gan Gruffydd Meredith
Bu wal enwog ac eiconig ‘Cofiwch Dryweryn’ rhwng Aberystwyth a Llanrystud yn y newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiweddar wedi i’r slogan blaenorol gael ei ail baentio gyda slogan newydd yn dweud ‘Elvis’.
Aeth rhai ychydig dros ben llestri ac i ‘sterics gan ddisgrifio’r weithred fel ‘trosedd gasineb’, tra bod eraill yn cymeryd agwedd ychydig fwy gwrthrychol a gweld y peth fel mynegiant/trafodaeth gelfyddydol a gwleidyddol ddiddorol ac agored, neu ychydig o hwyl diniwed.
Mae’n siŵr i rai fwynhau elfennau celfyddydol ‘Dadaist’ neu ‘Situationist’ y sefyllfa tra’n smocio sigaréts Gitanes a mwytho eu barf hefyd.
Nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd wrth gwrs. Mae hanes hir a hynod i’r wal a’r gwahanol baentiadau a sloganau sydd wedi ymddangos arni ers i’r slogan Cofiwch Dryweryn gwreiddiol gael ei baentio gan yr awdur toreithiog Meic Stephens yn 1965. Dros amser, ychwanegwyd ‘Cofiwch Aberfan’ ac eraill ar y wal, a’i phaentio drosodd unwaith eto.
Mae cysylltiad arall i’r slogan Elvis hefyd. Yn 1962, ar yr A44 ger Eisteddfa Gurig, 10 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth, paentiwyd craig ar ochor y ffordd gyda’r geiriau ‘Ellis’ (un ‘l’ oedd i fod) gan ddau lleol i Aberystwyth ar y pryd, David Meredith a John Hefin. Roedd yr ‘Ellis’ yn cyfeirio at Islwyn Ffowc Elis oedd yn sefyll fel aelod Plaid Cymru yn isetholiad Sir Faldwyn y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach newidiwyd yr ‘Ellis’ i ‘Elvis’ a daeth yn un o greigiau eiconig Cymru.
Yn ôl gwefan y BBC, yn 1968 gwelodd ddyn o’r enw Terry Filby a’i wraig gar mawr Americanaidd ger y graig gyda dau ddyn yn y car – un ohonynt y dyn ei hun, Elvis Presley!
Mae deiseb ynglŷn a’r murlun wedi ei chyflwyno i Gynulliad Cymru ac wedi hel dros 930 o lofnodion. Mae’r ddeiseb yn gofyn i wneud murlun ‘Cofiwch Dryweryn’ yn dirnod Cymreig dynoded-ig gan ddatgan: “Mae’n wirion bod tirnod mor bwysig yn hanes Cymru’r 20fed Ganrif yn cael ei fandaleiddio, tra bod gwaith diweddar gan Banksy yn cael ei ddiogelu. Mae’n amser i’r tirnod hwn gael statws safle gwarchodedig swyddogol yng Nghymru.” Mi fydd y ddeiseb yn cael ei thrafod gan bwyllgor deisebau’r Cynulliad yn yr wythnosau i ddod.
Ond mae’n werth gofyn a ddylse’r murlun yma ger Llanrhystud gael ei warchod fel cofeb statig genedlaethol neu a ydi’r newid nôl a ‘mlaen celfyddydol a gwleidyddol yn arwydd o ddemocratiaeth a rhyddid barn iachus? Ai jisd graffiti gwledig ydi hwn sydd yn agored i bawb ei newid fel pob graffiti trefol neu ddinesig?
Neu, a oes posib cael y gorau o ddau fyd a chael cofeb urddasol genedlaethol i Dryweryn yn ogystal â chadw’r wal yn agored i amrywiol beintwyr oriau mân Cymru?
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.