Fel gynnau yn y ‘Gorllewin Gwyllt’, a fydd yn rhaid rhoi eich ffôn i berchnogion tai bwyta cyn cael coffi cyn bo hir?
‘Sdim byd gwell na sgwrs ar WhatsApp neu awr neu ddwy yn darllen helyntion pobl ar Facebook. Daeth Twitter (neu Trydar) i’n byd ni’n ddiweddar hefyd ac erbyn hyn mae nifer fawr o bobl yn cael eu newyddion bob dydd oddi ar hwnnw. Ar yr un pryd mae llai a llai o bobl yn gwylio’r newyddion ar y teledu ac hyd yn oed llai yn ddarllen papur dyddiol.
Dim ond tua 6 mlynedd yn ôl roedd dros 3 miliwn o bobl yn darllen y Sun bob dydd, ac yn ôl yn yr 80au o’r ganrif ddiwethaf roedd hynny’n agosach at 4 miliwn. Erbyn heddiw mae’r Sun yn gwerthu miliwn a hanner o gopïau dyddiol. Yr un pryd aeth gwerthiant papurau mae rhai’n eu hystyried yn fwy ‘uchel ael’ i’r ychydig gannoedd o filoedd beunyddiol.
Ond tydi hi ddim yn lwybr unffordd ac mae rhai papurau wedi cynyddu eu cylchrediad. Dyblodd ‘i’ ei gylchrediad rhwng 2011 a 2013 ac mae’n dal i werthu dau gant a hanner o filoedd o gopïau bob dydd. A’r papur arall sydd wedi llwyddo yn erbyn pob ‘od’ yw y papur rhad ac am ddim, Metro. Mae cylchrediad hwnnw yn fwy, erbyn hyn, na’r Daily Mail.
Felly ydy’r papurau yma’n colli dylanwad? Oes yna bosib fod Corbyn yn llwyddo heddiw lle na fyddai wedi gallu llwyddo ddeng mlynedd yn ôl achos fod pobl yn fwy tueddol o ddarllen amdano ar Twitter na’r Daily Mail? Mae’n debyg mai dyna yw damcaniaeth ambell un ac mae’r ffonau symudol yn dechrau bod yn fwrn yn ôl rhai.
Mae’n strydoedd ni’n llawn pobl yn cerdded ‘yn ddall’, neu ‘techblind walking’ fel y’u gelwir. Mae’n anodd cerdded ar hyd stryd fawr Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin, Caerdydd neu Abertawe heb weld degau ar ddegau o bobl yn cerdded tra’n syllu ar eu ffonau symudol. Mae cymaint o bobl yn gwneud hyn erbyn heddiw fel fod gwyddonwyr wedi dechrau astudio ac ymchwilio sut mae gwneud y peth yn haws. Dangosodd ymchwil rhwng ymchwilwyr o’r Almaen a Lloegr, gyhoeddwyd yn nghynhadledd technoleg “MobileHCI ‘10” nad ydy pobl yn gallu prosesu gwybodaeth oddi ar eu ffôn gystal os ydyn nhw’n cerdded. Ar yr un pryd roedden nhw’n edrych ar sut oedd gwneud darllen a cherdded yn fwy effeithiol drwy dyfu maint testun.
Mae’n debyg fod defnyddio ffonau symudol yn beryglus wrth gerdded hefyd. Aeth rhai gwledydd ati i greu deddfwriaeth i atal pobl rhag cerdded a darllen eu ffonau. Yn Honolulu mae heddlu yn gallu rhoi dirwy i bobl sy’n croesi’r ffordd tra’n darllen eu ffôn ac mae ambell i wlad arall yn ystyried dilyn eu hesiampl. Yn Amsterdam mae’r awdurdodau wedi rhoi goleuadau lliwgar ar ymyl y palmant er mwyn i bobl sy’n edrych lawr ar eu dyfais weld ymyl y ffordd. A thrwy hyn i gyd mae nifer fawr o bobl wedi cael eu taro gan geir tra’n edrych lawr tuag at y sgrin. Yn yr Amerig roedd y niferoedd fu farw tra’n cerdded wedi codi 9% yn 2016.
Mae’n debyg mai nid damweiniau yn unig yw’r broblem. Dangosodd ymchwil o’r Awstralia fod pobl sy’n darllen eu ffonau symudol wrth gerdded yn fwy tebygol o gerdded yn anwastad, cerdded yn arafach, cerdded gydag osgo stiff, a cherdded gyda chydbwysedd gwael. Dangosodd ymchwil arall o Brifysgol Stony Brook Efrog Newydd fod pobl sy’n defnyddio eu ffonau symudol tra’n cerdded yn 61% fwy tebygol o wyro o’u llwybr a chael damwain. Yn drist iawn, adroddodd papurau newydd yn yr Awstralia am ŵr ifanc a syrthiodd o ben maes parcio ‘multi-story’ tra’n teipio neges destun, neu nodyn-bodyn.
Nid yw’n rhyfedd, efallai felly, fod Ffrainc wedi gwahardd ffonau symudol o ysgolion o fis Medi yma ymlaen.
Yma yng Nghymru fe sylweddolodd ambell i gaffi a bwyty ei fod hefyd yn atal cymdeithasu. A gwnaiff hynny mo’r tro! Nid am Google yn sbwylio cwis yn y dafarn y mae nhw’n sôn ychwaith. Mae mwynhau sgwrs yn angenrheidiol a does dim byd yn waeth, meddai’r perchnogion, na chael lle yn llawn a’r lle yn dawel.
Yn Abertawe penderfynodd siop goffi Tino, sydd yng nghanol bwrlwm tafarndai a bwytai Wind Street yn y ddinas, y dylai pobl chwarae gemau a cheisio siarad a chysylltu gyda’i gilydd. Er mwyn gwneud hynny mae nhw wedi darparu gemau bwrdd, jenga, ‘connect 4’ ac ati ac mae’r perchennog, Tino Dzaro, yn ceisio perswadio pobl i roi eu ffonau gadw.
Yn Wrecsam wedyn penderfynodd cyfarwyddwr y dafarn, The Fat Boar, y dylai unrhyw un sy’n rhoi ei ffôn i’r dafarn wrth iddynt gyrraedd a’i adael ym meddiant y tafarnwr nes eu bod yn ymadael gael 25% oddi ar bris eu bwyd.
Nid bwytai a thafarndai yma yng Nghymru yw’r cyntaf i wneud hyn. Yn Leamington Spa rhoddwyd gwaharddiad tebyg mewn bwyty yn 2016 a penderfynodd y gadwyn o fwytai, Beefeater, i wahardd ffonau symudol wrth y bwrdd bwyd ar ddiwrnod Sul y Mamau.
Tydi pawb ddim yn cytuno, serch hynny, ac mae rhai o fwytai enwocaf y byd erbyn hyn wedi newid eu meddwl ac yn dewis caniatáu i bobl ddefnyddio eu ffonau symudol wrth y bwrdd bwyd. Barn y ‘chef’ yn Claridge’s, Llundain, yw ei bod yn bwysig caniatáu i bobl ddefnyddio eu ffonau erbyn hyn gan eu bod angen tynnu lluniau o’u bwyd.
Rhaid yw gofyn y cwestiwn: os na dynnwyd llun o’r pryd bwyd a’i anfon i’r byd ei weld, a ddigwyddodd y pryd o gwbl?
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.