gan Gruffydd Meredith
Mi all Cymru fod yn wladwriaeth annibynnol, ffyniannus a hunan gynhaliol drwy brintio ei harian ei hun yn gwbl ddiddyled yn unol â GDP y wlad
Mae prif bwynt y darn yma wedi ei osod uwchlaw. Gall, mi all Cymru fod yn wlad ffyniannus, hyderus ac annibynnol drwy brintio ei harian ei hun i gyd-fynd â’i GDP, sydd ar hyn o bryd o gwmpas £62,190 biliwn y flwyddyn yn ôl ffigyrau GVA 2017 yr ONS/Office of National Statistics.
Mae GVA (Cynnyrch ychwanegol gros/Gross value added) yn rhoi syniad da iawn ac agos o GDP (Cynnyrch domestig gros/Gross domestic product). Felly, pe tae Llywodraeth bresennol Cymru yn datgan annibyniaeth heddiw mi alle hi brintio neu greu £62,190 biliwn yn gwbl ddiddyled ac, yn ychwanegol i’r dreth sydd yn cael ei hel yng Nghymru sef cyfanswm o £21,310 biliwn yn 2016-2017, ei wario ar Gymru a’i phobol.
Mi ydwi’n credu bod bancwyr rhyngwladol wedi bod yn gweithio ers degawdau os nad canrifoedd a mwy i reoli economïau gwledydd y byd a’u pobol nes bod y rhain yn gaeth i’r bancwyr ac i ddyled ddiddiwedd.
Meistri ariannol yw y rhain nad sydd yn cydnabod nac yn credu o gwbl yn y syniad o genedl, o wlad, o ffiniau nac o bobol, ac sydd weithiau yn amsugno cyfoeth a gwerth allan o wledydd cyn eu gadael yn rholio yn y baw a symud ymlaen i’r wlad neu gyfandir anffortunus nesa.
Yn fy marn i, gallwn eu hystyried fel fampirod neo-ryddfrydol yn yr ystyr eu bod eisiau gweld marchnadoedd rhydd ac absenoldeb unrhyw reoleiddio ar gyfer marchnadoedd y maen nhw’n eu rheoli – hynny yw, ffug gyfalafiaeth /cyfalafiaeth monopoli yw ei diléit ble mae rheolau’r gêm yn eu ffafrio nhw a’u cyfoedion.
Dwi’n credu bod mwy a mwy o bobol yn flynyddol yn sylweddoli bod y grymoedd ariannol rhyngwladol yma yn ymarfer bancio neu fenthyg canrannol, neu’r hyn a elwir yn Saesneg yn fractional reserve lending, sef, i bob pwrpas, creu arian allan o ddim byd a’i fenthyg i bobol a gwledydd gyda llog ar ei ben – pres o nunlle mewn geiriau eraill – system nad sydd, yn anhygoel, yn cael ei ddysgu na’i ddisgrifio i fyfyrwyr yn gywir ar fwyafrif cyrsiau economeg a busnes.
Daw 97% o’r pres cyffredinol sydd mewn cylchrediad o fanciau preifat, sydd i’w gweld yn creu pres allan o nunlle yn dilyn y system fancio ganrannol yma, yn arbennig ym maes morgeisi. Dyma pam fod bybls credyd wedi eu creu ers blynyddoedd a phrisiau tai wedi tyfu a chwyddo ar raddfa afreolus o’i gymharu gyda’r economi gyffredinol. Mae hynny hefyd wedi bod ar draul benthyg pres i’r economi gynhyrchiol ac i fusnesau a chwmnïau sydd yn creu a helpu i dyfu GDP yn gyffredinol.
Mae hyn oll yn gyfle euraidd i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun a mynnu torri cwys economaidd annibynnol a hunangynhaliol ei hun
Hefyd ers cyn cof, yn lle creu eu harian eu hunain yn ddiddyled, mae llywodraeth y Deyrnas Gyfunol er enghraifft wedi bod yn cael rhan fwyaf eu pres wrth werthu gildiau a bondiau i gyrff megis cwmnïau insiwrans, cronfeydd pensiwn, banc Lloegr a chyrff anhysbys o dramor – pres sydd yn rhaid i’r llywodraeth ei dalu’n ôl i’r cyrff yma gyda llog ar ei ben.
Mae hyn i gyd wrth gwrs yn golygu fod y Deyrnas Gyfunol mewn dyled enfawr a diddiwedd – dyled na fydd byth posib ei thalu. Mae hyn oll yn ychwanegu at y teimlad fod consensws cynyddol ymysg dinasyddion holl wledydd Prydain, fod dyddiau’r Deyrnas Gyfunol a’i methiant economegol o dan bawen dyled a llog, yn araf/prysur ddod i ben.
Ond dyne ddigon o bontifficeiddio. Mae hyn oll yn gyfle euraidd i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun a mynnu torri cwys economaidd annibynnol a hunangynhaliol ei hun. Dyma islaw be dwi’n credu sydd angen i Gymru ei wneud rwan er mwyn i ni fod y wlad sofran a ffyniannus yr ydym yn fwy na haeddu bod.
Dyma ffigyrau perthnasol o’r arian sydd yn cael ei wario ar Gymru, faint sydd yn cael ei hel yma a faint allem greu yn flynyddol:
Yn syml, mi allwn yn gyntaf brintio neu greu ein harian ein hunain sydd yn adlewyrchu ac yn unol â’n GDP â’r targed/terfyn chwyddiant a bennir gan y pwyllgor creu arian (er mwyn osgoi gor chwyddiant) a ddisgrifir yn fwy manwl isod – swm o £62,190 biliwn y flwyddyn (ffigyrau ONS o 2017) fydd yn syml yn cael ei greu yn ddiddyled a’i osod yng nghyfrif y trysorlys ym manc canolog gwladwriaeth Cymru (sydd yn perthyn i’r bobol).
Felly faint o bres all Cymru brintio bob blwyddyn o edrych ar GVA/GDP presennol? – fel nodir uwchlaw, amcangyfrif o oleiaf £62,190 biliwn y flwyddyn.
Treth sydd yn cael ei hel yng Nghymru – cyfanswm o £21,310 biliwn y flwyddyn (ffigwr HMRC 2016-2017 sydd yn cynnwys y symiau ychwanegol o £1.4 biliwn o dreth cyngor a £962 miliwn o drethi busnes).
O ystyried y ffigyrau yma, a gan ychwanegu pres trethi sydd yn cael ei hel yng Nghymru at y swm o bres y galle Cymru ei argraffu fel pres diddyled, y cyfanswm fydde ar gael ar gyfer gwario yng Nghymru o dan system arian diddyled ein hunain fydde £83,500 biliwn y flwyddyn.
Gwariant presennol ar Gymru gan y Deyrnas Gyfunol – cyfanswm o £39,334 biliwn y flwyddyn (ffigwr ONS 2016-2017 ).
Felly, o ystyried mai dim ond cyfanswm o oddeutu £39,334 biliwn y flwyddyn sydd yn cael ei wario ar Gymru ar hyn o bryd, mi fydde gan Gymru, o dan y system newydd yma o greu arian diddyled + trethi (cyfanswm o £83,500 biliwn y flwyddyn), o leiaf £44,166 biliwn yn fwy i’w wario ar y wlad a’i phobol bob blwyddyn nag sydd gennym ar hyn o bryd.
Hyn oll heb sôn am y gwerth £16.9 biliwn o nwyddau a gafodd eu hallforio o Gymru yn 2017. A heb anghofio’r ffaith ein bod yn creu ac yn allforio tua hanner y trydan yr ydym yn ei greu yma bob blwyddyn, heb reolaeth drosto nac elwa ohono fel gwlad, nac o ddefnydd ein dwr a’n hadnoddau yn gyffredinol.
Pam, pwy, pryd a ble?
Yn unol ag awgrymiadau gan grwpiau megis Positive Money ac eraill ar draws y sbectrwm gwleidyddol, mi all y pres yma gael ei rannu unai drwy wariant cyhoeddus gan ba bynnag Lywodraeth sydd mewn grym neu drwy alluogi fod pres yn cyrraedd banciau’r stryd fawr ar gyfer ei fenthyg ymlaen i’r economi gynhyrchiol, neu’r opsiwn o gymysgedd o’r ddau beth yma.
Mi fydde hefyd angen i Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr o faes busnesau bach, canolig a mawr, diwydiant ac amaethyddiaeth ayb, greu ‘pwyllgor creu arian’ fydde yn gwbl atebol i’r Senedd ac a fydde â dyletswydd i benderfynu pa swm o arian a fydde ei angen ei greu a’i roi yng nghyfrif y trysorlys bob blwyddyn.
Ac er mwyn gwneud yn siŵr fod y ganran gywir o’r pres yma yn mynd i’r prif economi, sef yr economi gynhyrchiol, mi fydde angen i’r panel osod canllawiau i fanciau’r stryd fawr hefyd, fel bod digon o arian ar gael i helpu i dyfu economi ffyniannus i Gymru.
Ac o dan y system yma mae pobol fel Positive Money ac eraill yn ei annog, mi fydde banciau preifat, cwmnïau cydweithredol a chymunedol, yn ogystal ag undebau credyd a chymdeithasu adeiladu cydfuddiannol, oll yn cael eu hannog i ffynnu ac i gynnig gwasanaethau cystadleuol a chynhwysfawr i holl ddinasyddion Cymru – y prif wahaniaeth yw mai actio fel broceriaid y byddent ac na allent greu arian allan o ddim byd wrth fenthyg pres i bobol fel sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
Dim ond defnyddio neu fenthyg pres sydd yn bodoli yn barod ac sydd yn cael ei fudsoddi ynddynt gan eu cwsmeriaid y bydd y banciau a’r sefydliadau yma yn gallu ei wneud. Wrth i’r economi ffynnu a GDP y wlad godi, mi fydde’r banciau stryd fawr yn gallu cynilo digon i gynnig y gwasanaethau morgeisi a benthyca personol y mae pobol Cymru eu hangen, gyda’r banc gwladwriaethol Cymreig (dan berchnogaeth y bobol) yn gallu helpu i fenthyg yr arian angenrheidiol yma i fanciau’r stryd fawr (er mwyn iddyn nhw ei fenthyg ymlaen i’w cwsmeriaid) pe byddai gwir angen argyfyngus am hynny.
A llywodraeth y dydd, gyda’i mandad democrataidd, fyddai’n penderfynu’r math o lywodraethu – unai trefn gyda chyn lleied â phosib o ymyrraeth, economi fwy cymysg, neu lywodraeth sydd am roi mwy o bwyslais ar berchnogaeth neu reolaeth gan y wladwriaeth neu grwpiau cymunedol/cydfuddiannol – neu gymysgedd o’r rhain oll.
Pegio’r bunt Gymreig i sterling mewn system arian ddeuol neu baralel i Gymru
Yn ogystal â hyn mi allem hefyd ‘begio’ y ‘bunt Gymreig’ dweder, i sterling ar raddfa o 1:1 mewn system arian ddeuol neu baralel fel y gwnaeth Iwerddon yn llwyddiannus rhwng 1928 a 1978, gyda’r bunt Sterling a’r bunt Gymreig ill dau yn cael eu derbyn ac yn gyfnewidiol yng Nghymru, a gyda’r posiblrwydd o gael system fwy hyblyg i’r bunt Gymreig yn y dyfodol os oes angen.
I gloi ac i drio mynd nôl at brif egwyddor hyn oll – gall, yn fy marn i, mi all Cymru fod yn wlad hunangynhaliol yn y byd – yn masnachu a delio gyda’r byd fel y mae’n mynnu ac yn ôl ei hangen.
Rhyddid i Gymru o’r system ariannol gaethwasaidd bresennol
A gallwn wneud hyn oll heb fod yn styc wrth San Steffan, neu yn wir wrth yr Undeb Ewropeaidd neu unrhyw undeb arall. A gallwn gael gwared â’r sentiment a’r diwylliant bondigrybwyll o ddal cap a bowlen fegio gerbron meistri ariannol estron fel sydd i’w weld mewn elfennau o ddiwylliant gwleidyddol Cymru ar draws y sbectrwm ers canrifoedd lawer. Wedi’r cwbl, pam dyle gwlad arall neu unrhyw undeb neu undebau dalu amdanom a’n sybsideiddio tra gallwn ni fwy na thalu am ein hunain a bodoli fel gwlad annibynnol?
A gellir dileu’r siarad gwag a di-ben-draw am ‘gau’r deffisit’ ac ‘os oes angen llymdra neu beidio’ oherwydd mae’r pethau yma, i bob pwrpas, yn troi’n ddiystyr o dan system creu arian diddyled ein hunain.
…dwi’n credu y dyle pawb yng Nghymru o leiaf ddeall, be bynnag eu gwleidyddiaeth a’u credoau, fod modd i ni frasgamu o’r system gaethwasaidd bresennol a mynnu ein dyfodol
Ac mi fydd pobol yn chwilio am dyllau yn y syniad o greu pres diddyled, yn chwilio am broblemau neu fynnu nad yw’r system yma yn bosib. Ond mi fyddent yn anghywir yn fy marn i. Ac os oes gwleidydd neu berson yn gofyn yn ddilornus neu yn ddidwyll ‘sut y gallith Cymru fforddio bod yn annibynnol?’ mi ellir dweud wrthynt yn ddiamau – yn syml, drwy greu arian diddyled ein hunain.
Ac mae’r un peth yn wir yng nghydestun unrhyw wlad arall sydd isio sefyll ar ei thraed ei hun. Ac oes, dwi’n siŵr fod ‘ne fodd i wella a chrefftu mwy ar nifer o’r syniadau a’r ffigyrau yma. Ond mae’r brif egwyddor o greu arian diddyled, fydde yn golygu sofraniaeth go iawn i Gymru, yn sefyll. Nid pawb sydd yn cytuno neu yn cefnogi sofraniaeth wrth gwrs ond mae’r egwyddor yn sefyll beth bynnag.
Yn 2016 mi gofrestrais barti gwleidyddol, Cymru Sovereign, gyda chreu arian diddyled yn greiddiol iddi – y blaid cyntaf o Gymru i wneud hynny hyd y gwn i. Ond mae’r egwyddor yn fwy nag unrhyw blaid wrth gwrs, a llawer mwy pwysig hefyd nag unrhyw ddadlau dibwrpas a di-ben-draw am wleidyddiaeth ‘y chwith’ neu’r ‘dde’ – disgrifiadau blinedig a syrffedus sydd yn prysur ddod yn ddibwrpas wrth i fwyfwy o bobol sylweddoli fod y prif bynciau mawr megis creu arian diddyled yn cael eu hanwybyddu wrth i’r holl gecru barhau ynglŷn â phwy sydd ar y chwith, ar y dde, yn y canol, yn yr awyr neu ar y llawr.
Nid yw hyn yn ymwneud a’r chwith na’r dde be bynnag ydi ystyr y termau astrus yma. Ni wnelo hyn â sosialaeth na chyfalafiaeth – na, mae hyn i’w wneud â rhywbeth llawer mwy cyffrous – y cyfle i greu ein harian ein hunain a’n rhyddhau o’r system ariannol gaethwasaidd bresennol.
Ein rhyddhau i ffynnu fel gwlad annibynnol a hunangynhaliol yn y byd. Mae’n debygol fod ambell wlad am gario mlaen gyda’r system o fod mewn dyled ddiddiwedd i’r bancwyr rhyngwladol a ddim am fynnu gwir sofraniaeth i’w gwlad a’u pobol – digon teg – eu dewis nhw.
Ond dwi’n credu y dyle pawb yng Nghymru o leiaf ddeall, be bynnag eu gwleidyddiaeth a’u credoau, fod modd i ni frasgamu o’r system gaethwasaidd bresennol a mynnu ein dyfodol fel y wlad lewyrchus yr ydym yn haeddu bod.
Mae rhifyn Mai o’r Cymro allan yn eich siopau rwan
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.