Nid Barn Y Cymro

Barn Tudalen Dod yn Fuan

 

Symudon ni mewn i’n tŷ ni tua 2 flynedd yn ôl. Does dim enw arno fe, jest rhif.
Ni wedi trafod ei enwi.
Mae’r tu fas yn wyn. Tŷ Gwyn? Na. Gormod o ystyron negyddol y dyddiau yma.
Mae ’na groeswyntoedd cryf iawn ’ma pan mae drws y bac a ffrynt ar agor ond mae’r enw yna ar dŷ aleod o’r teulu’n barod.
Nes i ystyried ei enwi fe’n Tŷ Gwyntog, ond mae’r ferch yn obsessed gyda torri gwynt ar hyn o bryd. Wedi gweud hynna, nagyw pawb? Felly dyna orfod anghofio am hynna.
Mae’r gŵr yn dod o Dorset, felly bues i’n chwilio am yr hen enw Cymraeg am y sir honno, ond nid pobl ymhongar mohonom felly peidiwch poeni, nid Durngueir mo enw’r tŷ chwaith.

Hunllefus.

Felly pa syndod bod y mater o newid enwau tai o’r Gymraeg i’r Saesneg wedi codi eto? Yn enwedig gyda’r golwg sydd ar y rhain*:

Badger’s End
The Old Badger
Badger View
The Badger
Mill Badger
Derek
Badger Corner
Ann’s Badger
Badger Bell
Badger Jubilee
Sandy Badger

Yn bersonol, wi o’r farn bod symud i dŷ yng Nghymru sydd ag iddo enw hanesyddol neu ddisgrifiadol gywir a’i newid i enw Saesneg cwbl ddiangen, yn symptom o broblem ehangach – sef diffyg parch tuag at hanes, diwylliant ac iaith leol ac yn arwydd clir mai’r peth diwethaf sydd ar feddwl y bobl hyn yw i integreiddio. Ac os yw’r Llywodraeth eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yna, does bosib bod angen ystyried goblygiadau hyn.

Ond gallwn ni i gyd wneud ein rhan. Felly, os ydych chi’n byw mewn tŷ ag arno enw Saesneg, neu’n symud i dŷ tebyg yn y dyfodol, dyma restr o enwau posib gewch chi da fi. Am ddim. Croeso tad.

Y Telynor
Cri’r Eisteddfotwr
Tŷ Barf
Dôl y Wenci
Bwthyn Badjar
Pwll y Clocsiau
Cae y Cynganeddwyr
Pwps

*enwau ar dai yng Nghymru, siŵr o fod

 

ES

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau