Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts sy’n sgwennu yn arbennig i’r Cymro:
Nid oes dwywaith amdani, mae Brecsit yn bygwth diwylliant a threftadaeth Cymru.
Mae hanes hir a chyfoethog Cymru – yn ogystal ag ein cyfraniad diwylliannol a threftadol i Ewrop a gweddill y byd, mewn perygl wrth iddi fod yn gwbl glir y byddai gadael yr UE yn debygol o achosi niwed mawr i bobl Cymru, eu bywoliaeth a diwylliant.
Nid ydym eto yn gwybod beth fydd natur y berthynas rhwng y DU a’r UE wedi Mawrth 2019. Gyda’r cwbl yn y fantol a’r diffyg eglurder yn ei gwneud hi’n anodd rhagweld goblygiadau posibl, mae dyletswydd arnom ni bob un i sicrhau nad yw Brecsit nac ychwaith gwleidyddiaeth adweithiol asgell dde Brydeinig yn bygwth ein diwylliannau, ein hiaith a’n treftadaeth ni yng Nghymru.
Yn un, rhaid atal Brecsit rhag tanseilio’r ymdrechion i greu rhagor o Siaradwyr Cymraeg neu gynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg. Gall weld tarfu ar raglenni a phrosiectau yng Nghymru sy’n hanfodol i greu gweithlu dwyieithog medrus a chefnogi’r defnydd o Gymraeg yn y gymuned ac mewn busnes.
Er mwyn amddiffyn siaradwyr Cymraeg, mae rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried goblygiadau Brecsit ar yr iaith Gymraeg – yn enwedig y newidiadau arfaethedig i’r sector amaethyddiaeth, gan greu cynlluniau fel mater o frys i liniaru unrhyw sgil–effeithiau niweidiol i gymunedau gwledig Cymraeg.
Mae’r effaith gall Brecsit ei gael ar y sectorau economaidd sy’n bwysig i siaradwyr Cymraeg ac i raddau helaeth cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith yn ddifrifol.
Ond nid y Gymraeg yn unig sydd dan fygythiad.
Bydd methiant i ddarganfod cyllid yn sgil colli ffynonellau cyllido yr UE yn cael effaith enbyd ar y cyfraniad sylweddol mae treftadaeth yn ei wneud i economi a chyflogaeth Cymru ac i weithredu mewn meysydd megis lles, iechyd, a chynhwysiad cymdeithasol.
Mae 40% o adeiladau yng Nghymru yn adeiladau a godwyd cyn y rhyfeloedd byd. O gestyll i dai gwerin, mae’r gost o’u cynnal yn siŵr o godi os yw cyfyngiadau yn cael eu gosod ar symudiadau rhydd pobl ar draws Ewrop ac os gosodir tariffau ar ddeunyddiau adeiladu traddodiadol. Gallai ddiddymu deddfwriaeth amddiffyn amgylcheddol sy’n deillio o’r UE hefyd arwain at ddifrod di-droi-nôl i dreftadaeth archeolegol Cymru.
Mae traddodiad llenyddol Cymru hefyd yn y fantol.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn derbyn deunyddiau cyhoeddedig o leoliadau ar draws yr UE i’w hychwanegu at ein casgliadau cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae 54% o danysgrifiadau argraffu y Llyfrgell yn dod gan gyflenwyr Ewropeaidd. Gallai rhwystrau neu gostau mewnforio effeithio ar y gallu i gasglu’r deunyddiau perthnasol.
Mae cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr Cymru yn fentrau bach sydd wedi ei lleoli mewn lleoliadau gwledig ac yn rhan annatod o economi sylfaen Cymru. Byddai unrhyw ostyngiad mewn gweithgarwch cyhoeddi yn arwain at lai o waith yn y sector allai arwain at golli swyddi.
Cyfoethogwyd llenyddiaeth yn y gorffennol o gydweithredu trwy gynlluniau ariannu Ewropeaidd megis Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, Ewrop Greadigol, Gorwelion 2020 ac Erasmus.
Mae’r cynlluniau hyn wedi galluogi sector celfyddydol a diwylliannol Cymru i ymgysylltu â’r byd ehangach, allforio a chynhyrchu incwm. Wedi Brecsit bydd llai o gyfleoedd i awduron oherwydd diffyg mynediad at raglenni celfyddydol a diwylliannol Ewropeaidd a gweld colli datblygu cysylltiadau ar draws Ewrop.
Rhaid sicrhau nad ydym yn colli cenhedlaeth gyfan o dalent oherwydd Brecsit.
Rhaid edrych i amddiffyn ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig rhag cael eu dal yng nghanol rhyfel cartref y Ceidwadwyr dros Ewrop.
Rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn atal Brecsit rhag maeddu ein hetifeddiaeth.
Bydd Plaid Cymru am i Gymru a’r Deyrnas Gyfunol barhau o fewn y Farchnad Sengl a’r Undeb Dollau a bod Pleidlais y Bobl yn cael ei chynnal er mwyn rhoi’r grym dros ein dyfodol yn ôl yn nwylo ein dinasyddion.
Bydd Plaid Cymru yn sefyll yn gadarn yn erbyn anrhefn San Steffan gan sicrhau bod treftadaeth, iaith a diwylliant wrth wraidd ein gwaith a’n gweledigaeth wrth i ni greu gyda’n gilydd Gymru newydd feiddgar tu hwnt i lanast Brecsit y wladwriaeth Brydeinig.
Rhaid edrych i amddiffyn ein diwylliant a’n treftadaeth Gymreig rhag cael eu dal yng nghanol rhyfel cartref y Ceidwadwyr dros Ewrop.
Rhaid gwneud popeth o fewn ein gallu er mwyn atal Brecsit rhag maeddu ein hetifeddiaeth.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.