‘Dylai Bil Addysg Gymraeg fod yn rhan o’r nod ehangach o wella safonau mewn addysg’
Heini Gruffudd sy’n ysgrifennu i’r Cymro.
Mae RhAG o’r farn nad yw trefn bresennol hyrwyddo a chefnogi addysg Gymraeg yn ddigonol.
Hyrwyddo
Ers i Fwrdd yr Iaith gael ei ddileu, ni chafodd addysg Gymraeg ei hyrwyddo’n benodol gan y Llywodraeth na gan awdurdodau lleol.
- Diflannodd ymgyrchoedd cenedlaethol a sirol;
- Nid yw gwybodaeth awdurdodau lleol i rieni, ar y cyfan, yn crybwyll manteision dwyieithrwydd na rôl addysg ysgolion Cymraeg;
- Bu i’r Comisiynydd Iaith ganolbwyntio hysbysebion teledu ar brosesau cwyno a hawliau unigolion, yn hytrach nag ar hyrwyddo addysg Gymraeg.
Cefnogi twf addysg Gymraeg
Mae gwendidau’r Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg presennol wedi’u nodi’n glir yn adroddiad Aled Roberts. Mae gobaith y bydd y CSGAau newydd, pan ddônt, yn arwain at weithredu cadarnach gan awdurdodau lleol o blaid addysg Gymraeg, ond mae’n debygol y bydd gwendidau’n parhau.
Mae nifer o awdurdodau lleol wedi bod yn araf os nad yn wrthnysig wrth gynyddu addysg Gymraeg;
Bu cwymp yn y ganran sy’n derbyn addysg Gymraeg mewn rhyw bump o siroedd dros y deng mlynedd diwethaf;
Mae awdurdodau lleol yn cuddio y tu ôl i wahanol esgusodion wrth beidio ag ehangu addysg Gymraeg, e.e.
Diffyg cyllid
Diffyg adeiladau
Prinder ymateb gan rieni wrth fesur y galw
+ Diffyg cydlynu rhwng gwahanol ffrydiau cyllid y Llywodraeth, e.e. Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain.
Tra bod y sefyllfa hon yn parhau, mae’n annhebygol iawn y bydd y Llywodraeth yn llwyddo i gyrraedd ei nod o filiwn o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg erbyn 2050 a chaiff nodau ac amcanion Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth eu tanseilio.
Er mwyn sicrhau bod cynnydd pendant a chyflym yn digwydd, mae RhAG yn galw am lunio Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ystod tymor nesaf y Cynulliad er mwyn cryfhau’r seilwaith deddfwriaethol presennol.
Awgrymwn y gall hyn ddigwydd yr un pryd â Bil y Gymraeg y mae’r Llywodraeth am ei gyflwyno. Bydd rhai materion y dymunwn eu gweld yn y Bil Addysg yn berthnasol i’r maes hyrwyddo, a fydd, yn ôl bwriadau’r Llywodraeth yn rhan o ddyletswyddau unrhyw gorff hyd braich posib.
Bu cryn drafodaeth ynglŷn â sefydlu corff hyd braich arfaethedig, a allai gynnig rhai manteision amlwg, megis:
- Sicrhau parhad cynllunio ieithyddol: nid yw’r drefn bresennol o roi’r iaith yng ngofal gweinidog yn rhoi digon o sefydlogrwydd. Cafwyd tri gweinidog i’r Gymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae galw amlwg am sefydlogrwydd polisi;
- Creu a chynnal arbenigedd: er bod rhai gweision sifil goleuedig a gweithgar wedi gweithio o blaid addysg Gymraeg, mae natur y gwasanaeth sifil yn oriog, e.e. gall gweision sifil newid o’r naill adran i’r llall i gael dyrchafiad;
- Canllawiau clir ar gyfer cyfrifoldeb am farchnata a hyrwyddo iaith.
Deddfwriaeth bresennol
Mae deddfwriaeth berthnasol i addysg Gymraeg yn ddarniog, yn annigonol, neu wedi’i hymgorffori mewn deddfau eraill. Mewn rhai meysydd mae canllawiau ond nid deddfau, ac mewn ambell faes, nid oes deddfwriaeth yn bodoli o gwbl.
- Cafwyd sail gyfreithiol i gychwyn ysgolion Cymraeg yng nghymal 76 Deddf Addysg 1944, bod disgyblion i gael eu haddysgu yn ôl dymuniadau eu rhieni, lle y bo modd;
- Mae Adran 9 Deddf Addysg 1996 yn dweud bod rhaid i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i ddymuniad rhieni o ran addysg eu plant;
- Nododd Mesur Teithio gan Ddysgwyr (2008), bod angen i awdurdodau lleol ddarparu cludiant i ‘hybu mynediad’ i addysg Gymraeg;
- Mae Mesur Dysgu a Sgiliau 2009 yn cynnwys nod o ddatblygu a chynyddu mynediad i gyrsiau Cymraeg;
- Mae Canllaw Cwricwlwm Lleol i Fyfyrwyr 16-18 (2009) yn nodi y dylid ystyried yn llawn ddymuniad person ifanc i gael addysg Gymraeg;
- Cyhoeddwyd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2010;
- Mae Arolwg Diamond o Addysg Uwch am gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg uwch, a chefnogodd waith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a sefydlwyd yn elusen gofrestredig ym mis Mawrth 2011;
- Mae Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 yn nodedig yn ei fethiant i gynnwys addysg Gymraeg, un o’r meysydd pwysicaf sy’n galw am weithredu, a phwysicach o lawer na’r rhan fwyaf o safonau’r Gymraeg. Bu colli cyfle mawr;
- Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu’r galw am addysg Gymraeg yn rhan o’u CSGAau;
- Effaith Bil Addysg Bellach ac Uwch 2014 oedd rhoi mwy o annibyniaeth i sefydliadau addysg bellach;
- Mae Strategaeth Iaith y Llywodraeth, Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr Cymraeg (cyhoeddwyd 11 Gorffennaf 2017) am weld 30% o blant 7 oed yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2031 a 40% erbyn 2050, gyda 70% o’r holl ddisgyblion yn rhugl erbyn gadael yr ysgol yn 2050.
YSTYRIAETHAU
- Mae prinder deddfau’n amlwg yng nghyfnodau anstatudol addysg, sef addysg dan 5 oed ac ôl 16.
- Mae tystiolaeth o hyd bod rhai o’n siroedd mwyaf Cymraeg yn dioddef o ddiffyg dilyniant addysg Gymraeg rhwng Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3. Mae Conwy, Caerfyrddin a Gwynedd yn ddiffygiol yn hyn o beth.
- Er bod sôn am gludiant mewn un Mesur, nid oes cyswllt anhepgor wedi’i wneud rhwng darparu cludiant ac addysg Gymraeg. Mae’r cyswllt hwn yn hanfodol i barhad sawl ysgol Gymraeg, yn arbennig yn y sector 16+.
- Mae diffyg cludiant statudol i rai o dan 5 yn llesteirio twf addysg Gymraeg yn y sector meithrin
- Mae diffyg dilyniant yn amlwg mewn rhai ardaloedd rhwng dosbarthiadau meithrin annibynnol / gwirfoddol a’r ysgol gynradd Gymraeg, yn sgil diffyg cludiant neu bellter y ddarpariaeth.
- Er bod nifer o’r Deddfau a Chanllawiau a nodwyd yn gefnogol i addysg Gymraeg, nid oes eglurder ar sut i weinyddu neu orfodi’r rhain. Mae dyletswyddau awdurdodau addysg yn gallu bod yn amwys, a hyd yn oed os gwelir eu bod yn gweithredu’n ddiffygiol neu’n negyddol, nid oes llwybrau amlwg i’w dal i gyfrif.
- Er bod rhai cynlluniau cadarnhaol i roi hyfforddiant iaith i athrawon, nid yw’r rhain yn rhan o dargedau uchelgeisiol sy’n angenrheidiol ar gyfer gwyrdroi addysg Gymraeg.
- Mae rôl cyrff lled braich y Llywodraeth, e.e. Estyn, CBAC, Cymwysterau Cymru a hefyd y consortia rhanbarthol, yn amwys o ran hyrwyddo addysg Gymraeg a’r Gymraeg mewn addysg. Cafwyd enghreifftiau lle mae’r cyrff hyn wedi gweithredu’n erbyn ymarfer gorau.
- Mae natur ieithyddol ysgolion yn gallu bod yn amwys. Er bod canllawiau wedi’u creu, mae’r rhain yn ddiffygiol ac yn gallu arwain at gamgymeriadau a chamddehongli bwriadol.
- Mae sefyllfa ysgolion Saesneg yn cynnig anawsterau pellach. Mae angen osgoi’r syniad bod ysgolion o’r fath yn gallu dysgu’r Gymraeg i’r un safon ag ysgolion Cymraeg. Ffalasi yw hyn, a rhaid bod yn wyliadwrus nad ydym yn cael ein dallu gan y gobaith o weld yr ysgolion hyn yn anwesu’r Gymraeg yn sydyn.
- Mae’n hanfodol gwahaniaethu rhwng ysgolion Cymraeg a mathau eraill o ysgolion, gan mai ysgolion Cymraeg yn unig sy’n darparu sgiliau cyflawn yn y ddwy iaith i bob disgybl.
BIL ADDYSG GYMRAEG
Rydym yn rhagweld y bydd angen i Fil Addysg Gymraeg ddeddfu ar y canlynol. Rhagwelwn y bydd CSGAau statudol yn gyfrwng cyflawni peth ond nid y cyfan o’r canlynol. Bydd gan Adran Addysg y Llywodraeth rôl allweddol a dylai fod rôl hyrwyddo allweddol gan y corff hyd braich arfaethedig:
- Categoreiddio ysgolion yn ôl eu defnydd o’r Gymraeg fel pwnc, fel cyfrwng ac fel iaith ysgol.
- Rhoi dyletswydd i’r Llywodraeth ac awdurdodau addysg hyrwyddo addysg Gymraeg.
- Sicrhau darpariaeth Gymraeg eang cyn-ysgol.
- Sicrhau dilyniant iaith rhwng y sector cyn-ysgol ac addysg gynradd.
- Sicrhau dilyniant iaith rhwng y sector addysg gynradd ac addysg uwchradd.
- Sicrhau darpariaeth Gymraeg eang yn y sector addysg bellach ac uwch.
- Sicrhau bod trefniadau penodol ar waith o ran adeiladau a chyfalaf i gynyddu nifer ysgolion Cymraeg.
- Sicrhau bod cludiant ar gael yn hwylus i addysg Gymraeg, a’i fod yn rhan o’r ddarpariaeth.
- Sicrhau bod modd i ysgolion symud ar hyd llwybr iaith yn ddirwystr, tuag at y Gymraeg.
- Yn allweddol, sicrhau bod llif digonol o athrawon ar gael i gynnal addysg Gymraeg a’r Gymraeg mewn ysgolion eraill. Bydd angen cydweithredu rhwng y Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg a cholegau a phrifysgolion Cymru i wneud hyn.
- Pennu safonau yn y byd addysg, gan gynnwys hawl rhieni i gael darpariaeth addysg Gymraeg hwylus i’w plant. Mae angen gofalu nad yw hyn yn rhoi hawl i rieni roi addysg Saesneg i’w plant. Gall hyn fod yn ddyrys wrth ei ddatrys – mae rhoi hawl i rywun yn golygu nad yw’r hawl honno’n norm. Tra gellid dadlau bod angen deddf i roi’r Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, gan nad yw hynny’n gyraeddadwy ar hyn o bryd, mae angen geirio unrhyw hawl mewn modd sy’n cynyddu addysg Gymraeg, heb wanhau sefyllfa’r Gymraeg lle dyna’r norm mewn addysg.
- Tribiwnlys y Gymraeg i farnu ar anghydfodau rhwng rhieni ac awdurdodau addysg.
Dylai’r Bil fod yn rhan o’r nod ehangach o wella safonau mewn addysg. Dylid gwneud hyn yng nghyd-destun adeiladu Cymru ddwyieithog, lle bydd yr iaith Gymraeg yn dod yn gyfrwng cyffredin ar gyfer addysg yn y pen draw. Bydd hyn yn gam mawr at unioni anghyfiawnderau ieithyddol sylweddol ein system addysg yn y blynyddoedd a fu.
Heini Gruffudd
RhAG (Rhieni dros Addysg Gymraeg)
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.