Gair o Groeso gan y Cadeirydd – Lyn Ebenezer

Barn

 

Galwch e’n gyd-ddigwyddiad, ond wrth i mi wynebu sgrin fach fy ngliniadur a hel meddyliau ar gyfer fy ngholofn gyntaf i’r Cymro newydd, dyma sylweddoli fod yr ailymddangosiad yn cyd-fynd â hanner canrif o gyfrannu i’r papur. Ie, nôl yn 1968 y cyflogwyd fi i fel gohebydd Y Cymro yn ardal Aberystwyth, plwyf a ehangodd, yn raddol, i gynnwys Cymru gyfan. 

Nid yw’n hanner canrif union. Cychwynnais yn swyddogol ar y 12fed o Awst 1968, wythnos ar ôl Prifwyl Y Barri. Mae llythyr swyddogol y golygydd, Llion Griffith gen i mewn rhyw ddrôr. Does dim angen i mi dyrchu amdano. Mae’r neges ar fy nghof o hyd. A’r manylyn pwysicaf i Gardi: y ffaith y byddwn yn derbyn £22 yr wythnos. 

Roeddwn i wedi treulio deunaw mis ar y Cambrian News. Treuliais y naw mis cyntaf gyda’r Cymro yn gweithio o’m cartref yn y Bont cyn priodi ar Ddydd Gŵyl Dewi 1969 a symud i fflat yn y dre. Bûm yn aelod llawn o’r staff tan haf 1986 gan ddal i anfon ambell stori. Yna, flynyddoedd wedyn cychwynnais gyfrannu’r golofn hon. 

Cofiaf yn dda’r stori gyntaf i mi ei ffeilio yn 1968. Doedd hi ddim yn sgŵp o bell ffordd. Stori oedd hi ar hen gapel dinod Azariah Shadrach yn Stryd y Crynwyr yn Aberystwyth. Erbyn hynny roedd e’n gapel gorffwys. Wedyn fe’i dymchwelwyd i wneud lle i dai annedd. 

Yn ystod y naw mis cyntaf hynny cefais ddefnydd o swyddfa ar lawr uchaf Siop y Pethe. Roeddwn i fyny mor uchel fel y disgwyliwn weithiau gyfarfod â Yeti ar y grisiau. Yna, ar ôl priodi byddwn yn gweithio o’r tŷ. Fflat oedd y cartref cyntaf uwchben siop ffrwythau. Yna dyma brynu tŷ yn Grays Inn Road cyn symud i dŷ nobl ar waelod Rhiw Penglais. Yna nôl i’r Bont yn 2004 gan ddal i gyfrannu i’r hen bapur annwyl hwn. 

Do, bu’n siwrnai hir ac ansicr iawn ar brydiau. Bu’r papur ar ymyl y dibyn droeon. Yn wir, aeth dros y dibyn ond fe’i tynnwyd nôl fyny. Croeso nôl i’r Cymro ac i chwithau ddarllenwyr – hen a newydd.   

Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.

Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr

  • Tagged
    Tanysgrifio
    Gadewch wybod
    guest

    Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.

    0 Comments
    Adborth
    Gweld holl sylwadau