Gan Gruffydd Meredith
Mi fydd y gwaith o gyflwyno’r rhwydwaith diweddaraf ar gyfer ffonau symudol a thechnoleg ddi-wifr 5G yn cychwyn eleni. Mi fydd y gwaith yn dechrau ym Melffast, Caerdydd, Caeredin a Llundain ac wedyn bydd y rhwydwaith yn ehangu i ardaloedd eraill o Brydain yn 2020 i gyd-fynd ag argaeledd ehangach ffonau 5G yn gyffredinol.
Mae’r ‘G’ yn sefyll am Generation felly ystyrir y dechnoleg gan rai fel ‘y genhedlaeth nesaf’ o gyfathrebu symudol a disgwylir i’r dechnoleg gynnig cyflymder rhyngrwyd sawl gwaith yn gyflymach na’r rhwydwaith 4G presennol, yn ogystal â gallu cefnogi mwy o ddyfeisiau ar y rhwydwaith a lleihau oedi.
Ond yn ôl eraill, carreg filltir beryglus yw hon. Yn rhifyn Mehefin 2018 ysgrifennais yn Y Cymro bod pryder cynyddol yn cael ei ddatgan am ddiogelwch technoleg 5G.
Mae dros 240 o ddoctoriaid o 40 o wledydd wedi mynnu fod awdurdodau yn rhoi stop ar ddatblygu mwy ar y dechnoleg yma nes bod ymchwiliad llawn i effaith y dechnoleg ar iechyd a ffrwythlondeb pobol, gan gynnwys yr effaith ar niferoedd gwenyn ac adar. Daeth hyn yn sgil adroddiadau tebyg gan wyddonwyr a doctoriaid ar draws y byd ar hyd y blynyddoedd am effeithiau posib technoleg o’r fath.
Nid oes unrhyw ymchwil o sylwedd i effaith hir dymor technoleg 5G ar iechyd a’r amgylchedd, sydd yn mynd yn groes i holl egwyddorion y ‘precautionary principle’ gwyddonol a moesol
Yn ôl yr hyn i mi ddarllen, yr hyn yw’r dechnoleg, yn syml, ydi technoleg popty ping ar raddfa enfawr – a hwyrach mai ni, bobol y byd, yw’r pys a’r moron ar blât, a’r mastiau yw’r popty ping sy’n ein hamgylchynu a’n cwcio yn araf deg.
Mae nifer o’r arbenigwyr annibynnol hynny nad sydd yn gysylltiedig â grantiau llywodraethol neu gorfforaethol yn honni fod y dechnoleg a elwir yn RF-EMF (radio frequency-electromagnetic fields), yn effeithio ar iechyd gan achosi niwed i DNA a chelloedd y corff, effeithio ar allu’r system imiwnedd ac yn achosi diffyg ffrwythlondeb.
Honnir hefyd fod technoleg o’r fath yn gallu effeithio ar a lladd bywyd gwyllt, ac hyd yn oed yn gallu achosi i faes magnetig y ddaear newid. Mae’r sefydliad iechyd Ewropeaidd EURO-PAEM (European Academy for Environmental Medicine) hefyd wedi cadarnhau fod pryderon am beryglon sydd yn deillio o’r dechnoleg yma.
Mae Cyngor Ewrop, World Health Organization, International Agency for UK Trades Union Congress (TUC), European Environment Agency, International Commission for Electromagnetic Safety a nifer cynyddol o wledydd o amgylch y byd megis Rwsia, yr Almaen ac Israel hefyd yn galw am reolaeth ac am ragor o ymchwil i’r dechnoleg, ac yn mynd ati i wahardd technoleg ddi-wifr o’u hysgolion.
Mae’r dechnoleg sy’n gwneud 5G yn bosibl yn mynd yn fwy pwerus wrth iddo esblygu, o 2G i 3G, 4G a 5G, a gwleidyddion, megis parotiaid, yn hoff o alw am ehangu’r dechnoleg heb ystyried y goblygiadau posib ar iechyd ac ar yr amgylchedd.
Ac wrth i’r dechnoleg ddatblygu, tybir fod potensial am fersiynau hyd yn oed yn fwy pwerus yn y dyfodol – 6G, 7G ayb – os na roddir stop ar y peth. Nid oes unrhyw ymchwil o sylwedd effaith hir dymor technoleg 5G ar iechyd a’r amgylchedd, sydd yn groes i holl egwyddorion y ‘precautionary principle’ gwyddonol a moesol.
Daw hyn yr un pryd â’r sôn cynyddol am dechnoleg a dinasoedd SMART, sef technoleg i gydgysylltu cymaint o declynnau â phosib gyda’r we a gyda rhwydweithiau digidol di-ddiwedd mewn dinasoedd yn arbennig.
’‘Mi all Llywodraeth Cymru arwain y ffordd… drwy wneud gwaith ymchwil annibynnol i’r dechnoleg sydd tu ôl i 5G’
Mae adroddiad gan Brifysgol Surrey dan deitl ‘5G Whitepaper: Meeting the Challenge of Universal Coverage, Reach and Reliability in the Coming 5G Era’ hefyd wedi codi cwestiynau am y cysylltiad posib rhwng technoleg ddi-wifr 5G a’r ymgyrchoedd diweddar i dorri miloedd o goed dros Brydain.
Mae’r papur gan Brifysgol Surrey yn awgrymu bod coed dros uchder arbennig yn gallu bod yn rhwystr i’r gwasanaeth di-wifr 5G sydd i gael ei drosglwyddo gan y mastiau y byddwn yn eu gweld yn gynyddol yn ein trefi a dinasoedd, ac felly fod y coed – y rhan fwyaf ohonynt yn goed hynafol sydd wedi bod yno am ddegawdau a mwy – angen eu torri.
Mi all Llywodraeth Cymru arwain y ffordd i weddill y byd drwy wneud gwaith ymchwil annibynnol i’r dechnoleg sydd tu ôl i 5G.
Gellir gweld mwy o wybodaeth ac arwyddo deiseb rhyngwladol i roi stop ar 5G drwy fynd i www/5gappeal.eu
Prif lun gan Ervins Strauhmanis drwy drwydded CC BY 2.0
Rhifyn Ebrill o’r Cymro ar werth yn eich siopau lleol rwan – hefyd ar gael i danysgrifio
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.