Argyfwng #iechydmeddwl y Gymraeg?

Barn

 

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2019  yn dechrau wythnos nesaf yn anlwcus i rai – gan gynnwys y triskaidekaphobics yn ein mysg – ar 13eg o Fai. 

Dyna’r fath o agwedd a gymrais i o’n system addysg o ran iechyd meddwl – bod hi’n afiechyd, ac fel pob afiechyd, gwell chwerthin amdano na chymryd o ddifri achos…wel be chi’n mynd i wneud, atal pob afiechyd? Gwell chwerthin ar ben gwely angau…

Wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr rhwng – dwedwch chi – cancr ac iechyd meddwl, yw bod yna llawer yn fwy y gall dioddefwr iechyd meddwl ei wneud o ran ymateb iddo.  Dyna un o’r rhesymau mae’r Cymro yn falch iawn i roi llwyfan i’r myfyriwr Joedi Grabham ar ein gwefan ac yn ein papur newydd misol…

Joedi Grabham o Brifysgol Abertawe

…oherwydd ceir yno camau ymarferol i ddefnyddio ymarfer corff i godi eich hwyliau (bydd y papur ei hun ar gael yr wythnos hon, gyda llaw!).

Gallen i nodi hefyd nad ydw i yn bersonol yn gefnogwr mawr o’r cysyniad bod yna ddyletswydd bersonol ar bob dioddefwr/aig cancr i gymryd y cyfrifoldeb o aros yn bositif wrth wynebu angau eu hunain – gan fod hynny yn rhoi eitha’ tipyn o gyfrifoldeb ar y claf ac oddi ar ein Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol – ond efallai taw dadl arall yw honno.

Y MWG DRWG?

“That’s all in your imagination” neu’r tebyg oedd yr adborth ges i ar lafar gan ‘adran’ Adnoddau Dynol cwmni eitha’ llewyrchus yn Llundain pan gefais i wythnos o’r gwaith er mwyn ymdopi gyda theimladau cryf o iselder yn dilyn marwolaeth yn ein teulu yn ystod gaeaf 2001.  Nid gwefan newydd sbon Y Cymro yw’r man i fynd i fanylion fan hyn, ond y pwynt dw i am godi heddiw ar y Sul yw bod yna gwestiwn go iawn ynglŷn â’n hagwedd at iechyd meddwl sydd yn parhau hyd heddiw (ac felly na fuaswn i yn bersonol yn rhoi gormod o fai ar yr unigolyn hen ffasiwn yna ar ddechrau’r ganrif hon.)

YSTADEGAU DRWG?

Ry ni’n clywed tro ar ôl tro bod 1 ym mhob 4 pedwar ohonom yn dioddef o afiechyd meddwl ar unrhyw bryd… ond dw i’n dechrau amau nid y gwirionedd yn hyn, ond yn hytrach pwrpas yr ymadrodd yna.  Yn fy achos i, roedd y doctor es i siarad efo pan oeddwn i ‘dan y meddyg’ (ymadrodd Cymraeg ond anffodus braidd o bosib!) wedi cadarnhau mai od iawn buasai’r dyn na fuasai’n dioddef iselder yn dilyn profedigaeth o’r fath.  Felly, yn debyg i’r meddyliwr arall nodedig hwnnw Jim Carrey dwi’n gweld bod angen inni ail-ystyried ein diffiniad o iechyd meddwl , ac wynebu’r her y bydd pawb yn y byd i gyd yn grwn yn wynebu iselder ar ryw adeg.  Ie, dyna ni, gwell cyfaddef yn awr y bydd pob un ohonom ni yn teimlo pyliau o iselder yn ystod ein bywydau hir.  Ac mae hynny tipyn yn fwy na chwarter poblogaeth Cymru!

…am wn i, bydd hyd yn oed Hari ei hun yn syllu yn ddofn i bwll du hunan-ymwybodoldeb un diwrnod ac yn gweld a chlywed pethau yno na fuasai fo byth am weld na chlywed eto. Na, dydi arian ddim yn mynd i helpu hynny ond pwy a wyr, efallai bydd Megs yn gallu rhoi’r wên yn ôl ar ei wyneb.

AR GOLL

I ddychwelyd i fy thema agoriadol, yn fy marn i mae yna ddyletswydd fawr ar y system addysg i wella ymwybyddiaeth ein plant o’u hunaniaeth feddyliol yn ogystal â chenedlaethol, ac er na ges i’r profiad capel cyflawn pan yn grwt, dw i yn credu bod sicrwydd a ffydd Cristnogaeth (yn arbennig yn yr emynau) wedi cynnig rhywfaint o ysbrydoliaeth imi wrth brifio; ac felly dwi yn poeni braidd y bydd yna dwll yn ein cwricwlwm wrth i’r gymdeithas newid – ac er dw i o blaid trin pob ffydd yn gydradd, mae dal i fod angen ar blant negeseuon positif a dyna pam mae dysgu bouncebackability ( dwi’n croesawu unrhyw fathiadau cyfoes!) yn mynd i fod mor bwysig i Gymru a Chymry’r ganrif hon yn ein gwacter crefyddol posib.

I gynnig bach o gyd-destun i chi, dw i wedi rhannu dosbarth efo 3 [ tri ] dyn ifanc sydd wedi dewis dod â’u bywydau i ben am wahanol resymau.  Felly yn fy nhyb i, oes mae yna argyfwng iechyd meddwl ymysg dynion yng Nghymru, a gwir i Dduw dw i ddim am fod fy mab i yn mynd i fod yn ystadegyn trist dim namyn fwy nad ydw i am i fy merch i ddioddef unrhyw anhawster yn ystod ei bywyd hi.  Cymry, ni mewn picl.  Mae ein plant ar goll y tu ôl i sgriniau electroneg, mae ein systemau addysg ac iechyd ar goll, mae ein dynion a merched ifanc ar goll… felly pa gamau ymarferol gallwn ni eu cymryd er mwyn adfer y sefyllfa?

Llun o www.instagram.com/dailingual

…es i siop lyfrau Waterstones Caerdydd ddoe sydd efo dewis golew o lyfrau Cymraeg, gweler uchod, ond dewis gwell fyth o lyfrau ‘self help’ yn yr iaith fain – ble mae rheiny yn y Gymraeg gwedwch?

1. DARLLEN YN Y GYMRAEG!

Bu yna poster ar wal ystafell ddosbarth S4 ym Mhenweddig – a oedd yn rhan bwysig o deyrnas Mrs Jones a roddodd y ‘D’ yn Cofiwch Dryweryn yn ystod y cyfnod hwnnw – yn datgan bod modd i bawb i golli eu hunain mewn llyfr, a phan gewn ni ddewis gwell o lyfrau hunan-help bydd yna gamau ymarferol pellach yno; ond yn y cyfamser, ymgollwch mewn Llyfr Y Flwyddyn neu’r tebyg.  Cam un yw hynny, wrth gwrs. Prynwch bach o amser i leddfu eich meddwl gyda llyfr – neu bapur newydd, yn naturiol!

2. YN FEUNYDDIOL

Nes argymell @innermammal ar fy ffrwd twitter #dieBrexitDai gynne fach gan fod yna esiampl ( ac yn llythrennol, y rapiwr example oedd yn gofyn fel mae’n digwydd!) yno o gamau ymarferol hawdd i wella eich iechyd meddwl – ers dechrau’r flwyddyn – ac wedi imi eto fynychu angladd teuluol – nes addo i fy hun buasai Wyn yn ceisio datrysiadau gwahanol i de Gwyrdd a gwin Coch ambell waith eleni er mwy lleddfu’r meddwl dwyieithog yma o leiaf unwaith y diwrnod; ac yn wir yn ddigon tebyg i weddïo, os wnewch chi glirio eich meddwl tair gwaith y diwrnod gyda gobeithion da ac yn y blaen, mae’r cymylau duon a’r ci du ei hun yn pylu rhywfaint dros amser.  O gofio ein bod yn byw mewn bywyd ble mae yna gryn dipyn o floeddio negyddol yn yr iaith fain ar draws pob cyfrwng, dyma ble mae ein hiaith frodorol ni yn hanfodol i oroesi a ffynnu yn yr oes hon – a dwi’m yn ceisio bod yn funny, bydd y Gymraeg yn ein helpu ni i ffynnu fel pobl.

3. YMROI 

Cafwyd Gŵyl Diffusion yng Nghaerdydd eleni ble buais i yn ddigon ffodus i gydweithio eto efo’r Cyfaill i’r Cymro John Rea ar ei brosiect arbennig Atgyfodi.  Ble glywais i fan yno sydd wedi aros yn y meddwl mewn modd cadarnhaol oedd y sôn am y cysyniad o Drawsgyniadaeth, term nad sydd ar led yn y Gymraeg eto ond sy’n hollbwysig i waith artistiaid Ewrop yn eu hymgais i ddiarddel cadwynau bywyd er mwyn profi bywyd celfyddydol yn ei lawnder.  O bosib mae’r gair Trawsgymynoliaeth ddim yn bell o’r hyn dw i’n golygu f’yna [ sef Transcendentalism, i fenthyg o George Harrison a gweddill y 60au], ond fy mlog i yw hwn felly Trawsgyniadaeth piau hi heddiw.

Y DYFODOL I’R CYMRO HWN?

Oherwydd fy angen i i waredu fy mywyd beunyddiol o ormod o Brexit a bach o orbwysedd, dw i’n mynd ati eleni i wirioneddu un o fy uchelgeisiau oes, sef i fynd i’r stiwdio i greu LP*. Felly dyna dwi’n ei wneud mewn modd amlgyfryngol fel buasai fy alter ego dai:lingual yn ei ddeisyfu.  Gallwch ddilyn hynt a helyn y prosiect yna ar yr hashnod #dieBrexitDai …sydd yn deitl Almaen-aidd, gyda llaw!

Mi fydd y prosiect yma – gobeithio – yn cymryd fy meddwl i oddi ar yr aros ar bigau’r draen am grantiau pellach i’r Cymro eleni.

Mae’r tîm sydd yn gyfrifol am bapur newydd Y Cymro yn gweithio yn galed i ddarparu papur newydd o safon, ac mae’r tîm a wnaeth hwyluso hynny, sef Cyfeillion Y Cymro yn ddiolchgar iawn iddynt, a nawr ry ni’n awyddus i gael seibiant – neu fan lleiaf newid gêr – er mwyn cael ein gwynt allan o’n dyrnau ac i archwilio cyfleoedd aml-gyfryngol eraill [megis y wefan hon, wrs sgwrs]. Mae hi wedi bod yn daith ddifyr du hwnt – ac nid heb ei rhwystredigaethau, nid heb ei heriau, a hoffwn i gymryd y cyfle yma i ddiolch yn arbennig i’r Cardis Esyllt Sears a Garmon Ceiro yn gyhoeddus am eu cefnogaeth ers y cychwyn cyntaf, o bosib ni fyddwn i dal ar y daith yma oni bai amdanyn nhw – ac yn sicr mae twitter yn lle diogel i’r Cymro o’u herwydd! A diolch i’r holl Gyfeillion wrth gwrs : Dwi’m yn amau y bod gweithio gyda mi hefyd yn heriol, felly diolch iddynt am ddyfalbarhau trwy’r nosweithiau hwyr, penwythnosau o brawfddarllen a galwadau ffôn cynnar cyn gwaith (taladwy).

WW

Gyda llaw, nid pwrpas y blog yma yw i gael y ffidils i lawr o’r to er mwyn gorfoleddu mewn rhannu #iechydmeddwl , rydym wedi derbyn cyngor gan Positive News bod cefnogwyr prosiectau cyfryngol sydd yn rhan o’r gymuned – fel mae Y Cymro wrth gwrs – yn gorfod rhannu eu naratif yn effeithiol er mwyn ennyn cefnogaeth bellach, fel bod y prosiect yn parhau hyd yn oed bod yr enwau yn y papur newydd yn newid o bryd i’w gilydd.  Gobeithiaf felly  bod ein stori o ddiddordeb.  Mae’r golofn hon er cof am Sam, Cynfab a Terry. Gweddïwch – neu feddyliwch yn feddylgar – amdanyn nhw a’u teuluoedd heno.

Gobeithio gall ein stori gadarnhaol ni annog mwy ohonoch chi i ysgrifennu am newyddion cadarnhaol eich cymunedau Cymraeg chi : cysylltwch os gwelwch yn dda.  Gallwch chi hefyd gefnogi Cyfeillion Y Cymro trwy danysgrifio i’r Cymro am 12 mis fan hyn : ycymro.cymru/tanysgrifio #diolch yn FAWR, Wyn.

Pe baech chi angen cyngor callach ar iechyd meddwl heddiw, ceisiwch  https://meddwl.org/  

*a hefyd lot o nofio

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau