Gan Gruffydd Meredith
Ysgolion dwyieithog, taflenni dwyieithog, arwyddion dwyieithog, e-byst a datganiadau ar gyfryngau cymdeithasol dwyieithog, anifeiliaid anwes dwyieithog, a lorïau cyngor sy’n rhybuddio eu bod yn bacio nôl dwyieithog.
Yn amlwg mae’n dda gweld y Gymraeg yn cael ei lle haeddiannol gan wahanol gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Ond be am Gymry Cymraeg sydd isio byw yn gyfan gwbwl yn Gymraeg ac nid yn ddwyieithog – ble mae hawliau’r bobol hynny? Oni ddyle fod opsiwn o ysgolion, colegau ac addysg uniaith Gymraeg a’r opsiwn i gyfathrebu’n uniaith Gymraeg?
Mae polisi dwyieithog Llywodraeth Cymru yn gleddyf ddwy ochrog. Ar un llaw mae’n beth da fod yr opsiwn i ddefnyddio’r Gymraeg (a’r Saesneg) ar gael i bawb. Ond ar y llaw arall mae’n golygu bod cyfarfodydd neu sefydliadau naturiol Gymraeg eu hiaith yn cael eu rhwymo i ddarparu gwasanaeth Saesneg /ddwyieithog yn ogystal, gan orfodi dwyieithrwydd annaturiol mewn amryw o sefyllfaoedd a fydde fel arfer yn uniaith Gymraeg neu, yn waeth, yn galluogi dros amser i’r Saesneg gael goruchafiaeth.
Yn ddiweddar clywyd am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn ei phapur gwyn ymgynghorol i wneud Saesneg yn orfodol mewn meithrinfeydd Cymraeg am y tro cyntaf – rhywbeth sydd wedi, yn gwbwl gyfiawn, cythruddo rhieni, athrawon ac ymgyrchwyr iaith. Hefyd yn y papur gwyn mae’r Llywodraeth a’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams eisiau gweld ‘Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ar gyfer plant 3 i 16 oed’ – fel ‘tai plant 3 oed angen cael addysg rywioldeb a nonsens Freudaidd wedi ei orfodi arnynt cyn iddynt gael cyfle i fwynhau eu plentyndod. Gweler yr ymgynghoriad sydd ar agor nes Ebrill y 1af 2019, a ble y gallwch roi eich barn ar hyn yma.
Mae’r ymgynghoriad cyffredinnol ar y ‘Cwricwlwm Gweddnewidiol’ ar agor nes Fawrth 25 2019 a gallwch hefyd gyfrannu eich barn ar hyn drwy fynd i’r dudalen ymgynghoriadau ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’n ymgynghoriad ar fframwaith deddfwriaethol i hwyluso gweithrediad y cwricwlwm newydd ac yn cynnwys:
Pwrpas a strwythur y cwricwlwm, Y Gymraeg a Saesneg, Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ar gyfer plant 3 i 16 oed, Addysg Grefyddol ar gyfer plant 3 i 16 oed, Yr hawl i dynnu’n ôl o Addysg Grefyddol ac Asesu dysgwyr.
Mae’r cwricilwm gweddnewidiol hefyd yn cynnwys (rolio llygaid ac ebychiad o syrffed): ‘Dysgu sut i fod yn ddinasyddion y byd’.
Yn ôl arweinwyr a grwpiau addysg blaenllaw yng Nghymru sydd wedi ymateb yn chwyrn i’r cynllun ar gyfer cwricwlwm newydd yn gyffredinol, ni fydd y disgyblion yn cael eu haddysgu ‘am bethau sydd wir o bwys’ ac mae athrawon wedi ‘colli ffydd’ yn y ffordd y mae’r newidiadau radical yma yn cael eu datblygu.
Mae dwyieithrwydd wedi cael ei werthu i Gymru dros y degawdau diwethaf fel rhywbeth eangfrydig, cosmopolitaidd, modern a normal y dylem ei dderbyn yn ddi-gwestiwn, yn enwedig ym myd addysg plant. Ond ydi hyn o anghenraid yn iawn neu yn berthnasol? Hyd at y flwyddyn 1850 roedd 90% o Gymry yn Gymry Cymraeg, a’r mwyafrif yn uniaith Gymraeg – gyda hynnu yn dal i fod yn gyffredin ymhell i’r ugeinfed ganrif. Yr unieithrwydd yma yw’r norm wedi bod ers miloedd o flynyddoedd fel oleiaf hanner gwledydd eraill y byd. Ond rŵan mae dwyieithrwydd yn cael ei wthio fel yr unig opsiwn yn y sffêr cyhoeddus yn enwedig, ac unrhyw sôn am unieithrwydd Gymraeg yn cael ei bw-pwio fel rhywbeth hen ffasiwn, ‘plwyfol’, cul neu eithafol hyd yn oed er bod mwyafrif o Gymry di-Gymraeg Cymru yn fonoglots sy’n byw eu bywydau yn uniaith Saesneg, a hanner y byd yn dal yn fonoglots yn ogystal.
Ydi’r Ffrancwyr yn blwyfol a chul am mai Ffrangeg yw prif iaith Ffrainc? Neu be am y Siapaneiaid neu bobol Gwlad yr Iâ am hybu un iaith yn unig – yde nhw yn ‘blwyfol’ a chul hefyd?
Y ffaith syml yw nad yw dwyieithrwydd di-gwestiwn o anghenraid yn mynd i ddiogelu’r Gymraeg. Yn ddiweddar mae S4C wedi dechre sleifio dwyieithrwydd i’w rhaglenni, gyda chyflwynwyr rhwng rhaglenni yn gwneud datganiadau Cymraeg a Saesneg, a weithiau yn Saesneg yn unig. Mae hefyd yn rhoi datganiadau dwyieithog ar ei chyfryngau cymdeithasol yn lle deunydd uniaith Gymraeg fel y dylai. Mewn byd delfrydol mi fydde dwy neu dair sianel arall i Gymru yn y Saesneg ac yn Gymraeg ond sianel Gymraeg ydi S4C i fod a dyna’r oll sydd i’w ddweud. Gan bregethu i’r cadwedig, mae dysgu a siarad ieithoedd eraill yn amlwg yn gallu cyfoethogi bywydau pobol mewn amryw ffyrdd ond, o fod yn wrthrychol, mi ddylai hi fod yn opsiwn i Gymry, ac addysg plant yn enwedig os dyna ddymuniad y rhieni, allu bodoli yn gyfan gwbwl yn y Gymraeg fel mae’r di–Gymraeg yn gallu bodoli yn gyfan gwbwl yn y Saesneg os dymunant, ac fel mae hefyd posib cael ysgolion a sefydliadau dwyieithog.
(Prif lun gan gan OLU drwy drwydded CC BY-SA 2.0)
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.