gan Gruffydd Meredith
’De ni gyd wedi clywed y trafod syrffedus am ddyfodol y Gymraeg. Oes, mae heriau yn wynebu’r Gymraeg, yn arbennig yr allfudo o Gymru, y mewnlifiad direolaeth o weddill Prydain a thu hwnt, a pholisi Llywodraeth Cymru i adeiladau degau o filoedd o dai dros Gymru nad sydd yn rhoi unrhyw flaenoriaeth i bobol Cymru – yn sicr rhywbeth pendant sydd angen ei herio drwy gyfraith a’i wrthdroi.
Ond y gwir syml yw, er gwaethaf yr holl ymosodiadau, y drwgdybio, y darogan a’r traethu academaidd, mae’r iaith Gymraeg mewn sefyllfa anhygoel o gryf o ystyried popeth.
Nid hynny’n unig chwaith, ond mae’n tyfu, nid yn unig yng Nghymru ond drwy weddill Prydain, ble bu’n iaith frodorol gynt. Wrth gwrs mae’r rhan fwyaf o’r diolch yma i’r Cymry Cymraeg eu hunain ac i athrawon. A rwan, drwy’r we yn enwedig, gwelir diddordeb cynyddol yn yr iaith gan ddysgwyr ym Mhrydain, Ewrop a gweddill y byd.
Ac nid diddordeb yn yr iaith yn unig sydd, ond hefyd yn hanes anhygoel Cymru a’r Prydeinwyr/Brythoniaid cynnar. Ac wrth i’r Saesneg droi yn iaith robotaidd, iwnifform, unffurf a llwydaidd y globaleiddwyr sydd am weld byd heb ffiniau nac amrywiaeth, mae pobol gwledydd Prydain yn arbennig fel ’taent yn awchu am rywbeth sy’n golygu rhywbeth go iawn iddynt yng nghyswllt eu gwlad a hanes anhygoel yr ynys mae’r gwledydd yn bodoli ynddi. Efallai bod llwyddiant ysgubol y gyfres anhygoel Game of Thrones yn destament i hynny – mae’n amlwg fod llawer iawn os nad y rhan fwyaf o ysbrydoliaeth y gyfres yma wedi dod o hynt a helynt y Brythoniaid/Celtiaid.
Ac efallai bod elfen ysbrydol ddyfnach i hyn i gyd. Efallai, jisd efallai, bod pobol yn teimlo ym mêr eu hesgyrn fod gan ysbrydiaeth a’r Gymraeg gysylltiadau mwy nag yr ydym yn ei sylweddoli. Beth bynnag, dyma resymau i ni ddathlu ein hiaith anhygoel a pham fod popeth i’w ennill:
Cyn 1999 roedd mewnlifiad net i Brydain yn amrywio o rhwng 0 i 50,00 y flwyddyn. Ond o 1999 ymlaen, yn dilyn polisi brawychus llywodraeth Llafur o dan Tony Blair i agor y llifddorau yn ddireolaeth, bron, mae’r ffigwr yma wedi bod yn agosach i 300,000 net y flwyddyn – ffigwr abswrd o uchel sydd yn cyfateb â dinas newydd maint Coventry bob blwyddyn. Ond er gwaethaf hyn i gyd, mae’r Gymraeg yn dal i fod yn ail o ran niferoedd siaradwyr ym Mhrydain.
Er ei fod dipyn o sbel yn ôl erbyn hyn dwi’m yn deud, yn ôl cyfrifiad 2011 mae 712,000 o siarad-wyr brodorol Cymraeg ym Mhrydain (562,000 yng Nghymru a hyd at 150,000 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon). Mae hyn yn golygu bod mwy yn ei siarad na Phwyleg (546,000), Punjabi (273,000), Urdu (269,000), Bengali (221,000), Arabeg (159,000) a Tsieinëeg (141,000) – ac mae’n ail i’r Saesneg yn unig.
Gellir amcangyfrif hefyd bod o leiaf 20,000 o siarad-wyr (a chymdeithasau o wahanol feintiau) Cymraeg rhugl ar draws gweddill y byd, ar gyfandir Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, a’r Ariannin yn arbennig, sydd yn gwneud y cyfanswm o siaradwyr Cymraeg swyddogol yn 732,000 o leiaf.
Anghofiwch sloganu pitw, tocenistaidd a diystyr llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae bron i ddwy filiwn yn ei siarad yn barod!
Gellir tybio mai 800,062 yw’r ffigwr cywir fodd bynnag oherwydd yn ôl yr ONS, 630,062 (ac nid 562,000) yw’r nifer o bobol yng Nghymru sydd â’r gallu un ai i sgwennu, siarad neu ddeall Cymraeg, sydd yn awgrymu nad yw nifer helaeth o bobol yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg ‘go iawn’ gan nad ydyn nhw o bosib yn ddigon hyderus neu yn poeni nad yw eu Cymraeg yn ddigon da neu yn ramadegol gywir ayb.
Heb anghofio wrth gwrs fod yna 6,296,702 miliwn o bobol sydd yn cyfri eu hunain yn Gymry yn y byd yn gyffredinol, yn cynnwys 1,980,323 miliwn yn yr Unol Daleithiau (0.6 % o’r boblogaeth), 609,711 yn Lloegr, 474,805 yng Nghanada,125,597 yn Awstralia a 50,000 yn yr Ariannin – i enwi dim ond ambell i wlad amlwg. Ac yn ôl adroddiad a wnaethpwyd gan Gynulliad Cymru mae gan 16.3 miliwn o bobol yn y byd enwau teuluol Cymreig – yr hyn a elwir yn diaspora Cymreig.
Ond mae mwy! Yn 2018 cyhoeddodd y rhaglen dysgu ar-lein/ar ffôn, Duolingo, fod mwy na miliwn o bobol rwan yn dysgu Cymraeg drwy ei meddalwedd – bron i ddwbl y nifer oedd yn gallu siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011. Mae’r Gymraeg yn fwy poblogaidd ar Duolingo na Hwngareg a Rwmaneg – dwy iaith â llawer iawn mwy o siaradwyr brodorol. Yn dechnegol mae hyn yn golygu fod o leiaf 1.8 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn y byd erbyn hyn. Anghofiwch sloganu pitw, tocenistaidd a diystyr llywodraeth Cymru am gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae bron i ddwy filiwn yn ei siarad yn barod!
Mae’r ffigyrau yma a’r ffaith fod y Gymraeg yn dal yn un o brif ieithoedd modern Prydain yn destament anhygoel i ddycnwch y Gymraeg yng Nghymru, Prydain a’r byd. A gan mai’r Gymraeg/Brythoneg yw iaith frodorol Prydain a bod mwy a mwy o bobol yn dod i ddeall hyn, mae’n teimlo fel yr amser iawn i gynnig i ysgolion ac awdurdodau addysg Lloegr a’r Alban y syniad eu bod yn dysgu Cymraeg fel ail iaith.
Ac oherwydd cefndir yr iaith a’r ffaith ei bod yn dal i fod yr ail iaith fwyaf poblogaidd ym Mhrydain, mae’n anodd gweld sut y gallai swyddogion addysg Lloegr a’r Alban wrthod ystyried y syniad. Os ydi Punjabi, Bengali, Urdu, Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Phwyleg yn cael eu dysgu drwy Brydain pam ddim y Gymraeg hefyd? Os mai penderfyniad i adran addysg ganolog Lloegr a’r Alban fyse hyn, yne gellid eu targedu a dwyn pwy-sau arnyn nhw yn ogystal â’r awdurdodau lleol. Joben fach i Ddyfodol yr Iaith a Chymdeithas yr Iaith efallai?
Heb anghofio wrth gwrs fod yna 6,296,702 miliwn o bobol sydd yn cyfri eu hunain yn Gymry yn y byd yn gyffredinol, yn cynnwys 1,980,323 miliwn yn yr Unol Daleithiau (0.6 % o’r boblogaeth), 609,711 yn Lloegr, 474,805 yng Nghanada,125,597 yn Awstralia a 50,000 yn yr Ariannin – i enwi dim ond ambell i wlad amlwg.
Efallai y bydde hefyd modd cyfuno’r gwersi Cymraeg gyda dysgu hanes go iawn Brythoneg/Celtaidd Prydain, ac olrhain gwreiddiau’r Cymry i hanes Ewrop, ac ymhellach na hynny hefyd.
Felly, ie, Brythoneg/Cymraeg cynnar yw iaith frodorol Prydain, gan gynnwys Lloegr, yr Alban a Chernyw, gydag agweddau ohoni yn dal ar gof a chadw mewn ardaloedd o Loegr – Cumbria, gogledd Lloegr a’r gororau yn arbennig – hyd heddiw. Dydi hyn ddim yn syndod mawr gan fod Rheged (ardal Cum-bria fodern), Elfed (ardal Leeds fodern) a Gododdin (ardal Caeredin fodern) yn rhan o hen ogledd y Cymry nes y seithfed ganrif, ac Ystrad Clud (Strathclyde) yn yr Alban am ganrifoedd wedi hynny. Byddai’n ddiddorol iawn gweld be fydde’r ymateb yn y gwahanol ardaloedd yma i gyflwyno’r Gymraeg fel opsiwn ar y cwricwlwm addysg.
A pham ddim Cernyw hefyd felly? Onid oes modd ail gyflwyno’r Gymraeg i Gernyw gan mai’r un iaith â’r Gernyweg ydi hi yn y bôn? Mi oedd teyrnas wreiddiol Cernyw, ac wedi hynny teyrnas llawer mwy Dyfneint (Dumnonia yn y Lladin), yn Gymraeg/Frythoneg ei hiaith nes y nawfed ganrif o leiaf, ac mi’r oedd teyrnas Dyfneint yn cynnwys y siroedd modern presennol Cernyw, Devon (Dyfnaint yn y Gymraeg erbyn heddiw), Dorset, ynysoedd Scilly a rhan helaeth o Wlad yr Haf/Somerset.
A dwi ddim yn meddwl fod rhaid i’r Gymraeg gydymffurfio yn ddigwestiwn gyda phob technoleg chwaith, megis y peiriannau gwran-do Orwelaidd Alexa, Siri, AppleHomePod nac unrhyw fersiwn Gymraeg o’r rhain.
Onid oes cyfle i ddefnyddio holl brofiad y frwydr iaith a’r deddfu yng Nghymru er mwyn ail-gyflwyno’r Gymraeg i Gernyw a dod o hyd i ffordd o blethu’r Gymraeg a Chernyweg i’w gilydd, fel yr oeddynt yn arfer bod? Neu o leiaf gyflwyno’r opsiwn i genedl- aetholwyr Cernywaidd ei ystyried, hyd yn oed petai ond fel opsiwn i fynd law yn llaw gyda’r Gernyweg bresennol?
Dwi’n credu mai’r teimlad yn gyffredinol, er gwaethaf pob ymdrech gan y wasg a’r darlledwyr Llundeinig fel arall, yw bod gwir ewyllys da a diddordeb diwylliannol yn bodoli tuag at y Gymraeg yn Lloegr a thu hwnt erbyn hyn. Mae hwn yn ewyllys da sydd hefyd o bosib yn ymestyn i holl amrywiaeth ieithyddol brodorol Prydain megis Gaeleg yr Alban, Scots, Cernyweg, Gwyddeleg ac Ulster Scots yng ngogledd Iwerddon, yn ogystal â Saesneg yn gyffredinol, gael eu hastudio a’u gwerthfawrogi yn gyffredinol.
Mae’r we wrth gwrs yn galluogi i’r Gymraeg anadlu ac ymestyn ei hadenydd yn fwy nag erioed. Gwelir negeseuon Cymraeg a Chymreig ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobol â miliynau o ddilynwyr ar draws y byd, sy’n codi ymwybyddiaeth o Gymru yn fwy nag erioed o’r blaen o bosib.
A dwi ddim yn meddwl fod rhaid i’r Gymraeg gydymffurfio yn ddigwestiwn gyda phob technoleg chwaith, megis y peiriannau gwran-do Orwelaidd Alexa, Siri, AppleHomePod nac unrhyw fersiwn Gymraeg o’r rhain. Fel mae’r nofel Y Dydd Olaf gan Owain Owain (lawrlwythiad am ddim ar gael yma) yn ei amlygu, dwi’n credu mai un o gryfderau ac apêl y Gymraeg i lawer ydi ei bod yn gallu bod yn iaith lled gudd ac yn alternatif gwrthwynebus neu rebelaidd i gwlt crefyddol ac allan o reolaeth technoleg di-gwestiwn a’r cwmnïau technolegol rhyngwladol hynny sydd yn ceisio ei wthio ar bawb fel ei meistr newydd.
Mae’r Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed ar y cyfryngau yn gyffredinol yn fwy nag erioed – yn cael ei ddefnyddio gan sêr teledu a gan ffilmiau Hollywood, sêr chwaraeon rhyngwladol a hyd yn oed gan (gyn) brif weinidogion y deyrnas Gyfunol – hyd yn oed os mai dim ond dau air oedd ganddi hi, Theresa May, i ymateb i heclwr: “Wel, pnawn da…!!”
Ac fel mae llawer wedi clywed, yn 2018 cafodd y band Cymraeg Alffa lwyddiant anhygoel a chreu hanes drwy fod y grŵp Cymraeg cyntaf erioed i gael miliwn o wrandawiadau o’u cân Gymraeg ‘Gwenwyn’ ar y platfform cerddoriaeth ar-lein Spotify – cân sydd bellach wedi cael dros 2.8 miliwn o wrandawiadau ac sydd, ar y raddfa yma, ar ei ffordd i barhau i hitio’r miliynau.
Yn ddiweddar, canodd Côr Penrhyn yn Gymraeg ar albym Damon Albarn gyda’i grŵp The Good the Bad and the Queen. Mae hyn yn ddatblygiad diddorol gan fod Albarn wedi treulio’r ddegawd ddiwethaf a mwy yn arbrofi gyda ‘cherddoriaeth byd’ yn rhyngwladol ond nid yr iaith a’r diwylliant cyfoethog sy’n bodoli ond ryw dair awr mewn car o’i gartre yn Llundain.
Y pwynt efallai yw hyn – nid gwlad fach ddiddim heb allu na grym yw Cymru, ei phobol na’i hiaith. Ond gwlad a phobol sydd yn gallu herio a gwrthdroi pob ymgais i’w gwasgu allan o fodolaeth.
Ac o ran yr iaith, nid iaith fach leiafrifol, anghenus i’w phitio na’i lapio mewn gwlân cotwm fu hi erioed, ond iaith sydd wastad wedi gallu cynnig rhywbeth gwahanol i’r byd ac i ymgais y globaleliddwyr i gael byd unffurf, uniaith. Does ryfedd fod prif gyfryngau corfforaethol Lloegr a thu hwnt yn mynnu dirmygu a cheisio tanseilio’r Gymraeg ers canrifoedd. Mae’r Gymraeg yn symbylu bygythiad tawel ond pendant i’w hymdrech, mae’n ymddangos, i gael Saesneg fel prif iaith y byd – bygythiad sydd nid yn unig yn cynrychioli diwylliant a gwir hanes ynys Prydain ei hun ond sydd efallai yn fygythiad mwy pwerus – bygythiad sydd yn awgrymu rhywbeth ysbrydol ac annelwig sydd yn cysylltu pobol gyda rhywbeth tu hwnt i gyfathrebu bob dydd.
Iaith y nefoedd? Posib iawn.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.