Gwir hanes Prydain wedi ei guddio. Un o frenhinoedd Brythonaidd Prydain mewn cornel llychlyd o’r golwg yn y filltir sgwâr – Gruffydd Meredith

Barn

gan Gruffydd Meredith

Mae cannoedd os nad miloedd o bobol Llundain yn ei basio bob dydd heb syniad yn y byd eu bod yn cerdded heibio cerflun un o frenhinoedd Brythonaidd ynys Prydain, y Brenin Lludd.

Ond mewn mynedfa ddi-nod drws nesa i brif fynedfa Eglwys St Dunstan oddi ar Fleet Street yn milltir sgwâr Llundain, gall y rhai sydd yn gwybod am ei fodolaeth fynd i weld cerflun un o frenhinoedd hynafol Prydain.

Mewn llyfr anhygoel am hanes Prydain gan Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae (The History of the Kings of Britain yw teitl y fersiwn Saesneg) mae Sieffre yn sôn sut y bu i Brutus, prif sylfaenydd honedig cenedl Frythonaidd/Gymreig Prydain, sefydlu ymerodraeth Brydeinig Gymraeg ei hiaith yn y flwyddyn 1170 cyn Crist, ac yna mynd ati i sefydlu dinas bwerus a’i galw yn Troia Newydd (Llundain erbyn heddiw) gan ei fod yn ddisgynnydd i’r rhai hynny a ddihangodd o ddinas/weriniaeth Troi a goncrwyd gan y Groegiaid tua 1200 cyn Crist.

Brenin Lludd (canol) gyda’i ddau fab sydd i’w gweld ger mynedfa Eglwys St Dunstan oddi ar Fleet street Llundain. Llun gan Shakespearesmonkey o dan drwydded CC BY 2.0

Bu i’r llinach yma o frenhinoedd Brythonaidd Prydeinig barhau yn swyddogol am oddeutu 1,700 o flynyddoedd, nes y seithfed ganrif oed Crist, a gellir dadlau ei fod yn parhau yng Nghymru hyd heddiw o ddilyn llinach y teuluoedd brenhinol Cymreig. Credir fod Sant Tysilio hefyd wedi ysgrifennu am yr un hanes dan deitl Brut Tysilio (Tysilio Chronicles neu Chronicle of the early Britons yn Saesneg) ymhell cyn Sieffre o Fynwy.

Mae rhannau sylweddol o’r wal i’w gweld o gwmpas ‘y filltir sgwâr’. Llun G.Meredith

Mae John Davies yn ei orchestwaith hanesyddol ‘Hanes Cymru’ hefyd yn ymdrin â Brutus fel prif sefydlydd posib cenedl y Brythoniaid ym Mhrydain ac mae sawl hanesydd arall hefyd yn awgrymu i’r Cymry fod ym Mhrydain am filoedd o flynyddoedd cyn Brutus.

‘Mae’n amser i’n hanes go iawn ni gael ei ddysgu a’i ddathlu yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain’

Beth bynnag y gwir, dangosir yn hyn oll mai’r Gymraeg yw’r wir iaith Brydeinig ac felly iaith frodorol yr ynys hon – Prydeinig yng ngwir ystyr etifeddol a hanesyddol y gair.

Y wal i’w gweld ger Twr Llundain. Llun: G Meredith

Wedi dyddiau Brutus a’r nifer enfawr o frenhinoedd Brythoneg eraill dros gannoedd o flynyddoedd, daeth Lludd yn frenin Prydain Frythonaidd ac adeiladodd wal enfawr amddiffynnol o gwmpas dinas Troia Newydd/Llundain.

‘Does ganddynt ddim syniad yn y byd eu bod yn cerdded heibio cerflun un o frenhinoedd Brythonaidd Ynysoedd Prydain’

Mae rhannau sylweddol o’r wal i’w gweld hyd heddiw o gwmpas yr hyn a elwir erbyn hyn yn ‘y filltir sgwâr’ sef talaith ddinas sofran o fewn Llundain a’r Deyrnas Gyfunol na sydd yn atebol i gyfreithiau na gorchmynion 10 Stryd Downing na Senedd San Steffan. Gellir gweld hefyd sut y trwsiodd y Rhufeiniaid, y Saeson a’r Normaniaid y wal wedi cyfnod Lludd.

Twr Llundain a gweddill y filltir sgwâr sofran oddi mewn i ddinas Llundain heddiw. Llun gan G.Meredith

Rhoddod Lludd ei enw ei hun i’r ddinas wrth ei hailenwi’n Caer Ludd. Wedi hynny daeth y ddinas i gael ei hadnabod fel Caer Llundain ac yna London yn fwy diweddar. Enwyd ardal Porth Lludd (Ludgate) yn Llundain ar ôl y Brenin Lludd. Ar Cannon Street, nid nepell o Fleet Street, gellir hefyd gweld ‘carreg Brutus’ mewn cabinet arddangos cyhoeddus dan enw camarweiniol ar arwydd swyddogol sef  ‘London stone’, er mai ‘Brutus stone’ yw ei ddisgrifiad gwreiddiol yn Saesneg.

Carreg Brutus – nid ‘London Stone’ Llun: L.Nunez

Gwnaed cam amlwg drwy fod o leiaf mil a saith cant o flynyddoedd o hanes cyfoethog a llinach cynifer o frenhinoedd Brythonaidd Prydain, o‘r cyfnod cyn ac ar ôl dyfodiad y Rhufeiniaid, wedi ei anwybyddu a’i guddio gyhyd gan brif academyddion a haneswyr honedig y Deyrnas Gyfunol Normanaidd/Germaneg bresennol.

Tafarrn yr Old King Lud yn Llundain yn 1981. Llun gan Penny Samuels

Mae’n amser i’n hanes go iawn ni gael ei ddysgu a’i ddathlu yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain unwaith eto – gwledydd sydd yn deillio o deyrnasiad Brythonaidd Brutus, Lludd a’r holl frenhinoedd Brythoneg eraill a fu’n rheoli a rhedeg ynys Prydain drwy’r oesoedd.

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau