Dyddiadur Annibynnol #AUOBCymru @dailingual

Barn Newyddion

Wel, mi oedd ddoe yn gwd thing a ma’r Gath Gymreig mas o’r bag nawr fel petai…gathon ni ddiwrnod i’r brenin ddoe yng Nghaerdydd, gyda diolch i drefnwr y rali Pawb dan Un Faner Cymru Llywelyn ap Gwilym, a ysgrifennodd darn nodedig i rifyn mis Mai o’r Cymro sydd ar gael yn eich siopau lleol nawr, Gyfeillion.

Wedi dal y bws i Gaerdydd o Landochau Fach ymysg y bobl gyntaf welsom ni wedi gwisgo ar gyfer gorymdeithio oedd Adam o Gaerfyrddin a’i gyfoedion:

Yes Cymru, West is Best!

Er mi oedd yna ambell i faner i’w gweld ar strydoedd Caerdydd, bach yn brin oedd y bobl oddi tanddyn nhw cyn cyrraedd Neuadd y Ddinas erbyn 1.30yp.

Hynny yw, hynny tan imi gwrdd gyda chriw oedd wedi teithio i lawr o Lanrug a Bethesda – Maffia country!! – sy’n rhagweld annibyniaeth i Gymru o fewn 5 mlynedd.  You heard it here first, fel a wedws y Sais:

Felly gyda phethau yn dechre poethi, pwy yn well ond y dyn ei hun, Cadeirydd Yes Cymru Siôn Jobbins i esbonio ei obeithion am y diwrnod?

Doedd dim dwywaith amdani, roedd pethe yn dechre siapo nawr:

Doedd dim hyd yn oed bagpipes Cadi Y Cymro a’i griw a chwestiynau anodd Y Cymro hwn yn gallu boddi brwdfrydedd Cian Ciaran o Gellir Gwell [a’r Furries gynt] a f’atgoffodd am yr ymgyrchwyr Cwrdaidd oedd yn ymuno yn yr orymdaith ar ddiwrnod mi oedd Cian am ei fwynhau fel Carnifal:

Ar hynny, roedd pawb yn barod i fynd a digon byr oedd yr amser i glywed barn cyn-Gadeirydd y Blaid Marc Phillips cyn cychwyn:

Ac am ddechrau! Erbyn i’r orymdaith Pawb dan Un Faner cyrraedd Stryd y Frenhines, wel doedd Caerdydd ddim yn disgwyl yr hyn a ddaeth i’r golwg, ac i ddweud y gwir does dim dwywaith chwaith bod y cyfryngau corfforaethol wedi camgyfrif y niferoedd – byddwch chi ‘ma trwy’r dydd yn cyfri’ bob un, ond mae hi’n weithgaredd werth chweil! Colles i cownt wedi tua’r 3 mil ffor’na – gallwch chi wneud yn well mae’n siŵr [ ac ystyriwch hefyd bod yna nifer o orymdeithwyr wedi gallu pasio heibio i’r dde o’r camera yn ystod y munudau cyntaf hefyd…oni bai bod Garmon Ceiro wedi haeru nad yw’r nifer yn bwysig buaswn i wedi mynnu ar recount arall! ].

…un o’r darnau gore yw’r Barry Horns yn cerdded heibio tua’r 4ydd munud, ond ar gyfer Cymry ar frys, dyma lun ohonynt (gan gynnwys Tomos, Williams arall o Benweddig…ni bobman!!)

The Barry Horns!

YMLAEN i crescendo y diwrnod felly…

[rhai o]’R AREITHIAU

yn y ddwy iaith felly – gan gynnwys Sandy Clubb o Undod Cymru, Ben Gwalchmai o Lafur 4 indy Wales,

Adam Price – Plaid Cymru  [ fideo facebook yn ei hyd fan hyn hefyd!] & Siôn Jobbins o Yes Cymru

gyda diolch iddyn nhw gyd am eu caniatad i rannu eu geiriau – a’u negeseuon – amryw.  Mae’r cyfweliadau ac ati ar gael trwy drwydded CC 2.0 er mwyn bod allbwn y diwrnod ar gael i WiciCymru hefyd.

Gwrddes i gyda Carys Eleri hefyd, do! A heb mod i eisiau torri rheolau y continwwm amser a gofod Dr Who ac ati, nes addo cynnwys ei chynnwys yn fy mlog i, felly dyma hi i chi!

O ddifri calon, dwi yn credu bod y dydd hwn wedi newid sut mae’r Cymry – yn arbennig y Cymry di-Gymraeg falle – yn gweld eu hunain o fewn cyd-destun annibyniaeth. I ryw raddau, mae Carys Eleri wedi taro’r hoelen ar ei phen pan mae hi’n ein hatgoffa ni ein bod ni fel Cymry Cymraeg wedi cael ein magu i gredu mewn hunan-lywodraeth i Gymru. Dydi’r Cymry di-Gymraeg ddim [ i’r un raddau], ac mae diwrnod fel ddoe yn newid sut maen nhw’n gweld y byd; megis y dyn dienw o Gaerffili a gadwodd cwmni imi ar y fainc wrth i’r orymdaith di-ddiwedd ein hamgylchynu…wel prin iawn y bydde fe wedi meddwl am ei hun fel bachan o blaid Annibyniaeth i Gymru cyn gweld yr hynt a’r helynt a’r carnifal a ddeisyfwyd gan y trefnwyr -ond nawr, wel mae e’n gweld y byd yn wahanol. Ac am wn i, mi rydw i yn hefyd, tipyn bach.  Fel ma’ fe Mumph yn awgrymu yn Y Cymro cyfredol, dyfal donc…

…a dyrr y garreg.  Ble arall i orffen, ond yr anthem? Gennym y Faner orau, yr Anthem orau, a chyn bo hir y Wlad orau yn y Byd hefyd…

O bydded i’r hen iaith barhau 

—————————————

Gan nad ydych chi wedi talu dim yw dim ar gyfer hyn, tybed a fedrwch chi DANYSGRIFIO i’n papur misol, os gwelwch yn dda? diolch yn FAWR, Wyn

Tanysgrifio / Prynu copïau drwy’r post

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau