Daran yn Taranu Tabŵs ar #twitter

Barn

Mi ddaeth storm twitter arall i’n sylw yr wythnos hon, wrth i Daran daranu tabŵs fel petai Dydd y Farn wedi dod yn gynnar.

Ond beth yw pwrpas tabŵs?  A beth yw pwrpas Daran?

Roedd yr ail gwestiwn yn rhy anodd i ateb heddiw, felly mi rydym ni bachu’r ieithyddwr yn ein mysg, sef ‘Dai Lingual’ i ateb y cwestiwn cyntaf yna :

BETH YW TABŴ?

Tabŵ yw gair sydd â phriodweddau arbennig mewn cymdeithas. Mae’r union briodweddau – ac nid rhinweddau gan amlaf yng nghymdeithas y Gorllewin, er gall hyn hefyd dibynnu ar yr union gymdeithas ei hun – yn dibynnu ar y defnydd a’r cyd-destun. Yng Nghymru, er mawr ein diffygion yn ein gallu i fathu rhegfeydd cyfredol, rydym wedi arfer gyda’r cysyniad mai rhegfeydd yw tabŵs gan fwyaf; clywir hyn yn ocheneidiau traddodiadol eu naws ambell un i Dduw ac “Iesu Grist”*.  Ond nid bob tro – yn ambell i gymdeithas buasai’r imperialwyr tragwyddol wedi galw yn ‘syml’ a chyntefig, nid yw bonheddwyr y llwyth yn gallu yngan enw boneddigesau eu llwyth sydd yn perthyn iddyn nhw yn barod. Hynny yw, mae hyn yn system eithaf llwyddiannus i geisio sicrhau nad yw gorwelion (ac felly hefyd gwaed y llwyth) yn mynd yn rhy fewnblyg o fewn cymdeithas fechan; osgoi llosgach yw pwrpas y tabŵ yna. [Gweler ‘Cymro’ Y Cymro mis Mawrth os yn ci-n i weld mwy ar y testun yna!]

Esboniad byrrach buasai : tabŵs ydy’r pethau hynny, na allwch chi floeddi o’r teresau yng ngêm peldroed na rygbi mwyach, ac sydd gan amlaf ddim ar gael yn y cyfryngau torfol – oni bai y Grudian, oherwydd eu bod yn draddodiadol o Fanceinion ac felly (os dywed The Inspiral Carpets…) yn meddwl eu bod nhw yn ddigon cŵl i regi.  Gwelwn fod Daran yn ystyried ei hun yn dipyn o dwd [sic] , hefyd…

Mae twitter yn llwyfan cyhoeddus y gall unrhywun sydd yn meddu ar y dechnoleg ddiweddaraf fyned ati, felly nid fan hyn yw’r lle i osod y cyd-destun i drydar Daran. Fodd bynnag, digon posib yw edrych ar y geiriau a drydarodd @daranhill ac i wyntyllu’r defnydd o dabŵs, er pa mor ddibwys a di-feddwl oedd y trydar.

 

Roedd Taboo yn ddiod feddwol ar werth yn Pier Pressure a chlybiau nos eraill yn ystod y 90au, ond does dim disgwyl bod Daran yn arbenigwr ar hynny chwaith.

D.S. Er mwyn trafod y trydar yn ddestlus, bydd y drafodaeth isod yn iaith Y Cymro, sef Cymraeg.

Felly – doedd dim defnydd o dabŵ yng ngair cyntaf y trydariad hwn, popeth yn ddigon ‘Positif’ hyd yn hyn felly.

balch – neu hapus, hyd yn hyn fodd bynnag…

hwn – yw trydydd gair di-dabŵ Daran.  Mae’n dechrau amau pam mae e wedi codi o’r gwely o gwbl. [ Os wnaeth e godi er mwyn trydar hwn ]

meddwl cul – dyna welliant, mae Daran wedi cael blas arni nawr.  Er nad yw’n grasboeth eto, mae’n dechrau twymo ac wedi dod o hyd i thema i’w feddwl agored bythol glir i weithio arni.

chwerw – medd Daran!

milain – yn union.

gwenwynig – eto, cyfieithiad o union eiriau DH.

trol – union eiriau Daran…

[ Er mwyn osgoi trin y trydar hwn gyda di-faterwch tebyg i’r awdur gwreiddiol ei hun, o hyn ymlaen bydd y diffiniadau o Geiriadur Prifysgol Cymru , WW]

twll tin newydd : “pen ôl, cynffon, anws” …newydd.

 ei rwygo yn agored gan y cyfryngau cymdeithasol :  [ does dim geiriau mwyach ]

Gobeithiaf, y bydd hyn yn ei brifo hi… – ie, Cymry – cofiwch fod y geiriau yma wedi eu hanelu at fenyw ar lwyfan cyhoeddus.

…ond yn dymuno y gallwn waethygu’r clwyf gyda finegr a throeth : troeth = ysgarthu.  Dyna ddigon am y tro mi gredaf.

Gyda llaw, yn ogystal ag ieithyddeg astudiais ychydig o Shakespeare, sydd yn defnyddio’r cysyniad o “wound” fel genitalia benywaidd yn ei waith.  Dwn i ddim a yw Daran erioed wedi darllen Shakespeare, ond gan ei fod yn ystyried ei hun fel Kingmaker o’r un radd â  Machiavelli… gallwn ond ddychmygu ei ateb i hynny.

Dyna ni, mae taranau Storm Daran wedi hela fi i deimlo yn reit sâl nawr, felly dwi am fynd i’r Eglwys Babyddol i olchi fy enaid ar fore Sul.

Meddai’r Cymro hwn : mae Deryn Bach hefyd wedi trydar bod un arall o gyn-lobïwyr fwyaf llwyddiannus a blaengar Cymru eisoes yn eistedd yn y gadair grasboeth sydd ar frig BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw, mi fydd hi’n ddiddorol tu hwnt i weld a chlywed pa ddoethinebau glywn a gwelwn o lais peraidd Daran ar eu gwasanaethau corfforaethol/cenedlaethol eleni gyda’r holl etholiadau sydd ar y gweill…

 

* =  Yng Ngheredigion, ceir hefyd rhegfeydd ysgafnach megis “cwrci”, sydd am wn i yn dabŵ oherwydd y cysylltiad Brenhinol i gwrgwn Ei Mawrhydi, wff.

 

 

 

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau