Gruffydd Meredith – Prynwch dir, plannwch a thyfwch… ar gyfer ein dyfodol oll

Barn

Gan Gruffydd Meredith

Prynwch dir Cymru a sicrhau ein bod fel gwlad yn gwbl hunangynhaliol o ran bwyd, egni, deunyddiau, a phopeth arall angenrheidiol – yn barod at holl heriau’r dyfodol.

Ers blynyddoedd bellach, ac yn enwedig wrth i’r byd fynd yn fwyfwy ansefydlog, mae diogelwch neu sofraniaeth bwyd a phwysigrwydd gallu bod yn hunangynhaliol yn gyffredinol wedi dod yn fwy a mwy pwysig. Dwi’n meddwl ei bod yn allweddol erbyn hyn fod y Cymry yn mynd ati gydag afiaith i brynu mwy o diroedd ein gwlad, yn ogystal â thyfu a chynhaeafu bwyd a chreu’r deunyddiau angenrheidiol hynny sydd eu hangen i’n hunain a’n cymdeithasau – ar gyfer y presennol a’r dyfodol.

Nid oes unrhyw reswm pan na all ein cymdeithasau, ac felly’r wlad, fod yn gwbwl hunangynhaliol pan ddaw hi at fwyd, egni, deunyddiau a gwneuthuriau – a hynny drwy waith unigolion, cwmnïau neu brosiectau cydweithredol. Mae prosiectau a chwmnïau cydweithredol llwyddiannus megis Hufenfa De Arfon, Partneriaeth Ogwen/Ynni Ogwen, Amaethwyr Corwen Cyf a Clunderwen & Cardiganshire Farmers Ltd, yn rhai enghreifftiau da o’r hyn sydd yn bodoli yn barod.

Nid rhyw freuddwyd iwtopaidd yw hon. Dyma oedd y norm tan yn eithaf diweddar yng nghym-deithasau Cymru a rhan fwyaf o wledydd y byd – yn arbennig yn yr ardaloedd mwy gwledig ac arfordirol. Oce, mae’n braf cael lot o ddewis ond yden ni wir angen letys wedi ei hedfan o Frasil, quinoa o Folivia a halen o’r Himalayas tra bod cystal cynnyrch, os nad gwell, ar ein stepen drws?

‘…rheswm da i’r Cymry oll fynd ati rwan i brynu cymaint o dir eu gwlad eu hunain ag sy’n bosib’

Ac os nad oes gennych lawer o bres i ddechrau cwmni neu i brynu tir, be am ymuno ag eraill i brynu ar y cyd? Ac os ydi hynny hefyd yn anodd a dim digon o arian gennych neu rydych mewn ardal drefol neu ddinesig, tyfwch fwyd yn eich tŷ, stafell neu fflat, ar silff ffenest neu ar falconi os oes gennych chi un. Neu ffeindiwch dir gwyllt nad yw’n cael ei ddefnyddio yn lleol a phlannwch yn wyllt mewn man priodol.

Wrth i’r dinasoedd mawr ym Mhrydain fynd yn fwy ansefydlog, sicrwydd am fwyd a deunyddiau fod yn llai sefydlog a gyda thechnoleg monitro a’r smart cities bondigrybwyll yn cael eu gwthio yn gynyddol , mae’n debygol y bydd mwy o bobol yn dechre edrych am ardaloedd gwledig i ddianc iddynt o’r dinasoedd ac hefyd i brynu tir. Dianc o ddinasoedd a threfydd mwyaf Lloegr yn arbennig mae’n debyg, er siawns fod digon o le i’r rhain yn ardaloedd gwledig Lloegr? Efallai y dylem ariannu ymgyrch yn Lloegr i drio gwerthu Lloegr wledig i’r Saeson hefyd.

 

Beth bynnag y sefyllfa, mae hyn hefyd yn rheswm da i’r Cymry oll fynd ati rwan i brynu cymaint o dir eu gwlad eu hunain ag sy’n bosib.

Mae’n gwbwl anghyfiawn nad oes unrhyw flaenoriaeth i bobol Cymru, ar hyn o bryd, ar gyfer y degau o filoedd o dai newydd mae Llywodraeth Cymru yn eu hadeiladu ar draws Cymru, ac mae angen mynd ati i roi system genedlaethol mwy teg a chynaliadwy yn ei lle.

Ond mae hefyd cyfleoedd ac angen i fynd ati i atgyweirio hen dai a hen adeiladau er mwyn gwneud cartrefi i bobol Cymru – mae’n ymddangos, er engraifft, bod o leiaf 30,000 o dai y byddai modd byw ynddynt yn sefyll yn wag yng Nghymru yn barod ac a allai gael defnydd. Ac fel gwelwyd yn rhifyn Mehefin Y Cymro, mae posib mynd ati i adeiladu tŷ newydd neu atgyweirio hen furddunod ac adeiladau fferm dros Gymru gan ddilyn rheolau’r amrywiol awdurdodau lleol.

Ac os am atgyweirio hen furddun neu hen adeilad fferm, fel un enghraifft, er ei fod ychydig yn fiwrocrataidd gellid dadlau, mae Cyngor Sir Gwynedd ac Ynys Môn yn cynghori yn eu canllaw cynllunio atodol ‘Ail-adeiladu Tai a Throsi adeiladau yng nghefn gwlad’ (pwynt 9.1) fel a ganlyn:

“Bydd rhaid i unrhyw adeilad a fwriedir ei drosi yng nghefn gwlad fod yn adeilad parhaol gydag adeiladwaith cadarn….Dylai’r muriau fod yn gadarn hyd at lefel y bargod (y landars). Fel canllaw, ni ddylid ystyried cais i drosi adeilad os oes angen ailadeiladu mwy na 10% o gyfanswm y waliau pan fo angen cynnal gwaith adfer i’r to neu 20% o gyfanswm y waliau os nad oes angen adfer y to.”

Felly am be yde chi’n aros bobols? Ewch i’r mynyddoedd, y caeau a’r dolydd gyda’ch rhawiau, eich ceibiau a’ch hadau, a phlannwch, tyfwch ac adeiladwch dros Gymru!

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau