Rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar les anifeiliaid a chludiant yw’r rhai mwyaf llym yn y byd, ond mae llawer o’r rhai hynny sy’n honni eu bod nhw’n gefnogwyr brwd o’r UE oherwydd safonau o’r fath yn hapus i anwybyddu hyn pan ddaw’n fater o symud anifeiliaid o’r DU i dir mawr Ewrop.
Mae’r mater yn un arbennig o bwysig ar hyn o bryd: os ydym yn dod allan o’r UE heb gytundeb masnachol, bydd y tariff y bydd yn rhaid i ni ei dalu ar doriadau cig oen tua 50%, sy’n golygu bod 30 y cant o ŵyn Cymreig sy’n cael eu hallforio i Ffrainc a mannau arall yn colli hanner eu gwerth. Ond nid oes unrhyw dariff o’r fath yn cael ei roi ar allforion byw, sy’n golygu cyfle economaidd arall ar gyfer economi wledig Cymru.
Mae’r un broblem yn wynebu ffermwyr defaid Albanaidd, a dyna pam mae Llywodraeth yr Alban yn gadarn o blaid allforion byw. Eto i gyd, nid oes unrhyw neges o’r fath wedi dod o wleidyddion Cymreig, er gwaethaf bygythiadau rheolaidd gan weinidogion Lloegr Michael Gove a George Eustice i gyflwyno gwaharddiad. Mewn gwirionedd, mae gwaharddiad ar allforion byw wedi’i gynnwys yn ddiweddar yn y maniffesto lles anifeiliaid Llafur.
Os yw’r penderfyniadau i barhau yn ddistaw neu i gefnogi gwaharddiad allforio byw yn seiliedig ar oblygiadau lles symud anifeiliaid i fwy o bellter – symudiadau sy’n unol a rheolau lles llym yr UE – mae cynigion cyfredol Llywodraeth Cymru i orfodi cael camerâu ym mhob lladd-dy yn mynd yn groes i’r fath bryderon: Mae gan ladd-dai mawr gamerâu yn barod, ond mewn lladd-dy llai, lle mae milfeddyg eisoes yn bresennol i sicrhau bod safonau lles yn cael eu gweithredu, gall y gost o osod camerâu arwain at gau. Bydd hyn yn golygu bod anifeiliaid yn cael eu cludo ymhellach i ladd-dai mwy, yn aml y tu allan i Gymru, yn tanseilio cadwyni cyflenwi lleol a’r negeseuon allweddol am fwyd Cymru.
Er na allwn gytuno â phopeth sy’n digwydd yn yr Alban, mae llawer yn edmygu gwlad lle mae’n ymddangos bod gwleidyddion ddim yn ildio wrth wynebu negeseuon niweidiol a chamarweiniol gan garfanau pwyso sy’n honni eu bod yn cynrychioli barn y cyhoedd.
Cyhoeddir gan Cyfryngau Cymru Cyf.
Nid yw'r farn a amlygir yn erthyglau unigol y cyhoeddiad hwn o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoeddwyr
Mae'r safbwyntiau a fynegwyd yma yn eiddo i'n defnyddwyr ac nid o reidrwydd yn adlewyrchu barn Y Cymro neu unrhyw gwmni yn gysylltiedig a Y Cymro.