(Trawsgrifiad Cymraeg o’r araith gan Angharad Mair o gynhadledd Yes Cymru yn Theatr Soar, Merthyr Tudful ar 26.1.2020)
Heb Lais, Heb Genedl. Prynhawn da. Efallai bod rhai ohonoch chi wedi gweld ar twitter neu facebook eitem a gynhyrchwyd ar gyfer ein rhaglen Nos Galan ar S4C ar ffenomenon y gorymdeithiau annibyniaeth yn 2019 yng Nghaerdydd, Caernarfon a fan hyn ym Merthyr.
Yn ei gyfweliad fe ddywedodd Sion Jobbins rhywbeth darodd tant gyda fi:yn y lle cyntaf, ei fod e’n credu fod Caerdydd wedi ymddwyn fel prifddinas am y tro cyntaf ar ddiwrnod yr orymdaith, ac yn ail, mai un o’r pethau oedd mor wych am y diwrnod hwnnw, oedd fod pawb yno mor hapus.
Wel, mae cysylltiad uniongyrchol rhwng yr hapusrwydd hwnnw a darlledu. Cael lle a hawl i fynegi barn. Cael llais. Mewn ymchwil byd eang diweddar ar effaith teledu, profwyd bod trigolion gwledydd gyda chyfundrefn ddarlledu eu hunain, yn hapusach, yn iachach, ac yn fwy cynhyrchiol, oherwydd bod ganddynt lais, a bod rhywun yn gwrando.
Os mai’r gwerthoedd sy’n hanfodol ar gyfer adeiladu cenedl yw democratiaeth, tegwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, heb ddarlledu nid yw rhain yn bosibl. Fe fyddai rheolaeth dros ddarlledu yn ein caniatau i ddiffinio ac i ddatblygu cymdeithas Gymreig, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol.
Yn bwysicach fyth, fe fyddai system ddarlledu ein hunain yn ein caniatau i gerdded yn falch fel Cymry, wrth i ni benderfynu ar ein tynged ni ein hunain. Does dim hyd yn oed rhaid i chi fod o blaid annibyniaeth i wybod fod ein hawliau democrataidd ni yn affwysol o brin yng nghyd-destun darlledu. Nid ydym yn cael ein trin gyda thegwch na pharch.
Rydym hefyd yn byw mewn cyfnod o oruchafiaeth newyddiadurol o Lundain, a thueddiad i hwnnw fod yn gwbl drahaus, heb syniad mewn gwirionedd beth yw’r materion pwysig i ni yma yng Nghymru. Ac ar ben hynny, mae’n gywilyddus nad oes yr un sefydliad darlledu yn uniongyrchol atebol i Gymru. Mae un o gonglfeini democratiaeth cenedl dan ofalaeth gwlad arall.
Ffaith syfrdanol mewn gwirionedd. Cymrwch S4C fel esiampl, sianel iaith Gymraeg, yn atebol i Lywodraeth San Steffan trwy Ysgrifenydd Gwladol Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Llongyfarchiadau mawr i Rhodri Williams ar y cyhoeddiad yr wythnos hon mai fe fydd Cadeirydd newydd S4C, ac rwy’n falch o’i benodiad, ond nid yw’n gwneud synnwyr, o dan y Ddeddf Darlledu, mai un o weinidogion Llywodraeth San Steffan sy’n cael penderfynnu pwy fyddai’n gwneud y Cadeirydd gorau i S4C, ac yn wir, pob aelod o Fwrdd S4C.
Mae’n bosib nad yw hi, neu yn y gorffennol, fe, erioed wedi bod i Gymru hyd yn oed. Mae nhw yn Llundain yn penderfynnu pwy mae nhw’n feddwl fyddai fwyaf addas i ni. Mae newid y system yma, yn syml, yn fy marn i, yn fater o hunan-hyder, hunan-gred, ac yn fwy na dim hunan barch. Sut ar wyneb y ddaear rydym ni’n caniatau i eraill ein trin ni mor ffordd mor israddol?
Mae’r dyfodol yn newid ac yn newid yn gyflym. Cyn y refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 2014, fe rybuddiodd Gordon Brown yr Albanwyr eu bod yn wynebu colli Eastenders, a Strictly, a Dr Who, a Match of the Day wrth feiddio pledleisio ‘ie’. Wel, dyw e ddim yn gallu bygwth hynny mwyach. Mae’r rhaglenni hynny i’w gweld yn rhwydd. Mae tirwedd teledu yn newid ac yn newid yn gyflym. Fe fydd y BBC hyd yn oed yn lwcus i oroesi Boris Johnson.
Wrth gwrs, yng Nghymru, mewn cymaint o agweddau bywyd, rydym dan ddylanwad ein cymydog mawr, ac ambell waith, mae ein barn ni am bethau yn cael ei gymylu gan yr agosatrwydd hwnnw, yn enwedig gan bod y cymydog hwnnw yn rhannu yr un iaith â ni a hyd yn oed rhywfaint o’r un diwylliant a hunaniaeth â ni. Nid oes gan wledydd eraill Ewrop y BBC ond mae ganddynt oll ddarlledwr cyhoeddus.
Pa mor bynnag blentynaidd oedd bygythiad Gordon brown y byddai’r Albanwyr yn colli Strictly, roedd ei fygythiad yn taro deuddeg achos ers dechrau darlledu ym Mhrydain, mae’r BBC wedi bod yn ran o’n seici ni. Ac wrth gwrs, ryn ni hefyd eisiau gwylio Eastenders a Strictly a Dr Who. Ac mae hynny’n iawn..ond fel cenedl, mae’n rhaid i ni hefyd gael darlledwr ein hunain o bwys. Er gwaethaf beth fydd gwrthwynebwyr annibyniaeth yn ei ddweud wrthoch chi, fe fyddwn ni yn gallu parhau i wylio rhaglenni cyllideb mawr y BBC, ITV, Netflix ac Amazon, a’r cynnwys cyllidebau llai ar YouTube a’r gwefannau cymdeithasol.
Felly byddai gwasanaeth darlledu gwell, nid gwaeth nag israddol gyda ni. Gyda llaw, diddorol i weld Gordon Brown yn dychwelyd i’r frwydr unwaith eto yn rhybuddio y gallai’r Deyrnas Gynfunol ddod i ben, os nad yw’r gwledydd datganoledig yn cael mwy o lais i wneud penderfyniadau.
Mae nhw’n dechrau poeni eto! Ni’n ffeindio’n llais Gordon! Felly, sut mae darlledu yn gweithio mewn Cymru anibynnol? Sut, mewn hinsawdd gystadleuol, mewn cyfnod globaleiddio mawr, mewn byd o gannoedd o sianeli a chewri cyfryngol wnewn ni lwyddo? Wel, mae’r ateb yn syml: cymhelliad gwleidyddol, ymyrraeth gwladol a chyllid digonol. A dyw bod yn wlad fach ddim yn anfantais.
Ar un adeg y gred oedd bod unrhywbeth mawr yn well nag unrhywbeth bach, ac mae dim ond ar raddfa cymharol fawr oedd modd cyflawni pethau, wel yn eironig, un o effeithiau globaleiddio yw ei fod hefyd yn gyrru pobl i chwilio am yr hyn sydd yn lleol iddyn nhw, at yr hyn sydd yn eu gwneud yn wahanol ac yn unigryw. Mae synnwyr o berthyn yn dod yn bwysicach. Yn achos darlledu – po fwyaf o gyfresi a fformatau sydd yn union yr un peth ar draws y byd, ar deledu ymhob gwlad, mae’n sefyll i reswm y bydd pobl eisiau cynnwys darlledu sydd yn gwbl berthnasol iddyn nhw hefyd.
Mae amddiffyn a chynnal diwylliannau cenedlaethol yn gyfiawnhad gwbl ganolog i ddarlledu cyhoeddus mewn gwledydd bach. Rheidrwydd, nid moethusrwydd. Mae darlledu yn un o gonglfeini cymdeithas, ac nid dim ond y cynnwys sydd yn bwysig, mae’r cyd-destun hefyd yr un mor allweddol. Ac mewn Cymru annibynol, fe fyddai’n bosib gwneud cymaint mwy gyda gwasanaeth darlledu cyhoeddus er lles y gymdeithas.
Wedi ei dalu amdano ganddom ni, mewn un ffurf neu’i gilydd, fe ellid rhoi’r cynnwys yn ôl i ni am ddim. Gellid ail becynnu’r cynnwys i’w ddefnyddio’n lleol, mewn iaith wahanol, i ddemoraffeg gwahanol. Mae fy ngweledigaeth i yn un o Gymru annibynol ble mae hawliau darlledu yn hawliau y bobl. ECONOMI: Dwi am gyffwrdd yn gyflym â phwysigrwydd economi darlledu.
Mae cyfleoedd economaidd wrth gwrs. Er enghraifft, mae cwmni Bad Wolf yn cynhyrchu dramau anhygoel sy’n cael eu gwerthfawrogi dros y byd o’r stiwdios ym Mae Caerdydd fel A Discovery of Witches a His Dark Materials gyda’r BBC, ac yn amlwg fe fyddai Cymru annibynol am sicrhau fod cwmniau uchel eu parch fel hyn yn cael pob mantais economaidd i aros yng Ngymru, gan gyflogi cynifer o bobl leol fel mae nhw’n ei wneud.
Ond gallai Llywodraeth mewn Cymru annibynol hefyd sirhau fod economi darlledu yn gweithio’n well i bawb yng Nghymru, yn llai canolig yng Nghaerdydd. Rydym ni yn Tinopolis yn ymwybodol iawn ein bod yn fusnes pwysig, yn ddiwylliannol ac economaidd mewn ardal ddifreintiedig fel Llanelli. Mae canolfan newydd y BBC yn y Sgwar Canolog yng Nghaerdydd yn wych i’r rheiny sydd yn dod oddi ar y tren o ardaloedd eraill o Brydain fel Llundain i gyrrion pell y BBC yng Ngymru, ond er mor wych yw’r adeilad a’r adnoddau, oni fyddai’n well dewis lleoli darlledwr cenedlaethol fan hyn ym Merthyr, neu Dredegar, neu Flaenau Gwent?
Gallai fod yn ran o dwf economaidd i Gymru gyfan, yn hytrach nag anwybyddu y diffyg swyddi, y tlodi, a’r cyfleoedd mewn cymaint o rannau o’r de ddwyrain. Ond, ac mae hyn yn fater o dristwch mawr yn fy marn i, mae cyfres gomedi ddiweddaraf BBC Cymru yn portreadu’r tlodi hwnnw yn The Tuckers. Ac run ni fod i chwerthin! Diolch fyth am Connagh gyda G yn Love Island, o leia mae ganddo fe uchelgais.
Felly, i gloi, beth allwn ni wneud nawr? Wel, mae’n rhaid i ni sylweddoli bod darlledu, ochr yn ochr â iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r economi ayb yn ran hanfodol o wladwriaeth iach. Darlledu sydd yn rhoi llais i ni. Mae’n sefyllfa rhyfedd yng Nghymru, pan fo datganoli darlledu yn codi ei ben, bod ofn y byddai pobl Cymru yn mynnu bod arian teledu yn cael ei wario ar ysbytai ac ysgolion, nid teledu, yn enwedig teledu Cymraeg. Mae hynny’n colli’r pwynt yn llwyr ar y pwysigrwydd mae pob gwlad annibynol arall yn ei roi ar ddarlledu, fel rhan o ddemocraetiaeth iach a hunan barch.
Mae’r holl newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd ym myd darlledu yn ran o broses ac mae angen i’r broses honno ddechrau yng Nghymru hefyd, cyn anibyniaeth. Ga’i eich annog chi i ddarllen dogfen Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddatganoli darlledu, ac fel mae’n digwydd mae’r Senedd ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r syniad o ddatganoli darlledu, ac yn gwahodd pobl i ymateb. Dyw hyn ddim yn anibyniaeth, ond mae’n lwybr tuag at wlad gyda mwy o hunan hyder a hunan barch.
Byddai datganoli darlledu nawr o leiaf yn rhoi rhwyfaint o bwerau i Lywodraeth Cymru i fonitro yr holl ddatblygiadau pwysig sy’n digwydd ar hyn o bryd, ac i gael cyfrifoldeb dros ddarlledu ar adeg pan mae mor bwysig fod anghenion Cymru yn cael eu cymryd i ystyriaeth mor ddiwyd ag anghenion Lloegr. Rydym ni yn haeddu yr un tegwch a lefel o ddemocratiaeth mae eraill yn ei gymryd yn ganiataol.
Mae nifer o faterion annemocrataidd yng Nghymru, ac mae diffyg democratiaeth ym myd darlledu mor ddifrifol a’r lleill i gyd. Diolch YesCymru am drefnu y sgyrsiau pwysig yma. Er gwaetha Brexit, mae hunaniaeth Brydeinig yn gwegian ar yr un pryd a thonnau globaleiddio yn ein taro – er mwyn peidio cael ein sgubo o’r neilltu yn wlad anhysbys, ond i godi a dod yn ran o’r byd global hwnnw, mae’n rhaid i ni godi ein llais a theithio ar lwybr newydd, i gael Cymru well i holl bobl Cymru, Cymru sy’n rhoi llais i bawb.
Angharad Mair 25.1.2020
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.