Sdim byd fel gwylio twrnament chwaraeon na’th Cymru ddim llwyddo i’w chyrraedd er mwyn ein hatgoffa ni o’r holl flynyddoedd ‘na gorfo ni ddiodde cyn yr Ewros. Wi ddim yn sôn am ddiodde methu cyrraedd Cwpan y Byd per se, ond yn hytrach y cwestiwn anochel yna ry’n ni’n cael ein gofyn unrhyw dro dyw Cymru ddim yn cystadlu:
“why aren’t you supporting England?”
Tra bo fi’n sgwennu’r golofn mis yma, mae ffrae wedi codi ar Twitter ynghylch un o raglenni BBC Radio Wales wnaeth ofyn y cwestiwn: “Are we all English now?” ddiwrnod ar ôl i Loegr faeddu Colombia ar giciau o’r smotyn. Yr ateb syml yw, na. Ond ma da fi golofn i’w llenwi fan hyn, felly gadewch i fi ymhelaethu.
Y’ch chi’n meddwl bod cyfryngau gweddill Ewrop yn darlledu straeon sy’n disgwyl i Portiwgal gefnogi Sbaen os nad y’n nhw’n cyrraedd Cwpan y Byd, neu i’r Almaen gefnogi Ffrainc neu i’r Eidal gefnogi’r Almaen? Na. Wrth gwrs ddim.
Mae hawl gan bawb i gefnogi pa bynnag dîm ma nhw moyn, ond y broblem sy da fi yw’r disgwyliad yma fod Cymry (ac Albanwyr a Gwyddelod) yn mynd i gefnogi Lloegr trwy ddiffyg. Disgwyliad sy’n cael ei yrru yn bennaf gan y wasg Brydeinig ond wi hefyd wedi dod ar draws hyn ymysg ffrindiau a chydweithwyr o Saeson dros y blynyddoedd*.
Mae nifer yn dadlau y dylen ni fod yn eu cefnogi gan mai nhw yw ein cymdogion daearyddol agosaf. Ond mae’r ffaith fach yna hefyd yn golygu bod posibilrwydd uwch o wrthdaro a drwgdeimlad. Ac felly, onid yw disgwyl i’r genedl fechan sydd yn hanesyddol wedi ei gormesu, i gefnogi’r genedl fwy, orchfygol yn afresymol?
“But we’d support you..!”
Wel, wrth gwrs y base chi, achos dy’n ni ddim yn fygythiad i chi mewn unrhyw ffordd. Yn yr oes fodern, ry’ch chi wedi cymryd ein dŵr ni, creu niwed diwrthdro i’n hardaloedd diwydiannol ni, gwthio eich teulu brenhinol arnon ni, bychanu ein hiaith ni, ailenwi ein pentrefi a’n traethau a’n mynyddoedd ni.
Dyw’r rant yma ddim yn unrhywbeth yn erbyn Saeson, er mwyn dyn ma ngŵr i yn un ohonyn nhw. Ac os rhywbeth, ers i fi ei adnabod, wi’n gallu gwylio gemau Lloegr trwy lygaid eu cefnogwyr – y llawenydd, y siom – ond allwn i byth eu cefnogi, jest oherwydd yr hyn mae Lloer yn ei gynrychioli yng nghyd-destun Cymru.
Felly i’r Saeson, a’r wasg yn arbennig, sy’n disgwyl i ni eu cefnogi nhw, jest gair bach yng nghlust…fydden i ddim yn disgwyl i chi ein cefnogi ni. Os rhywbeth, basen i’n eich perswadio i beidio achos gallai gael effaith niweidiol iawn ar ein brand.
ES
*hoffai fy Sais o ŵr i mi nodi nad yw e’n poeni naill ffordd neu’r llall
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.