gan Gruffydd Meredith
New World Order a One World Government – termau sydd yn cael eu clywed yn gynyddol wrth i fwy o bobol ymchwilio.
Yn fy marn bersonol i, y pryder yw bod rhai corfforaethau, bancwyr, arianwyr, unigolion a sefydliadau honedig philanthropig, think tanks, yr elfennau uchaf o fewn cymdeithasau cyfrinachol a chudd ynghyd ag elfennau o fewn awdurdodau, cyrff a llywodraethau ar draws y byd, oll yn cydgynllunio mewn gwahanol ffyrdd i greu un llywodraeth ganolog ar gyfer yr holl fyd.
Llywodraeth ganolog gydag un math o arian digidol, un set o gyfreithiau rhyngwladol, un crefydd newydd, un llu arfog ac un system ganolog decnocrataidd, dechnolegol, gwyddonol a ffarmacolegol. Anodd iawn neu amhosib fydde trafod y pwnc yma heb sôn hefyd am gynlluniau Agenda 21 ac Agenda 2030 ac a elwir hefyd yn ‘Ddatblygu Cynaliadwy’.
Mae hon yn frwydr yn ei hanfod rhwng gwledydd a chenhedloedd sofran, a’r rhai sydd am greu llywodraeth un byd canolog. Ond hefyd yn fy marn i yn frwydr rhwng yr unigolyn a rhyddid unigolyn a phwerau tywyll sydd yn ysu i’n rheoli ni oll drwy ddefnydd technoleg a gwyddoniaeth.
Gellid symlhau hyn eto drwy ddweud mai brwydr ysbrydol ydi hon yn ei hanfod. Dwi’n dweud hynny wedi blynyddoedd o ymchwil – ymchwil wedi ei seilio ar feddwl agored a dyhead am y gwir. Neu, er fod credoau a diffiniadau ysbrydol pobol yn amrywio, gellid dadlau, drwy fetaffor o bosib, mai brwydr yw hon rhwng Duw y greadigaeth a Lwsiffer a’r angylion ffaeledig hynny y dywedir iddynt gael eu taflu o’r nefoedd ac sydd yn ceisio mynnu rheolaeth dros y greadigaeth.
Mae gosodiad ysbrydol neu Dduwiol o’r fath yn ormodedd i lawer dwi’n gwybod – bydd aml i un yn rolio llygaid, ebychu’n rhwystredig a daw golwg o siom i lawer wrth glywed y fath beth. Ond nid oes raid dilyn unrhyw grefydd na choelio mewn Duw o anghenraid i fod yn rhan o’r frwydr yma sy’n berthnasol i bawb. Dim ond angen edrych o gwmpas y byd sydd ei angen i weld a theimlo fod drwg yn amlygu ei hun yn aml heb unrhyw wrthwynebiad.
Dwi fy hun yn credu fod globaleiddwyr yn defnyddio pa bynnag dechneg neu dechnegau sydd yn gweithio i drio cyrraedd eu nod – lle bynnag y bo hynny ar y sbectrwm gwleidyddol – o’r chwith eithafol i’r dde eithafol a phob man yn y canol, a gan ddefnyddio pob ymgyrch, symudiad a meddylfryd gwleidyddol – o gyfalafiaeth monopoli, ffasgiaeth, neo-ryddfrydiaeth a rhyddfrydiaeth i gomiwnyddiaeth, sosialaeth ac anarchiaeth. A thrwy ddefnyddio hefyd pa bynnag faterion sy’n eu helpu i gyflawni’r ymgais am reolaeth lawn – o faterion sy’n ymwneud ag iechyd, bwyd, yr amgylchedd, diogelwch, materion sy’n ymwneud â hil a diwylliant neu beth bynnag arall all helpu’r nod terfynol.
Heb anghofio pŵer cwmnïau technoleg, y diwydiant ffarmacolegol ac hefyd y diwydiant militaraidd rhyngwladol. Fel sydd wedi ei grybwyll o’r blaen, maent hefyd wedi bod yn hynod lwyddiannus yn creu yr hyn a elwir yn agenda cywirdeb gwleidyddol, sydd yn ffordd o reoli diwylliant, pobol a chymdeithas, creu rhaniadau a’i ddinistrio a’i ddymchwel oddi fewn.
Does neb ohonom ni bobol clai meidrol yn berffaith wrth gwrs, ond ble gallwch, ymhyfrydwch mewn moesoldeb, cyfiawnder ac yn eich cenedl. Peidiwch llyncu’r holl bropaganda sydd yn cael ei bwmpio gan y cyfryngau yn ddiddiwedd, na derbyn yr ymosodiad diderfyn ar ein hawliau dynol a normau gwareiddiad. Cadwch feddwl agored a meddyliwch dros eich hunain. Byddwch yn hunangynhaliol a helpwch eich teulu, eich cymdogion, eich cymdeithas a’ch gwlad i fod mor hunangynhaliol â phosib, o ran bwyd, nwyddau, sgiliau a diogelwch yn gyffredinol.
Ystyriwch yr elfen ysbrydol holl bwysig i hyn i gyd. Ymchwiliwch a thrafodwch y pethau yma, eu trafod gyda theulu a phobol rydych chi’n eu nabod os yn bosib. Rhowch bwysau er eich gwleidyddion a’u deffro i’r gwirionedd y mae’n rhaid iddynt ei ddeall a gweithredu arno os ydynt am fod o unrhyw bwrpas i gymdeithas. Os nad yw eich gwleidyddion lleol neu genedlaethol yn barod i ystyried a gweithredu ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, sefwch eich hunain ac anogwch eich ffrindiau i sefyll, waeth pa mor boblogaidd yr ydych – y peth pwysig yw ymladd er lles y gwir a dros wareiddiad.
Ephesiaid 6:12: “Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.” (Beibl Cymraeg William Morgan)
Ymddangosodd yr erthygl yma yn gyntaf yn rhifyn Gorffennaf 2020 papur Y Cymro
Prif lun gan Pixel 2013
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.