Adolygiad o 2019 – mwy o wallgofrwydd cywirdeb gwleidyddol, y symudiad at annibyniaeth… a’r angen i gofleidio ceidwadaeth Gymreig – gan Gruffydd Meredith

Barn

gan Gruffydd Meredith

Rhyddid i Gymru, Plaid Cymru, egwyddor hanfodol rhyddid barn – sy’n gynnwys yr hawl i dramgwyddo, culni rhyddfrydol a gwallgofrwydd cywirdeb gwleidyddol sydd angen ei daclo cyn iddo ei fwyta ei hun a phawb sydd yn ymwneud ag o.  

Dwi ddim yn meddwl fod r’un cenedlaetholwr isio creu cecru diangen yng Nghymru – mae dyfodol a lles Cymru yn rhy bwysig i hynny. Ond dwi’n credu ei fod yn bwysig o ran egwyddor i drio delio yn rhesymegol a phwyllog gyda sefyllfaoedd ble mae annhegwch a sensorio barnau eraill yn codi, a hynny er lles cyffredinol Cymru, ei phobol a chymdeithas rydd yn gyffredinol. 

Nid yw creu diwylliant o sensoriaeth a chau rhyddid barn eraill i lawr yn mynd i’n helpu ar y daith rydym arni tuag at Gymru rydd, mae peryg iddo wneud y gwrthwyneb.

Fel miloedd eraill, dwi wedi tyfu fyny gyda Phlaid Cymru ac wedi ymgyrchu drosti sawl gwaith yn y gorffennol ac, fel Cymro, yn eu cefnogi, mewn egwyddor, dros y pleidiau undebol sydd yng Nghrymu.

Er hynny nid ydwyf yn ffan mawr o’r cyfeiriad identity politics obsesiynol, ymrannol a pholareiddiol mae elfennau o fewn Plaid, a bron pob plaid arall, wedi ei cymryd dros y pum mlynedd dwythaf yn enwedig. 

 

Yn arferol, plaid ynglŷn â chenedlaetholdeb a rhyddfrydiaeth ydi’r blaid wedi bod – neu o leiaf dyne fu’r argraff gyffredinol dwi’n meddwl – a’r argraff sydd wedi bod o leiaf, yw mai rhyddfrydiaeth yng ngwir ystyr glasurol y gair yw hwn, sef croesawu pob barn wleidyddol Gymreig boed yn fwy ceidwadol, radical, sosialaidd neu fel arall, ac uno pawb er mwyn bod yn gynhwysol o bob barn yng Nghymru – pob barn, nid jisd y barnau maent yn hoffi eu clywed.

Mae ceidwadaeth Gymreig yn rhan hanfodol o blwraliaeth gwleidyddol Cymru ac yn rhan hanfodol o’r jig-so ac o gwilt a gwead y symudiad tuag at annibyniaeth i Gymru. Ond pan mae’n dod at blwraliaeth a rhyddid barn eraill nad ydynt yn cytuno â nhw mae’n ymddangos fod lleiafrif swnllyd nid yn unig o fewn Plaid Cymru ond o fewn yr holl brif bleidiau, wedi creu carchar ideolegol, adweithiol ac anoddefgar i’w hunain na allant ddianc ohono. Carchar sydd yn golygu nad oes wastad lle i amrywiaeth eang o farnau a gwahanol leisiau Cymreig, yn arbennig lleisiau mwy ceidwadol Cymreig.

Rwy’n cydymdeimlo gyda’r fath ddilema carcharol i raddau ond, yn fy marn i, gwell fydde trio osgoi’r math yma o ymrannu a checru diangen – yn arbennig  rhwng cenedlaetholwyr Cymreig sydd oll isio’r gorau i’r wlad – cecru sydd wastad yn mynd i fod yn fêl ar fysedd gelynion Cymru. 

Yn lle hynny, yn y traddodiad gwir ryddfrydol, eangfrydig ac anghydffurfiol Gymreig, mae angen mwy o amrywiaeth barn Gymreig, mwy o drafod a mwy o holi, llai o echo chambers, llai o hunan leddfu academaidd nad oes neb yn ei ddeall, llai o arddangos daioni hunangyfiawn a ffasiynol wleidyddol gywir, a llai o’r identity politics bondigrybwyll  –  mae’r rhain oll yn tanseilio, yn ymrannu a pholareiddio pobol yn lle eu huno a dod â nhw at ei gilydd.

Mae wastad lle i unrhyw un anghytuno, gytuno neu gytuno i anghytuno ar unrhyw bwnc wrth gwrs.Dyma ydi craidd cymdeithas rydd a gwaraidd. Ond mae’n bwysig, dwi’n meddwl, osgoi symud i faes sensorio rhyddid barn eraill – rhywbeth fydde yn symud i gyfeiriad sydd yn gweithio yn erbyn y bobol ac yn erbyn undod cenedlaethol.

Mi fydd gofyn i ymgyrch annibyniaeth i Gymru fod yn ymwybodol o be yn union sydd tu ôl i gywirdeb gwleidyddol, a hefyd elwir yn Farcsiaeth ddiwylliannol, a hefyd i fod yn llawer mwy cynhwysol ac yn wirioneddol ryddfrydol a goddefgar o amrywiaeth barn a gwahanol safbwyntiau yng Nghymru. Cynhwysol, rhyddfrydol a goddefgar yng ngwir ystyr y geiriau – hynny yw, gallu derbyn fod gan eraill farn gwahanol ar wahanol faterion.

Oherwydd os ceith yr agweddau yma o gyfyngu ar ryddid barn le i ffynnu, ni fydd yn diweddu yn dda i neb ohonom, be bynnag ein cred a’n gobeithion. Fel rydym yn dechrau ei weld yn barod, os nad yw’n cael ei atal a’i ymwrthod, mi fydd gwallgofrwydd cywirdeb gwleidyddol yn bwyta ei hun a phawb sydd yn ymwneud ag o, yn union yn ôl ei fwriad. Mae Cymru a dyfodol Cymru yn haeddu gwell na hynny.

 

Etholiad cyffredinol Rhagfyr 2019 a’r angen am geidwadaeth Gymreig yn yr ymgyrch am annibyniaeth i Gymru. 

Ym mis Rhagfyr buodd etholiad cyffredinol arall mae’n debyg, a shyfflwyd pobol o gwmpas senedd ffarsiaidd a chynyddol ddiystyr San Steffan unwaith eto. Mae’n edrych fel bod pobol yn gyffredinol, yn arbennig yn Lloegr, wedi pleidleisio dros Boris Johnson a’r blaid Geidwadol eto yn y gobaith, os nad dim byd arall, o wneud yn siŵr fod pleidlais ddemocrataidd Brexit 2016 yn cael ei gwireddu o’r diwedd.

Ar y cyfan, yr argraff dwi’n ei gael ers amser yw mai’r dewis cynyddol i lawer mewn etholiadau o’r fath erbyn hyn yw unai i beidio pleidleisio o gwbl neu ddewis yr ‘opsiwn lleiaf drwg’ – dim llawer o ddewis mewn geiriau eraill. A, quelle suprise, fel y tybiais, mae Boris wedi dechre mynd nol ar ei addewidion yn barod.

Un o addewidion Boris Johnson yn ystod yr ymgyrch etholiadol oedd i leihau niferoedd mewnfudwyr i Brydain yn ddramatig – i’r degau o filoedd yn lle’r cannoedd o filoedd – gyda’r nifer yma yn gyfanswm o 603 mil a 240 mil net yn 2018. Fodd bynnag mae’n ymddangos ei fod eisoes wedi  diddymu’r addewid yma.

Ac fel soniwyd yn rhifyn Rhagfyr Y Cymro, be bynnag a ddigwyddith gyda Brexit mae’n ymddangos fod gwladwriaeth y Deyrnas Gyfunol eisoes wedi cytuno i’r EU Defence Union – i ‘roi’ awdurdodau diogelwch a phwerau militaraidd y Deyrnas Gyfunol i ffwrdd i bŵer canolog o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Y pwynt ydi, yn fy marn i, nad yw Boris a’r llywodraeth yn Llundain wir o blaid Brexit go iawn ond yn hytrach yn cogio bod, er mwyn cynnal delwedd y parti ffug geidwadol a ffug draddodiadol yma.

Er hyn, mae sloganau adweithiol ‘edgy’ a ‘woke’ gwrth-werthoedd ceidwadol yn gyffredinol wedi mynd yn flinedig a syrffedus yn fy marn i – yn arbennig yn erbyn y rhai hynny sydd, yn syml, yn ymarfer eu hawl democrataidd i bleidleisio.  

Ond be yn union ydi’r gwahaniaeth gwirioneddol rhwng yr holl bleidiau undebol yn San Steffan? Papur Rizla neu ddau beryg. Ac fel sydd yn cael ei drafod yn gynyddol, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng y blaid Geidwadol a rhwng ceidwadaeth ‘c’ fach. Nid yw gwerthoedd ceidwadol ‘c’ fach, sy’n cynnwys ceidwadaeth gymdeithasol, yn drosedd nac yn wrthun. Ac mae ceidwadaeth Gymreig yn rhan hanfodol o blwraliaeth gwleidyddol Cymru ac yn rhan hanfodol o’r jig-so ac o gwilt a gwead y symudiad tuag at annibyniaeth i Gymru.

Mae gan bobl Cymru werthoedd ceidwadol yn ogystal â nifer o werthoedd eraill, fel sydd gan ran fwyaf o bobol y byd. Wedi’r cwbl mae’r syniad fod angen i Gymru fod yn wlad annibynnol unwaith eto, yn ei hanfod yn gysyniad retro-geidwadol – bron i’r gwrthwyneb pegynol i naratif  ‘rhyngwladoliaeth flaengar’. Ac wedi’r cyfan, natur geidwadol cymunedau Cymru sydd wedi gwarchod yr iaith i’r graddau y maent wedi.  

Ond ar ben hynny, nid yw’r blaid geidwadol yn Llundain wedi bod yn geidwadol ers blynyddoedd maith bellach beth bynnag – mae’r globaleiddwyr neo ryddfrydol (neu rhai sy’n hoff o sicrhau monopoli ar gyfalafiaeth i fod yn fanwl gywir) wedi hen gymeryd drosodd tra bod cywirdeb gwleidyddol wedi dileu’r holl rinweddau traddodiadol a cheidwadol hynny y mae nifer o’i phleidleiswyr yn meddwl eu bod yn eu cefnogi, a nifer o’r protestwyr gwrth-Dorïaidd yn meddwl, yn naïf, fod y blaid honno yn eu harddel.

Ond pwy sydd yn poeni am San Steffan a’r Deyrnas Gyfunol bellach beth bynnag? Onid ydi’r sefydliadau yma yn amlwg ddibwrpas ac obsolit i genedlaetholwyr Cymru, yr Alban a Lloegr erbyn hyn?

Llun: Rhian Gareth

Ac yn fy marn i, y gwaethaf y bydd San Steffan a’r llywodraeth yn Llundain, y mwyaf fydd y galw a’r cyfle am annibyniaeth i Gymru yn cryfhau. Dyma un o’r rhesymau pam y pleidleisiais i, a nifer o genedlaetholwyr Cymreig, Albanaidd a Seisnig dros Brexit dwi’n tybio – mae’n amlwg fod hwn yn gyfle euraidd i ymladd am sofraniaeth go iawn i’n gwledydd yn erbyn y sefydliadau a’r undebau caethiwus a chyfyngus yma, nid yn unig yn Llundain ond ym Mrwsel hefyd.

Heb erlid neu gasáu neb mae’n rhaid, yn fy marn i, i’r mwyafrif tawel ddechrau datgan yn glir ac yn gyson bod yn rhaid rhoi stop ar y plismona meddwl yma sydd wedi bod yn  amlygu ei hun yn 2019 a’r blynyddoedd diweddar, ac hefyd i roi stop ar y rhai hynny sydd yn fwriadol bolareiddio a chreu rhaniadau rhwng pawb mewn cymdeithas. Mae hyn yn bwysig nid yn unig i warchod cymdeithas rydd ond hefyd i warchod y symudiad annibyniaeth i Gymru. Tri dyfyniad arall i’w hystyried i orffen:

….the age of political correctness, which is actually the age of intellectual colonialism and  psychological fascism for the creation of thought crime” – Steve Hughes, comedïwr

The Revolution won’t happen with guns, rather it will happen incrementally, year by year, generation by generation. We will gradually infiltrate their educational institutions and their political offices, transforming them slowly into Marxist entities as we move towards universal egalitarianism.”  – Max Horkheimer

Don’t you see that the whole aim of Newspeak is to narrow the range of thought? In the end we shall make thought-crime literally impossible, because there will be no words in which to express it.”  – George Orwell

A ble mae angen, rhaid cytuno i anghytuno fel oedolion er lles ein gwlad anhygoel. Gwerth ydi cofio hefyd eiriau John F Kennedy yn yr oes bolareiddiol, narsisitaidd, fi fi fi yma: “Na ofynnwch be all eich gwlad wneud i chi, yn hytrach gofynnwch be allwch chi wneud i’ch gwlad”

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau