Gan Gruffydd Meredith
Ar ddolenni gwefannau gwelir datganiadau am helpu dysgu peiriannau sut mae pobl go-iawn yn siarad.’ Dwedir hefyd fod teclynnau adnabod llais (Cymraeg/Cymreig) yn ddatblygiadau pwysig a bod angen i ni, fel Cymry Cymraeg, “gyfrannu er mwyn ni ein hunain”. Ond pam? I be? At ba ddiben?
Pam fod helpu peiriannau i ddysgu sut mae unrhyw bobol yn siarad yn cael ei ystyried fel rhywbeth o bwys neu’n angenrheidiol? Pam fod rhai pobol yn ysu i wasanaethu peiriannau a systemau AI tra fod peryglon cynyddol a Neo chrefyddol/transhumanist y math yma o dechnoleg i reoli a monitro ein bywydau yn wybyddus i bawb erbyn hyn?
“Yn lle ‘ie, robot, oce robot’, be am ‘na robot busneslyd, dwi’n mynd i dynnu dy fatris allan a dy losgi”
Dirgelwch llwyr hefyd i fi ydi pam fod unrhyw un eisiau gwahodd yr ysbiwyr digidol Alexa gan Amazon neu Siri gan Apple i’w cartrefi i wrando a recordio pob sgwrs sydd yn mynd ‘mlaen, a gyrru’r wybodaeth nol i HQ’s y corfforaethau anferth yma. Pam ddim gwahodd unrhyw ddiethryn o’r stryd i’ch tŷ a gofyn iddynt recordio pob manylyn o’ch bywyd yn ogystal tra ‘de chi wrthi?
Mae’r Gymraeg yn iaith fodern a thechnolegol yn barod heb orfod dechrau poeni am blesio robots plastic a’r rhith-fyd digidol, tywyll, diwaelod yma (mae’n oce, nid oes gan robots a meddalwedd deimladau er gwaethaf ymgais rhai nytars yn yr Undeb Ewropeaidd i greu ‘hawliau dynol’ iddynt).
Mae lle amlwg hefyd i ddadlau mai osgoi neu rebelio yn erbyn y math yma o dotalitariaeth dechnolegol ysbïol eithafol ac afresymol yw dyfodol twf a phoblogrwydd y Gymraeg – nid moesymgrymu ger ei fron a’i wasanaethu fel y mae’r Saesneg yn ei wneud fel yr iaith globaleddiol unffurf ddiflas bresennol.
Yn lle ‘Ie, robot, oce robot’, be am, ‘Na robot busneslyd a sinistr, dwi’n mynd i dynnu dy fatris allan a dy losgi’. Dyna’r geiriau olaf mewn unrhyw iaith y dyle’r teclynnau llechwraidd yma eu clywed
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.