydd. Does ’na ddim rheswm pam na all hyd yn oed pentrefi bychain ddilyn y patrwm yma.
Mae prynu’n lleol yn cyfrannu at greu byd cynaliadwy. Pan fo nwyddau’n cael eu creu a’u cynhyrchu o fewn eich cylch lleol mae llai o drafaelio a thrafnidiaeth, llai o lygredd awyr a mwy o ddefnyddio adnoddau sy’n hollol naturiol i’r ardal. Drwy feddwl am les ‘global’ rhaid cefnogi’r ‘local’.
Heb eiriau cryfach o argyhoeddiad gan ein harweinwyr gwleidyddol ac heb gryf-hau grymoedd cyfansoddiad Llywodraeth Cymru mi fydd mwy a mwy o’n cymunedau a’n trefi gwledig yn colli eu hannibyniaeth a’u hunangynhaliaeth economaidd yn ogystal â’r cyfoeth diwylliannol sy’n dod yn ei sgil.
Mae bathodyn ‘Yes Cymru’ ac ‘Annibyniaeth i Gymru’ i’w weld ar ffenest ôl sawl car ac yn symbol o falchder a dyhead, ond mae angen i bob un ohono ni holi ein hunain os ydan ni o ddifri am greu Cymru annibynnol.
Os am roi blaenoriaeth i gryfhau a chynnal ein cymunedau lleol ledled y wlad rhaid inni sicrhau seiliau economaidd cryf oddi mewn iddynt. Y ffordd fwyaf sylfaenol o wneud hynny yw trwy gefnogi a phrynu’n lleol.
Prif lun gan Jon Candy
Daw’r golofn yma gan Gari Wyn Jones o rifyn Rhagfyr 2020 Y Cymro. I weld colofn fisol ddiweddaraf Gari Wyn Jones mae rhifyn diweddaraf Y Cymro ar gael i’w brynu yn siopau WH Smith, Co-op, Tesco a nifer fawr o siopau’r stryd fawr ar draws Cymru yn ogystal â rhai garejis. Neu tanysgrifiwch i gael Y Cymro drwy’r post neu ar gyfer fersiwn PDF digidol ar ebost, drwy gysylltu gyda gwyb@ycymro.cymru. Rydym hefyd ar gael i ddarllen ar-lein ar safle PressReader.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.