BLOG NEIL MCEVOY O BARCELONA

Cyrhaeddais Barcelona neithiwr, ar ôl treulio amser yn Sbaen. Mae gwahaniaeth mawr rhwng yr hyn mae Sbaenwyr yn ei feddwl sy’n digwydd a’r ffordd mae Catalaniaid eu hunain yn ei deimlo. Mae yna angen dirfawr am drafodaeth wleidyddol, ond does dim ewyllys gan wladwriaeth Sbaen am hynny.
Y teimlad mwyaf arwyddocaol i mi yw’r ofn a’r tensiwn sy’n mudferwi, ond sy’n cael ei gadw dan reolaeth gan gred benderfynol yng Nghatalonia, hawliau dynol a democratiaeth. Yng Nghymru rydym yn ffodus i allu dadlau dros faterion o ddiddordeb arbennig neu niche, sydd yn arwain at gasineb ar y cyfryngau cymdeithasol. Yma yng Nghatalwnia, mae’r bobl yn brwydro dros fywyd eu cenedl, a hynny yn erbyn gwladwriaeth bwerus sy’n ymladd rhyfel o ddistryw gwleidyddol.
Am y tro cyntaf erioed mae Guardia Civil Sbaen wedi’i alw i Barcelona ar gyfer La Diada. Mae’r Guardia Civil yn rym militaraidd â dyletswyddau plismona dan awdurdod y Weinyddiaeth Gartref a’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Roedd sôn neithiwr am ymosodiadau ar bobl yn gwisgo rhuban melyn ac am haid o bobl wedi’u gwisgo dan gwfwl gwyn yn creu anrhefn, a chymariaethau amlwg rhyngddynt â’r Ku Klux Clan. Yma mae’r adain dde galed, â’u saliwt Natsiaidd, yn cymryd cysur yn eu goruchafiaeth hanesyddol. Mae dylanwad Franco a’r etifeddiaeth sydd ar ei ôl yn amlwg. Dros bryd o fwyd cafwyd hanes ymosodiad bom tân i eiddo â rhubanau melyn arno. Does dim dwywaith: mae ofn darn bach o ddefnydd melyn ar yr adain dde eithafol yn Sbaen. Mae arnynt ofn yr hyn mae’n ei gynrychioli.
Mae dosbarth gwleidyddol cyfan o arweinwyr wedi’u carcharu ac fe ddarllenais yn y wasg Sbaenaidd y gallent fod yn wynebu hyd at 25 mlynedd yn y carchar. Mae ymgyrchwyr wedi dweud wrtha i eu bod hwythau ofn cael eu carcharu ac nad ydynt yn mynd â’u ffôn symudol gyda nhw i gyfarfodydd: mae’r lleoliadau yn gyfrinachol, a rhai yn defnyddio ffugenwau. Gwladwriaeth o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn 2018 yw hon. Ond gallai’n hawdd fod ynghanol y 30’au.
Am y tro cyntaf erioed ar La Diada mae pryder am drais. Mae Catalanwyr yn dweud wrtha i mai pobl agored sy’n ffynnu ar amrywiaeth a’r hyn sy’n gyfarwydd i ni fel “chware teg” i bawb ydyn nhw. Mae teimlad er hynny bod y ffasgwyr yn ysu i ymladd; eu bod yn dymuno gweld trais er mwyn rhoi rheswm i lywodraeth Sbaen fod yn fwy llawdrwm wrth ymyrryd. Mae cyfraith a threfn fel petaent wedi’u troi ben i waered. Arestiwyd cyn Brif Swyddog heddlu Catalwnia, Josep Lluís Trapero, a gafodd ei gymeradwyo llynedd a’i gydnabod yn arwr ar draws y byd am y ffordd iddo fynd i’r afael ag ymosodiadau ISIS ym Marcelona. Fe’i cyhuddwyd o fod â chysylltiad gyda “complex and heterogeneous criminal organisation” wedi’i arwain gan gyn-brifweinidog Catalwnia, Carles Puigdemont. Dyna’r union eiriau a ddefnyddiodd barnwr llys cenedolaethol Sbaen, Carmen Lamela, wrth gyflwyno’r cyhuddiad.
Mae’n gyfnod lle gall unrhyw beth ddigwydd yng Nghatalwnia. Mae rhagweld y bydd dros filiwn o bobl ar y strydoedd yfory, yn sefyll dros eu hachos. Os yw pethau’n troi’n gas bydd y bobl yma’n sefyll yn gadarn ond yn troi’r foch arall yn enw rhyddid. Bydda i’n cydsefyll gyda nhw.
Gwahoddwyd Neil McEvoy AC i ddathliadau Diada gan Foreign Friends of Catalunya.
——————————————————————————————————————————————
gyda diolch a chydnabyddiaeth i nation.cymru am eu hymdrechion i adrodd stori Catalwnia yn deg ers y dechrau.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.